Skip to main content

Tir - Cyfleoedd trosglwyddo

Oes gyda chi gynnig arloesol i ddefnyddio Tir y Cyngor i wella golwg eich cymuned leol neu ddarparu gwasanaethau neu gyfleoedd ymgysylltu a all gyfrannu at gefnogi blaenoriaethau Pobl, Lleoedd a Ffyniant? Cysylltwch â charfan RhCT Gyda'n Gilydd drwy ebostio rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425368 i drafod eich cynnig.

Gweld y cyfleoedd trosglwyddo tir cyfredol:

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ("y Cyngor") wedi datgan nad oes angen y darn o dir canlynol bellach ac mae'n chwilio am gynigion cymunedol arloesol ar gyfer rheoli'r adeilad yn barhaus ac i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag anghenion yn y gymuned leol neu'r fwrdeistref gyfan.

Hoffai'r Cyngor ystyried barn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a Chynghorau Trefi a Chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf (RhCT) ynglŷn â defnyddio'r eiddo yma fel "Ased o Werth yn y Gymuned" i gyflawni gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned ehangach a lle bo hynny'n bosibl yn cyfrannu at y blaenoriaethau allweddol sydd wedi'u nodi yng 'Gweithio gyda'n Cymunedau 2024-2030 "Cyflawni Newid". Cynllun Corfforaethol y Cyngor | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Byddwn ni'n rhoi "Cyfle Euraid 30 diwrnod" i unrhyw grwpiau cymunedol sydd am "Fynegi Diddordeb" mewn trosglwyddo prydles y tir er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio.

Ar ôl mynegi diddordeb, ac ar sail tystiolaeth y bydd modd i'ch cynnig gyfrannu at anghenion y gymuned leol, mae'n bosibl y cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn y cam nesaf lle bydd gyda chi hyd at 13 wythnos i lunio Cynllun Busnes sy'n nodi'r holl gostau. Bydd raid i chi roi tystiolaeth bod eich cynnig chi’n diwallu anghenion y gymuned, ei fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy.

Sylwch: Mae'r broses “30 Diwrnod” yn sicrhau cyfle cyfartal i bob grŵp cymunedol a menter gymdeithasol a hoffai fynegi diddordeb.

Os na fydd diddordeb gan y gymuned yn yr eiddo yma, yna mae modd i'r Cyngor ystyried cael gwared ar yr ased ar y farchnad agored.

Os ydych chi am Fynegi Diddordeb cychwynnol ynghylch yr eiddo canlynol, ewch ati i gwblhau'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod a'i hanfon drwy e-bost at RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk cyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi isod. Sylwch: Peidiwch â phostio unrhyw ffurflenni wedi'u llenwi i swyddfeydd y Cyngor gan fod y garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd.

Ffurflen Mynegi Diddordeb 

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth bellach arnoch i'ch helpu â'ch cynnig, anfonwch e-bost at Garfan Datblygu'r Gymuned y Cyngor: RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio'r Swyddogion Datblygu ar gyfer yr ardal wedi'u nodi isod. Bydd modd iddyn nhw ddarparu cyngor, cymorth a'ch cyfeirio at asiantaethau cymorth priodol os oes angen.  

Ased Trosolwg o'r Tir o'r Awyr Llun o'r safle Disgrifiad/Tenantiaeth GyfredolDyddiad AgorDyddiad Cau

Tir ym Muarth-y-capel, Ynys-y-bwl

 

Cyfeiriad: Buarth-y-capel, Ynys-y-bwl, CF37 3BP

 Buarth-y-Capel-former-allotments-image  Buarth-y-Capel-former-allotments map Mae'r tir ar gael i'r gymuned trwy drosglwyddo'r brydles.

 

Ar gyfer hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac/neu amgylcheddol.

 

Ystyrir rhandiroedd, tyfu llysiau neu ddefnydd gardd yn ddibenion a fyddai'n cael eu caniatáu.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2. Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer defnyddio'r safle.

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

 

6. Bydd Rhent y Farchnad yn daladwy yn amodol ar y defnydd arfaethedig.  Bydd sefydliadau cymunedol nad ydyn nhw'n gwneud elw, ac sy'n dymuno defnyddio'r tir er budd y gymuned, yn cael eu hannog i wneud cais am bris rhent consesiynol.

 

Noder: Mae'n bosibl y bydd angen ystyried bywyd gwyllt lleol ar y safle, gan gynnwys cynefinoedd adar sy'n nythu, amffibiaid, ymlusgiaid a draenogod. 

O ganlyniad, bydd defnydd safleoedd, a'r cynigion ar gyfer rheoli a chlirio llystyfiant, angen bod yn ystyriol ac yn addas ar gyfer bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cyfraith bywyd gwyllt yn cael ei hystyried yn y ffordd gywir. Bydd croeso i gynigion i wella'r safle neu sicrhau y bydd bywyd gwyllt lleol yn ffynnu.

