Mae Cyngor RhCT wedi "Mynegiannau o Ddiddordeb" gan grwpiau cymunedol "nid er elw" ar yr adeiladau canlynol i drosglwyddo prydles.
Hoffai'r Cyngor ystyried barn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a Chynghorau Tref a Chymuned ar draws RhCT ynglŷn ag a oes modd defnyddio'r eiddo yma fel “Ased o Werth Cymunedol” i gyflawni gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned ehangach a lle bo hynny'n bosibl yn cyfrannu at y blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor RhCT “Gweithio gyda'n Cymunedau”
Byddwn ni'n rhoi 'Cyfle Euraid 30 diwrnod' i unrhyw grwpiau cymunedol sydd am "Fynegi Diddordeb" yn y potensial o drosglwyddo prydles yr adeiladau i'r gymuned eu defnyddio. Nodwch: O ganlyniad i gyfnod y Nadolig, byddwn ni'n ychwanegu wythnos ychwanegol at y cyfnod mynegi diddordeb.
Ar ôl mynegi diddordeb, ac ar sail tystiolaeth y bydd modd i'ch cynnig gyfrannu at anghenion y gymuned leol, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn y cam nesaf lle bydd gyda chi hyd at 13 wythnos i lunio Cynllun Busnes sy'n nodi'r holl gostau. Bydd raid i chi roi tystiolaeth bod eich cynnig yn diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy.
Sylwch: Mae'r broses “30 Diwrnod” yn sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp cymunedol a menter gymdeithasol a hoffai fynegi diddordeb.
Os na fydd diddordeb gan y gymuned yn yr adeilad(au) yma neu'r darn(au) o dir, yna mae modd i'r Cyngor ystyried cael gwared ar yr ased ar y farchnad agored.
Os ydych chi am Fynegi Diddordeb cychwynnol ynghylch yr adeilad(au) canlynol, ewch ati i gwblhau'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod a'i hanfon drwy e-bost at RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk cyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi isod. Sylwch: Peidiwch â phostio unrhyw ffurflenni wedi'u llenwi i swyddfeydd y Cyngor gan fod y garfan yn gweithio gartref.
Ffurflen Mynegi Diddordeb
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach neu gymorth arnoch i'ch helpu gyda'ch cynnig, anfonwch e-bost at Garfan Datblygu'r Gymuned y Cyngor: RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio'r Swyddogion Datblygu ar gyfer yr ardal wedi'u nodi isod. Bydd modd iddyn nhw ddarparu cyngor, cymorth a'ch cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol os oes angen.
Carfan Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Adeiladau / Ystafelloedd Gwag y Cyngor
Ased | Ffotograff o'r Adeilad a'r Cynlluniau Llawr | Llun o'r safle | Disgrifiad o'r Adeilad/Tenantiaeth Gyfredol | Dyddiad Agor | Dyddiad Cau |
Canolfan Chwaraeon Llanilltud Faerdref
Parc Canol,
Pentre'r Eglwys,
Pontypridd,
Rhondda Cynon Taf
CF38 1RJ
Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) 10008
|
|
|
Mae'r Cyngor wedi derbyn "Mynegiant o Ddiddordeb" gan sefydliad cymunedol lleol sydd eisiau sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd, er mwyn i'r gymuned elwa o'r adeilad yn y dyfodol agos.
Mae rhan o'r adeilad ar gael er budd y gymuned drwy brydles tymor hir.
Bydd y Cyngor yn cadw rhan o’r adeilad sy’n cael ei defnyddio gan ddarparwr meithrinfa ar hyn o bryd.
Mae campfa sydd ar gael i'r cyhoedd yn yr adeilad – y dewis yw bod y ddarpariaeth yma'n parhau i fod yn amod o'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol.
Mae Carfan Eiddo'r Cyngor yn argymell bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon a hamdden. Does dim defnydd cyfyngedig hysbys.
Amodau arfaethedig:
- Mae'r Cyngor yn ffafrio prydles tymor hir yn amodol ar gytundeb.
- Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl dreuliau gan gynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewnol ac allanol, cyfleustodau a'r holl gostau er mwyn cydymffurfio â safonau adeiladau statudol angenrheidiol.
- Bydd y Cyngor yn yswirio'r adeilad yn unig. Bydd y premiwm yswiriant yn cael ei godi ar y tenant bob blwyddyn.
