Bydd yr ysgol uwchradd yn Aberdâr yn cael bloc addysgu newydd o'r radd flaenaf, i gymryd lle'r ystafelloedd dosbarth dros dro ar ei safle presennol. Bydd disgyblion a staff yn gallu mwynhau'r cyfleusterau modern newydd mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd 2027/28.
Bydd y prosiect yn darparu bloc addysgu unllawr, annibynnol – a fydd yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, ystafell aml-ffydd/gymunedol a mannau eraill. Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Knox & Wells yn gontractwr i gyflawni'r prosiect, a fydd hefyd yn cynnwys gosod chwe lle parcio ychwanegol ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan.
Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio cyllid y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.