 

 02/06/2025  01/07/2025

Tir ym Mharc Garth, Trealaw, Tonypandy.

 

Cyfeiriad: Parc Garth, Heol y Nîl, Tonypandy CF40 2UY

 Garth-Park--image  Nile-Road-RLP-map Mae'r tir ar gael at ddibenion hamdden er budd y gymuned trwy brydles.

 

Ar gyfer hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol, corfforol ac/neu amgylcheddol.

 

Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r awgrym uchod.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2. Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer datblygu'r safle. 

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

 

7. Bydd Rhent y Farchnad yn daladwy yn amodol ar y defnydd arfaethedig. Bydd sefydliadau cymunedol nad ydyn nhw'n gwneud elw, ac sy'n dymuno defnyddio'r tir er budd y gymuned, yn cael eu hannog i wneud cais am bris rhent consesiynol.

 

Noder: Mae'n bosibl y bydd angen ystyried bywyd gwyllt lleol ar y safle, gan gynnwys cynefinoedd adar sy'n nythu, amffibiaid, ymlusgiaid a draenogod. 

O ganlyniad, bydd defnydd safleoedd, a'r cynigion ar gyfer rheoli a chlirio llystyfiant, angen bod yn ystyriol ac yn addas ar gyfer bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cyfraith bywyd gwyllt yn cael ei hystyried yn y ffordd gywir. Bydd croeso i gynigion i wella'r safle neu sicrhau y bydd yr ardal bywyd gwyllt lleol yn ffynnu.  

 02/06/2025  01/07/2025

Tir ger Ysgol Gynradd Coed-y-lan, Pontypridd, RhCT, CF37 2DB 

 Coed-Y-Lan-image  Coed-Y-lan-map Mae'r tir ar gael er budd y gymuned trwy brydles hirdymor.

 

Mae Carfan Eiddo'r Cyngor yn argymell bod y safle'n cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden neu arddwriaeth er budd y gymuned.

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Mae'r Cyngor yn ffafrio prydles tymor hir yn amodol ar gytundeb

 

2. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer datblygu'r safle. 

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl  

wariant gan gynnwys cyfleustodau, cynnal a chadw 

a chydymffurfiad â safonau statudol ar gyfer holl

cynigion i ddatblygu'r safle (os yn berthnasol)

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

 

7. Bydd Rhent y Farchnad yn daladwy yn amodol ar y defnydd arfaethedig. Bydd sefydliadau cymunedol nad ydyn nhw'n gwneud elw, ac sy'n dymuno defnyddio'r tir er budd y gymuned, yn cael eu hannog i wneud cais am bris rhent consesiynol.

 

Noder: Bydd angen i ymgeiswyr fod yn effro i unrhyw Orchymyn Cadw Coed ar y safle yn rhan o'u hystyriaethau.

Mae'n bosibl y bydd angen ystyried bywyd gwyllt lleol ar y safle, gan gynnwys cynefinoedd adar sy'n nythu, amffibiaid, ymlusgiaid a draenogod. 

O ganlyniad, bydd defnydd safleoedd, a'r cynigion ar gyfer rheoli a chlirio llystyfiant, angen bod yn ystyriol ac yn addas ar gyfer bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cyfraith bywyd gwyllt yn cael ei hystyried yn y ffordd gywir. Bydd croeso i gynigion i wella'r safle neu sicrhau y bydd yr ardal bywyd gwyllt lleol yn ffynnu
 02/06/2025  01/07/2025

Tir ar Heol Tynybryn, Tonyrefail

 

Cyfeiriad: Tir ar Heol Tynybryn, Tonyrefail, CF39 8DA

 

 

Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN): L000 1130

 Land at Tynybryn Road, Tonyrefail site photo  Land at Tynybryn Road, Tonyrefail aerial map Mae'r tir ar gael i'r gymuned trwy drosglwyddo'r brydles.

 

Ar gyfer hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac/neu amgylcheddol.

 

Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r awgrym uchod.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2. Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer datblygu'r safle. 

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

 

 

Mae gyda'r safle fywyd gwyllt diddorol gan gynnwys y posiblrwydd i fod yn gartref i adar sy'n nythu, amffibiaid, ymlusgiaid a draenogod. 

O ganlyniad bydd defnydd safleoedd, a'r cynigion ar gyfer rheoli a chlirio llystyfiant, angen bod yn ystyriol ac yn addas ar gyfer bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cyfraith bywyd gwyllt yn cael ei hystyried yn y ffordd gywir. Bydd croeso i gynigion i wella'r safle neu sicrhau y bydd yr ardal bywyd gwyllt lleol yn ffynnu'.  

