Skip to main content

Ceisiadau i Gau'r Ffordd er Mwyn Cynnal Parti Stryd i Ddathlu'r Coroni

Coronation Street Parties

Gyda chymorth y Cyngor, mae modd i gymunedau sy'n dymuno cael parti stryd i ddathlu Coroni y Brenin Charles III ar benwythnos Gŵyl y Banc wneud cais i gau'r ffordd.   

Bydd Coroni Ei Fawrhydi y Brenin ac Ei Mawrhydi y Frenhines Gydweddog yn digwydd ddydd Sadwrn, 6 Mai a bydd Gŵyl y Banc ddydd Llun, 8 Mai. Bydd nifer o achlysuron a mentrau'n digwydd ledled y DU drwy gydol penwythnos Gŵyl y Banc (6-8 Mai) i ddathlu'r Coroni.  

Er mwyn cynorthwyo trigolion a chymunedau i ddod ynghyd i ddathlu'r achlysur yma, bydd y Cyngor yn diddymu'r costau arferol i gau'r ffordd i'r rheiny sy'n bwriadu cynnal parti stryd. Cofiwch fod rhaid i bob stryd unigol wneud cais unigol i gau'r ffordd a rhaid i'r parti gael ei gynnal ar ddyddiau Gŵyl y Banc yn unig (6-8 Mai).   

Mae'n cymryd amser i drefnu cau'r ffordd. Rhaid dilyn proses ymgeisio ffurfiol er mwyn cau unrhyw ffordd ar gyfer parti stryd, fel bod y Cyngor yn effro i bob un. Drwy wneud hyn bydd modd i'r Cyngor roi gwybod i sefydliadau partner eraill.  

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cynnal parti stryd wneud cais i'r Cyngor cyn y dyddiad cau sef dydd Llun, 3 Ebrill. Fydd ceisiadau sy'n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad yma ddim yn cael eu derbyn. Mae modd cwblhau'r broses ar wefan y Cyngor

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu ceisiadau erbyn 12 Ebrill.  

Meddai llefarydd dros Gyngor Rhondda Cynon Taf : "Bydd y Cyngor yn rhoi cymorth i drigolion sy'n dymuno dathlu Coroni'r Brenin Charles III trwy gynnal parti stryd ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai trwy ddiddymu'r costau arferol ar gyfer cau'r ffordd yn ffurfiol. 

“Mae'r trefniadau yma'n debyg i drefniadau'r Jiwbilî Blatinwm ym mis Mehefin 2022 pan fu swyddogion wrthi'n rhoi cymorth i drigolion gwblhau'r broses ymgeisio . 

"I sicrhau bod y dathliadau'n cael eu cynnal yn y ffordd fwyaf diogel posibl, bydd rhaid i bob stryd gael ei chau'n ffurfiol. Bydd y broses ymgeisio yn rhoi gwybod i'r Cyngor ble bydd pob dathliad yn digwydd ac yn caniatáu i swyddogion rannu'r wybodaeth â sefydliadau partner megis y gwasanaethau brys a gweithredwyr bysiau. Rhaid cyflwyno cais i'r Cyngor ar-lein erbyn 3 Ebrill fel bod modd prosesu pob cais mewn da bryd."  

Wedi ei bostio ar 14/03/23