Skip to main content

Cefndir y Prosiect - Ysgol Gynradd Newydd ar gyfer Glyn-coch

 

Mae'r prosiect wedi cael cymorth ariannu drwy Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Menter arloesol yw hon ar gyfer creu tair ysgol newydd yng Nghymru. Mae un yn Rhondda Cynon Taf, un yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r llall yng Ngwynedd. Bydd yr ysgolion yma’n  ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd ar bob cam o'r gwaith cynllunio ac adeiladu, felly hefyd pan fydd drysau'r ysgolion wedi cael eu hagor. Bydd yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch yn blaenoriaethu iechyd a llesiant disgyblion, staff a chymuned Glyn-coch.

Bydd digon o leoedd yn yr ysgol newydd ar gyfer pob disgybl sydd yn mynychu ysgolion cynradd Cefn a Chraig-Yr-Hesg ar hyn o bryd; bydd ynddi leoedd ar gyfer 300 o ddisgyblion (oedran 4-11), yn ogystal â meithrinfa a dau ddosbarth cynnal dysgu. Yn ogystal â hyn fe fydd cyfleusterau pwrpasol ar gyfer y gymuned a hefyd darpariaeth gofal plant Gymraeg yn adeilad yr ysgol newydd. Fe fydd hyn yn creu canolfan addysgol, cymunedol a llesiant.

Entrance-Image-Render

Dyma weledigaeth y Cyngor ar gyfer y prosiect:

'Creu canolfan ar gyfer addysg, y gymuned a llesiant, sy'n uno Glyn-coch, yn diwallu anghenion lleol ac yn gwireddu dyheadau dysgwyr a'r gymuned.'

Wedi'i arwain gan y gymuned

Rydyn ni wedi sefydlu Fforwm Cymuned y Rhanddeiliaid yn rhan o'n dull cydweithio wrth ddylunio'r adeilad. Mae'r Fforwm yn rhan greiddiol o'n dull dylunio ar gyfer y cyfleusterau cymunedol sy'n cael eu cynnig ac fe fydd yn cyd-fynd yn dda â gweithgareddau ymgysylltu gyda'r ysgolion cyfredol, gan gynnwys y disgyblion.

"Mae arnom ni angen adeilad sy'n adlewyrchu ein dyheadau" Sarah Haggett – Pennaeth Gweithredol, Ffederasiwn Fern.

Yn yr ysgol newydd bydd darpariaeth ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, cymdeithasu ac addysgol, y mae dirfawr angen amdanyn nhw, ar gyfer y genhedlaeth iau. Ymhlith y rhain bydd Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd (AGAddau), parth ddysgu yn y goedwig a maes pêl-droed newydd sbon ar safle cyfredol Ysgol Gynradd Craig-Yr-Hesg.

Mae yna gyfle hefyd i gynnal gwasanaethau cymorth cynnil yn rhan o'r cyfleusterau cymunedol. Bydd union natur y rhain yn cael eu pennu ar sail yr anghenion lleol sydd wedi'u nodi drwy gydweithio â'r Fforwm Cymunedol.

Cysylltu'r ysgol â natur

Drwy gydnabod yr argyfwng natur sydd wedi'i ddatgan gan Lywodraeth Cymru, bydd yr ysgol yn gwireddu Enillion Net o ran Bioamrywiaeth a bydd yn sicrhau achrediad Building with Nature.

BWN-Logo

Er mwyn integreiddio natur yn y dyluniad, bydd y coetir ar ochr ogleddol yr ysgol newydd yn cael ei ymestyn i mewn i'r safle, a bydd parthau dysgu mewn coetir ac o amgylch pwll dŵr yno er mwyn creu cyfleoedd i ddisgyblion gysylltu â natur. Mae'r pwyslais ar ddylunio bioffilig ar gyfer yr ysgol drwyddi draw yn gyson â nodau’r Her Ysgolion Cynaliadwy.

Mae'r strategaeth tirlunio yn fodd o ddarparu ardaloedd dysgu o gwmpas y safle, gan gynnwys nifer o ardaloedd dosbarth yn yr awyr agored; bydd un o'r rhain ar lefel y llawr cyntaf er mwyn galluogi disgyblion hŷn i fod yn rhan o fyd natur. O ran y gymuned, fe fydd gardd dyfu a llesiant ar ei chyfer. Bydd yn fan tawel ar gyfer adfyfyrio ac yn fodd o greu cyfleoedd i annog bwyta'n iach.
Aerial-3d-Render

Bydd y dyluniad mewnol yn cyd-fynd â themâu ehangach y prosiect. Bydd defnyddio deunyddiau naturiol fel pren yn fodd o gyfrannu at amgylchedd mewnol heddychlon, yn yr ysgol.