   Caeedig

Tir ym Mhen-pych (safle Cae Chwarae Blaen-cwm)

 

Ger Maes Parcio Pen-pych, Blaen-cwm

 

Cyfeiriad: Tir ar Gaeau Chwarae Pen-pych, Heol Blaen-cwm, Treherbert, Rhondda Cynon Taf, CF42 5DW

 

 

Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN): 90647

 Land at Penpych (former Blaencwm Football Field)  site photo  Land at Penpych (former Blaencwm Football Field) aerial map  

Mae'r tir ar gael i'r gymuned yn unol â phrydles.

 

Ar gyfer hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol.

 

Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r awgrym uchod.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2. Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb, ecolegol, bioamrywiaeth ac amgylcheddol sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer datblygu'r safle. 

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

 

 

Noder

 

Mae'r safle wedi'i leoli ar wastraff glofa wedi'i ailstrwythuro, ond mae wedi cronni gwerth a diddordeb ecolegol. Mae gyda'r safle blanhigion glaswelltir tir llwyd amrywiol tamp/gwlyb, ymylon prysgoed a rhai coed ifainc. Mae gyda'r safle gynefinoedd adar, ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac mae'n cael ei ddefnyddio yn gynefin fforio gan ystlumod.

 

Rhaid cefnogi unrhyw gynigion gydag asesiadau ecolegol addas a rhaid dangos tystiolaeth o liniaru a gwella bioamrywiaeth. Rhaid ond dangos tystiolaeth o wella bioamrywiaeth os mae gydag ardaloedd cyfagos fesurau rheoli cynefin cydadferol sy'n digolledu effeithiau unrhyw ddatblygiadau arfaethedig.

 

Rhaid cynnal isafswm o Arolwg Cam 1/Arfarniad Ecolegol er mwyn helpu i ddeall os bydd angen cynnal asesiad penodol pellach. Mae Polisi Cynllunio Cymru bellach angen i ddatblygiadau newydd gael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a byddai angen nodi tystiolaeth o hyn.

 

Rhaid i ddefnyddiau safle, a chynigion ar gyfer rheoli a chlirio llystyfiant fod yn ystyriol ac yn addas ar gyfer bywyd gwyllt, gan sicrhau bod cyfraith bywyd gwyllt yn cael ei hystyried yn y ffordd gywir. Bydd croeso i gynigion i wella'r safle neu sicrhau y bydd yr ardal bywyd gwyllt lleol yn ffynnu'. 

 

Yn olaf, rhaid i unrhyw ddatblygiad arfaethedig ystyried yr angen posibl i ddiogelu cydlyniaeth ar gyfer unrhyw lwybr(au) teithio llesol Rhondda Fawr yn y dyfodol.

 

Teithio Llesol a Beicio | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)
   Caeedig

Tir yn Fernhill (hen safle twnnel polythen)

 

Cyfeiriad: Fernhill, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, CF45 3EG

 

 

Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN): L000 1323

 Site photo  Fernhill Poly Tunnel Site  

Mae'r tir yn Fernhill, Aberpennar yn mesur tua 1001.89 m2. Roedd y safle yn arfer cynnwys 2 dwnnel polythen mawr oedd yn cael eu defnyddio gan grŵp cymunedol lleol. Mae'r safle bellach yn wag ac wedi'i glirio'n ddiweddar.

 

Yr awgrym o ran defnydd y tir yw ei ddefnyddio fel gardd gymunedol er budd y gymuned.

 

Bydd raid i ymgeiswyr wneud ymholiad gyda'r Adran Gynllunio os ydy'r cynigion yn ymwneud â defnydd heblaw'r awgrym uchod.

 

Mae'r tir ar gael i'r gymuned trwy drosglwyddo'r brydles.

 

Bydd unrhyw brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ar sail Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Amodau arfaethedig:

 

1. Prydles – yn amodol ar gontract a chytuno ar y telerau.

 

2.Tenant i fod yn gyfrifol am unrhyw astudiaethau dichonoldeb sy'n ofynnol (os oes angen) er mwyn llywio a chael gafael ar y caniatâd perthnasol sydd ei angen ar gyfer datblygu'r safle.

 

3. Tenant i fod yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r safle, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i atgyweiriadau, gwelliannau, cynnal a chadw, cyfleustodau ac unrhyw gydymffurfiaeth statudol.

 

4. Bydd y tenant yn gyfrifol am gael Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer lleiafswm o £10 miliwn fesul hawliad.

 

5. Bydd y tenant yn gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynigion datblygu safle, os yw hynny'n berthnasol.

 

6. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth am delerau ychwanegol os yw cynigion yn cael eu hystyried ymhellach.

   Caeedig

Caeau Chwarae Rhondda Ganol

 

Heol Gelli, Tonypandy, RhCT, CF40 1DB

 

UPRN 90413

mid Rhondda playing fields site photo

Mid Rhondda Playing Fields Red Line Aerial Map

 

Caeedig