Skip to main content

Prynwch docyn Cracer Nadolig sy'n cynnig mynediad i'n Canolfannau Hamdden am Oes am bythefnos.

cracker 2026 cy (500 x 500 px)

Byddwch yn barod am gynnig GWYCH gan Hamdden am Oes y Nadolig yma!

Mae ein tocyn pythefnos, heb unrhyw rwymedigaeth, yn ôl!

Mae un tocyn yn cynnig pythefnos o fynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd am £26 yn unig. Pris tocynnau ar gyfer y rheiny sy'n 18 ac iau, dros 60 oed, a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, yw £16.50

Mae modd prynu tocyn heb ymrwymo i aelodaeth ac mae modd prynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch, yn olynol, trwy gydol cyfnod y cynnig (rhwng 1 Rhagfyr a 28 Rhagfyr, 2026).

Mae modd i chi gael tocyn i chi'ch hun, eich ffrindiau, eich teulu neu hyd yn oed fel anrheg Nadolig i rywun.

Os oes gyda chi bobl yn aros gyda chi dros gyfnod y Nadolig – neu fyfyriwr sy'n dod adref o'r brifysgol/coleg – beth am brynu tocyn iddyn nhw fel bod modd iddyn nhw barhau â'u harferion?

Mae modd i chi gael mynediad at y gampfa, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, ystafelloedd iechyd a sesiynau chwaraeon dan do ledled y 12 canolfan Hamdden am Oes sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r tocyn yn berffaith ar gyfer:

  • Rhoi cyfleoedd i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn ystod gwyliau'r Nadolig. Mae nofio, chwaraeon dan do megis badminton, sboncen a thennis bwrdd, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd priodol yn ôl oedran, i gyd yn bosibl gyda'r tocyn.
  • Pobl ifainc 11 oed ac yn hŷn sydd â diddordeb mewn dechrau defnyddio'n campfeydd, sydd yn llawn o'r offer diweddaraf, gan gynnwys Technogym a thechnoleg ddigidol. Mae staff cymwysedig wrth law i gynorthwyo gyda sesiynau ymgyfarwyddo â'r gampfa ac i’ch helpu i ddefnyddio’r peiriannau’n gywir ac argymell arferion. Hefyd, mae modd i chi fwynhau sesiwn nofio ar ôl cadw’n heini yn y gampfa!
  • Myfyrwyr coleg neu brifysgol sydd wedi dychwelyd adref i Rondda Cynon Taf ar gyfer gwyliau'r Nadolig, sydd eisiau ffordd heb rwymedigaeth o ddefnyddio cyfleusterau hamdden a ffitrwydd a pharhau â’u harferion.
  • Trigolion o bob oedran sydd wedi bod yn ystyried dychwelyd i hamdden ac eisiau gwneud hynny heb rwymedigaeth. Yn syml, prynwch docyn pythefnos a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddosbarthiadau/sesiynau campfa/sesiynau nofio/chwaraeon dan do yr hoffech, mewn unrhyw ganolfan. Os ydych chi'n mwynhau, prynwch docyn arall neu ystyriwch aelodaeth!
  • Anrhegion – ddim yn gwybod beth i'w gael fel anrheg Siôn Corn Cudd neu'n adnabod rhywun fyddai wrth ei fodd ag aelodaeth Hamdden am Oes? Rhowch docyn Hamdden am Oes iddyn nhw y Nadolig yma!  

Mae modd prynu tocynnau Cracer Nadolig rhwng 1 a 28 Rhagfyr. Bydd pob tocyn yn ddilys am bythefnos ac mae modd i chi brynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch trwy gydol cyfnod y cynnig.

Mae modd i chi brynu'ch tocyn o'r dderbynfa yn eich Canolfan Hamdden am Oes leol neu mewn canolfan o’ch dewis.

Pris tocynnau ar gyfer y rheiny sy'n 18 ac iau, dros 60 oed, a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, yw £16.50.

Pris tocynnau ar gyfer y rheiny sy’n hŷn na 18 oed nad ydyn nhw’n gymwys i hawlio gostyngiad yw £26.

Wedi ei bostio ar 26/11/2026