Teithio Llesol

 Bydd teithio llesol yn cael ei flaenoriaethu ar safle'r ysgol newydd. Bydd mynedfa newydd ar gyfer cerddwyr yn cael ei chreu yng nghornel gogledd-orllewin y safle er mwyn annog y sawl sy'n byw ar ochr ogleddol y safle i ddod i'r ysgol ar droed. Bydd hefyd ardaloedd dan gysgod wedi'u creu i gyfeiriad gogleddol a deheuol adeilad yr ysgol, ar gyfer rhieni sy'n cyrraedd ar droed yn ystod cyfnodau hebrwng eu plant i'r ysgol a gartref.

Er mwyn bod yn gefn i'r sawl sy'n seiclo neu'n defnyddio sgwter i fynd i’r ysgol, bydd 49 man parcio beic/sgwter yn cael eu hadeiladu hefyd, ynghyd â storfa fygis ar gyfer rhieni / gwarcheidwaid sy'n hebrwng eu plant i'r cyfleuster gofal plant ar droed. Mae pob ardal storio beiciau / bygis yn strwythurau sydd wedi'u hamgáu ac arnyn nhw 'do gwyrdd' er mwyn atgyfnerthu gwydnwch hinsawdd ymhellach.

South-Elevation-Image-Render

Gwydnwch Hinsawdd

Yn ystod y cyfnod o adeiladu pob adeilad ysgol newydd yng Nghymru, mae rhaid sicrhau bod y lefel isaf bosib o garbon yn cael ei gynhyrchu. Mae rhaid gwireddu, hefyd, Carbon Sero Net pan fydd yr ysgolion yn weithredol. Mae hyn yn golygu y bydd yr ysgolion dan sylw'n gwrthbwyso rhagor o garbon nag y maen nhw'n ei gynhyrchu unwaith y byddan nhw'n cael eu defnyddio.

Bydd yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch yn cyflawni Carbon Sero Net pan fydd yn weithredol. Ar ben hynny, pan fydd yr ysgol yn agor yn 2026, bydd yn cyflawni targed carbon wedi'i ymgorffori Llywodraeth Cymru 2030 ar gyfer prosiectau ysgolion newydd. Nodwedd allweddol fydd yn helpu i gyflawni'r taged uchelgeisiol yma yw ffrâm bren yr ysgol newydd, a fydd yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio coed sydd wedi'u tyfu yma yn y DU.  Drwy ddefnyddio coed sydd wedi'u tyfu yma yn y DU yn hytrach na rhai sydd wedi'u mewnforio, fe fyddwn ni'n atgyfnerthu diwydiant pren y DU, sy'n prysur dyfu.

Adeiladu er llesiant

Y nod o ran yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch yw mai hi fydd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni achrediad WELL Building Standard Version 2 (WELL V2) .

Canolbwynt safon V2 WELL yw sut y gall adeilad fod yn fodd o ddarparu amgylcheddau iach ar gyfer pobl drwy 10 cysyniad allweddol sy'n hwyluso llesiant; ymhlith y rhain mae deunyddiau adeiladu, maeth, golau, cymuned, ac ansawdd aer a dŵr. 

Bydd adeilad yr ysgol newydd hefyd yn cael ei adeiladu yn unol â safon dylunio Passivhaus. Y nod o ran y safon yma yw optimeiddio perfformiad ynni a chyfforddusrwydd thermal ar gyfer y sawl sy'n defnyddio'r adeilad, gan ddarparu hyd yn oed rhagor o fuddion llesiant.

Prosiect cynllun braenaru ar gyfer dylunio ysgolion yng Nghymru

Yn unol â  Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, bydd effaith yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch yn cyrraedd y tu hwnt i'r mandad arferol ar gyfer ysgolion cynradd, ar adeg pan mae cymaint o bobl yn ei chael hi'n anodd o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae modd i'r prosiect fod yn gynllun braenaru ar gyfer dylunio addysg yng Nghymru ac fe fydd yn llunio rhan o astudiaeth achos, ynghyd â phrosiectau eraill yr Her Ysgolion Cynaliadwy. Y nod o ran hyn fydd rhoi ysbrydoliaeth i Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.