Skip to main content

Bloc addysgu newydd yn cael ei adeiladu ar gyfer ysgol yn Aberdâr

St Johns grid web

Mae buddsoddiad y Cyngor mewn cyfleusterau gwell yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Aberdâr, bellach yn cael ei gyflawni – wrth i waith gosod bloc addysgu modern, i'w agor y flwyddyn academaidd nesaf, ddechrau.

Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, er mwyn adeiladu bloc addysgu unllawr, pwrpasol ar safle presennol yr ysgol. Bydd y cyfleuster o'r radd flaenaf yn cymryd lle'r ystafelloedd dosbarth dros dro blaenorol roedd yr ysgol wedi bod yn eu defnyddio.

Bydd gan y bloc addysgu newydd bedair ystafell ddosbarth, ystafell gymunedol/aml-ffydd ac ardaloedd eraill – ynghyd â chwe lle parcio ychwanegol, sy'n cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan.

Dechreuodd gwaith sefydlu cychwynnol yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref, gyda'r prif gam adeiladu yn dechrau o ddydd Llun 2 Tachwedd.

Mae'r Cyngor wedi penodi Knox & Wells yn gontractwr i gyflawni'r cynllun, ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2027 – cyn dechrau blwyddyn academaidd 2027/28. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros y misoedd nesaf, gan darfu cyn lleied â phosibl ar yr ysgol a'r gymuned ehangach.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: “Rydw i'n falch bod gwaith wedi dechrau i gyflawni'r bloc addysgu newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Bydd cyfleusterau modern, o'r radd flaenaf, yn cymryd lle rhai ystafelloedd dosbarth dros dro, a hynny'n rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf, wrth i ni gyflawni ymrwymiad ariannu ar y cyd gwerth £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Mae prosiectau nesaf y cyllid yma'n cynnwys Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach – ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd sbon sy'n agor i ddisgyblion a staff yn fuan iawn. Bydd Ysgol Gynradd Glyn-coch yn dilyn ym mis Chwefror – ysgol o'r radd flaenaf arall sy'n gwella darpariaeth bresennol y gymuned yn sylweddol. Mae prosiectau'r dyfodol yn cynnwys ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Cwm Rhondda yn ardal Cymer lle mae gwaith galluogi yn mynd rhagddo, ac Ysgol Llanhari, ynghyd â bloc addysgu newydd ar gyfer is-safle Ysgol Tŷ Coch ym Muarth y Capel, Ynys-y-bwl.

“Y bwriad yw gwneud cynnydd pwysig dros y misoedd nesaf yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yn Aberdâr, wrth i ni gyflawni'r prosiect yn yr haf y flwyddyn nesaf. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda'r contractwr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar ddysgu'r disgyblion, ac ar y gymuned leol ehangach. Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd y bloc addysgu newydd, ac at weld sut mae disgyblion a staff yn elwa ar yr ased newydd ardderchog yma.”

Cewch ddysgu rhagor am fuddsoddiad y Cyngor mewn cyfleusterau addysg ledled y Fwrdeistref Sirol ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 02/11/2026