Skip to main content

Mae modd 'Gofyn am Angela' yn nhafarndai RhCT!

Wrth i dymor y Nadolig ddechrau ac wrth i ni ddechrau mynd allan i bartïon Nadolig a chymdeithasu mwy ar ôl iddi dywyllu, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa menywod bod gyda ni i gyd ffrind yn Angela.

Mae Wythnos Ddiogelu 2023 (20 – 24 Tachwedd) yn ymwneud â sut i flaenoriaethu eich lles eich hun a lles pobl eraill. 

Mae Carfan Cymunedau Diogel RhCT wedi bod yn gweithio gyda phob safle sydd â thrwydded ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoi hyfforddiant i staff ar sut i roi cymorth i'r rheiny sy'n agored i niwed ac yn gorfod 'Gofyn am Angela'.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn aml yn brysurach ac mae ein tafarndai’n llawn o bobl sydd ddim fel arfer yn mynd i’r dref ac efallai’n teimlo’n agored i niwed.   

Ymgyrch yw“Gofyn am Angela/Ask for Angela” sy'n diogelu unigolion rhag aflonyddwch mewn tafarndai a lleoliadau eraill ar unrhyw adeg o'r flwyddyn trwy ddefnyddio gair dynodedig er mwyn nodi pan maen nhw mewn perygl neu sefyllfa anghyfforddus.

Cyngor Sir Swydd Lincoln gyflwynodd ymgyrch wreiddiol “Ask for Angela” yn ôl yn 2016. Nod yr ymgyrch oedd newid y diwylliant o drais a cham-drin rhywiol, gan alluogi'r rheiny sy'n teimlo'n agored i niwed mewn tafarndai a chlybiau nos i fynd at staff yn dawel fach a gofyn am gymorth.

Os ydych chi ar noson allan gyda ffrindiau neu ar ddêt sydd ddim yn mynd fel roeddech chi'n ei ddisgwyl ac rydych chi'n teimlo y gallech fod mewn perygl, cofiwch 'Ofyn am Angela'. Byddwch chi'n derbyn cymorth, heb dynnu sylw at eich hun. Gallai'r cymorth yma olygu dod o hyd i ffrind rydych chi'n ymddiried ynddo, sicrhau eich bod yn cyrraedd tacsi, neu drwy ffonio carfan ddiogelwch y lleoliad a/neu'r heddlu. 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'r fenter yma wedi bod yn llwyddiant enfawr yn genedlaethol ac rydw i'n falch ein bod ni'n rhoi sylw i'r cynllun yn Rhondda Cynon Taf. 

"Rydw i'n gwybod bydd y Garfan Cymunedau Diogel yn gweithio gyda phob safle sydd â thrwydded er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen pan mae'r sefyllfaoedd yma'n codi. Mae hawl gan bawb i deimlo'n ddiogel yn ein cymunedau ac mae 'Gofyn am Angela' yn help i fenywod deimlo bod modd iddyn nhw ymddiried yn eu ffrind, Angela."

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.met.police.uk/AskforAngela
Wedi ei bostio ar 16/11/2023