- Tenant i fod yn gyfrifol am yswiriant cynnwys ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Mae'r costau blynyddol presennol wedi'u nodi isod:
- Nwy £17,600
- Trydan £15,700
- Ardreth Annomestig Genedlaethol (Ardrethi Busnes) £15,260
- Dŵr £2,230
- Gwaith cynnal a chadw tua £10k o'r gyllideb bob blwyddyn (tanwario bob amser)
- Contractau Gwasanaethau £2100
|
|
CAEEDIG
|
Canolfan Cymuned Rhodfa’r Cambrian (Caban Gwyn)
Rhodfa'r Cambrian
Gilfach-goch
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 8TG
Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) 11015 |
|
|
Mae'r Cyngor wedi derbyn "Mynegiant o Ddiddordeb" gan sefydliad cymunedol lleol sydd eisiau sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd, er mwyn i'r gymuned elwa o'r adeilad yn y dyfodol agos.
Mae'r adeilad i gyd ar gael er budd y gymuned drwy brydles tymor hir. Dydy'r tir ddim yn rhan o hyn a bydd y Cyngor yn ei gadw.
Mae Carfan Eiddo'r Cyngor yn argymell bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd y gymuned.
Bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel gorsaf bleidleisio lle bydd angen i'r Cyngor wneud hynny.
Mae'r eiddo yn destun amrywiaeth o gyfamodau mewn perthynas â defnydd yr adeilad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gais.
Amodau arfaethedig:
- Mae'r Cyngor yn ffafrio prydles tymor hir yn amodol ar gytundeb.
- Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl dreuliau, gan gynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewnol ac allanol. Bydd disgwyl i'r tenant dalu am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â rhedeg yr adeilad, gan gynnwys: cyfleustodau, gwaith cynnal a chadw a chostau er mwyn cydymffurfio â safonau adeiladau statudol.
- Bydd y Cyngor yn yswirio'r adeilad yn unig. Bydd y premiwm yswiriant yn cael ei godi ar y tenant bob blwyddyn.
- Tenant i fod yn gyfrifol am yswiriant cynnwys ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.
Mae'r costau blynyddol presennol wedi'u nodi isod:
- Diogelwch £190
- Nwy £1920
- Trydan £1280
- Ardreth Annomestig Genedlaethol (Ardrethi Busnes) £1260
- Dŵr £120
Nodwch: Dydy’r ganolfan ddim wedi cael ei defnyddio ryw lawer ers Covid-19 ac mae’r costau yma’n adlewyrchu hyn
|
|
CAEEDIG
|
Canolfan Oriau Dydd Tŷ Teifi
Heol yr Orsaf
Maerdy,
Glynrhedynog,
RhCT
CF43 4BE
Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) 13098
|
|
Cynllun o'r Llawr Isaf
Cynllun o'r Lawr Gwaelod
Cynllun o'r Llawr Cyntaf
|
Mae'r eiddo yn cynnwys adeilad ffrâm goncrit wedi'i adeiladu dros lawr isaf, llawr gwaelod a llawr cyntaf. Mae ganddo ddrychiadau wedi'u rendro ac â brics, a ffenestri UPVC gwydr dwbl. Ar lawr isaf yr eiddo mae gweithdai a swyddfeydd, mae ystafell fwyta a chegin ar y llawr gwaelod, a neuadd a mannau storio ar y llawr cyntaf. Cafodd yr eiddo ei ddefnyddio'n flaenorol fel canolfan oriau dydd.
Mae'r adeilad i gyd ar gael er budd y gymuned drwy brydles tymor hir.
Mae Carfan Gwasanaeth Eiddo'r Cyngor yn cynghori mai'r defnydd presennol a defnydd swyddfa yw'r defnydd a ganiateir. Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r rhai uchod.
Amodau arfaethedig:
1. Mae'r Cyngor yn ffafrio prydles tymor hir yn amodol ar gytundeb
2. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl
gostau gan gynnwys cyfleustodau
mewnol ac allanol, gwaith cynnal a chadw a gwaith cydymffurfio statudol.
Pan oedd yr adeilad ar agor yn flaenorol yn 2017/18, cynghorir mai dyma oedd y costau blynyddol:
-
Nwy £4,347
-
Trydan £2,825
-
Ardreth Annomestig Genedlaethol (Ardrethi Busnes) £5,614
-
Dŵr £679
-
Cynnal a chadw tua £4-5k y flwyddyn
-
Contractau Gwasanaeth £681 y flwyddyn
3. Bydd y Cyngor yn yswirio'r adeilad yn unig. Bydd y premiwm yswiriant yn cael ei godi ar y tenant bob blwyddyn.
|
|
Caeedig
|