Beth yw'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol?
Mae'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol dim ond ar gael i sefydliadau sydd â chyfrifoldeb am drosglwyddo ased o'r Cyngor i sefydliad nad ydyw'n gwneud elw personol.
Er mwyn sicrhau bod modd i Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol (TAC) gyflawni gofynion strategol a gofynion gwasanaethau cymuned lleol y Cyngor (a'i bartneriaid), nod y gronfa yw meithrin cymunedau cydnerth trwy weithio ar y cyd â phob sector yn Rhondda Cynon Taf.
Dim ond ceisiadau am TAC sy'n cyfrannu tuag at anghenion a blaenoriaethau datblygu'r Cyngor, Rhwydweithiau Cymdogaeth, a deilliannau ac allbynnau sy'n ofynnol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, byddwn ni'n bwrw ymlaen â nhw.
Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Cronfa Gymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gael yma: Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Grant Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Dim ond i gefnogi trosglwyddiad gweithredol adeiladau'r Cyngor i bartneriaid cymunedol trwy brydles, trwydded neu Denantiaeth Wrth Ewyllys y mae'r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar gael. Mae modd hefyd ystyried grwpiau sydd efallai angen cymorth i gynnal tenantiaethau lle mae'r holl opsiynau ariannu eraill wedi'u disbyddu.
Yn ogystal â chyflawni un neu ragor o Ddeilliannau Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU, bydd angen i bob prosiect gyd-fynd ag un, neu fwy o’r amcanion sydd wedi'u nodi yng Cynllun Corfforaethol Rhondda Cynon Taf 2024-2030 - Gweithio gyda'n Cymunedau (drafft). Mae'r rhain fel a ganlyn:
- POBL a CHYMUNEDAU - cefnogi a grymuso trigolion a chymunedau Rhondda Cynon Taf i fyw bywydau diogel, iach a boddhaus.
- GWAITH a BUSNES - helpu i gryfhau a thyfu economi Rhondda Cynon Taf.
- BYD NATUR a'r AMGYLCHEDD - RhCT gwyrdd a glân sy'n gwella ac yn gwarchod yr amgylchedd a byd natur.
- DIWYLLIANT a THREFTADAETH - Cydnabod a dathlu gorffennol, presennol a dyfodol RhCT.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Mae modd ystyried ceisiadau gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol ddim er elw, mentrau cymdeithasol, Cynghorau Cymuned a Thref.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth fod ganddyn nhw ddogfen Gyfansoddiad/Lywodraethu a chyfrif banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnodwr gwahanol.
Am beth gaf i wneud cais?
Mae modd defnyddio'r Gronfa ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo asedau cymunedol eiddo neu dir y Cyngor i berchnogaeth gymunedol trwy gytundeb tenantiaeth, h.y. prydles, trwydded neu Denantiaeth wrth Ewyllys. Dyma enghreifftiau o'r mathau o gostau a allai gael eu cymeradwyo:
Cyfalaf
- Prynu offer
- Adnewyddu
- Addurno
- Gwaith adeiladu
Refeniw
- Costau cyfreithiol
- Yswiriant
- Arolygon Adeiladu / Tir / Cyflwr
- Hyfforddiant
Faint o arian rydw i'n cael gwneud cais amdano?
Fel arfer, uchafswm cyfraniad y grant fydd £14,999. Byddwn ni'n asesu cynigion ar sail y cyntaf i'r felin, yn ddibynnol ar gymhwysedd ac ar y cyllid sydd ar gael.
Sut bydd y grant yn cael ei dalu?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch chi'n derbyn llythyr/e-bost gyda manylion y grant a'i delerau ac amodau. Os ydych chi'n dymuno derbyn y grant, bydd angen i chi lofnodi'r telerau ac amodau a'u dychwelyd.
Fel arfer, dim ond ar ôl cyflwyno anfonebau a thystiolaeth ffotograffig (lle y bo'n berthnasol) ar ddiwedd y prosiect caiff taliadau eu gwneud, a hynny i'r cyfrif banc sydd wedi'i nodi yn eich cais.
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth am y broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'r cymorth sydd ar gael, ffoniwch Garfan RhCT Gyda'n Gilydd ar 01443 425368 neu e-bostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk.