Mae un o swyddogion Hebryngwyr Croesfannau Ysgol hiraf ei wasanaeth yn y Cyngor wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl degawdau o wasanaeth i gymuned Ysgol Gynradd y Darren-las yn Aberpennar. Mae Anne Francis wedi helpu cannoedd o ddisgyblion i groesi'r ffordd yn ddiogel bob dydd, ar yr un groesfan, ers dros 32 mlynedd.
Boed law neu hindda, mae Anne yn gosod ei larwm bob bore i gymryd ei lle yn Stryd Kingcraft, gan helpu teuluoedd a cherddwyr i aros yn ddiogel yn ystod yr amser prysur gollwng disgyblion i'r ysgol – cyn dychwelyd yn ddiweddarach yn y dydd ar gyfer yr amser casglu yn y prynhawn. Dechreuodd yn ei swydd tua 1994, a hynny'n wreiddiol mewn swydd llanw gafodd ei gwneud yn un barhaol yn ddiweddarach. Ychydig a wyddai Anne y byddai hi'n parhau i fod yn wyneb cyfarwydd a chyfeillgar yn y gymuned am dros dair degawd.
Mae Anne wedi cadw cenedlaethau o deuluoedd yn ddiogel, gan gamu allan i'r ffordd brysur i atal y traffig - a hynny'n aml mewn tywydd heriol. Mae ei thri phlentyn ymhlith y nifer o ddisgyblion mae hi wedi'u gweld yn dechrau yn Ysgol Gynradd y Darren-las ar eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol ac yna ffarwelio â nhw flynyddoedd yn ddiweddarach ar eu diwrnod olaf.
Meddai Anne: Rydw i wedi mwynhau pob eiliad. Mae'n rhoi llawer o foddhad i mi, gan gadw'r plant yn ddiogel wrth iddyn nhw fynd i'r ysgol. Maen nhw bob amser yn gyfeillgar ac yn hapus i'ch gweld chi. Mae'r rhieni a'r athrawon i gyd yn eich gwerthfawrogi chi'n fawr hefyd – ac mae fy mhenaethiaid yn y Cyngor wedi bod yn wych hefyd. Roeddwn i eisiau dweud serch hynny, i bwy bynnag sy'n ymgymryd â'r swydd ar fy ôl i, mae'n beth gwerth chweil iawn i'w wneud.”
Gweithiodd Anne ei sifft olaf yn ddiweddar ar 23 Hydref, cyn hanner tymor yr ysgol, ac mae'n dweud mai nawr yw'r amser iawn iddi ymddeol. Mae hi'n edrych ymlaen at dreulio amser gyda'i gŵr Steve sydd hefyd wedi ymddeol ar ôl 50 mlynedd o waith.
Meddai'r Cynghorydd Louisa Addicott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf: “Mae Anne wedi rhoi gwasanaeth gwych i’r gymuned yn Ysgol Gynradd y Darren-las – dyma enghraifft dda o’r gwaith pwysig ac ymroddedig y mae ein Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn ei wneud bob dydd, i gadw disgyblion a theuluoedd yn ddiogel. Mae Anne wedi gwasanaethu ei chymuned gyda rhagoriaeth ers 1994. Mae rhai o'r plant yr helpodd hi i groesi'r ffordd flynyddoedd lawer yn ôl bellach yn rhieni eu hunain, ac yn mynd â'u plant eu hunain i'r ysgol – sy'n dangos hirhoedledd ei gwasanaeth. Llongyfarchiadau Anne ar dy ymddeoliad haeddiannol iawn!”
Meddai Victoria Morris, Pennaeth Ysgol Gynradd y Darren-las: “Hoffai Ysgol Gynradd y Darren-las ddiolch i Anne Francis am ei blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig. Mae Anne wedi gwneud cyfraniad enfawr at ddiogelwch a lles ein disgyblion ac mae wedi bod yn aelod gwerthfawr o gymuned ein hysgol ers blynyddoedd lawer. Rydyn ni'n dymuno ymddeoliad hir, hapus a haeddiannol iddi. Bydd pawb yn ei cholli hi'n fawr."
Hoffai Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd ddiolch yn fawr iawn i Anne am ei charedigrwydd, ei hymrwymiad a'i hymroddiad am 32 mlynedd. Mae ei chyfraniad i gymuned yr ysgol wedi bod yn eithriadol, a fyddwn ni byth yn anghofio'r effaith gadarnhaol y mae hi wedi'i chael ar genedlaethau o deuluoedd.
Wedi ei bostio ar 27/11/2026