Mae cynigion cyffrous i ailddatblygu safle Rock Grounds yn Aberdâr wedi derbyn caniatâd cynllunio. Dyma garreg milltir bwysig yn y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n amodol ar sicrhau pecyn cyllid llawn.
Ym mis Hydref 2024, symudodd Cabinet y prosiect i’r cam nesaf ar ôl cytuno bod y Cyngor yn penodi Final Frontier Space Holdings yn ddatblygwr ar gyfer camau dylunio, datblygu a gweithredu'r cyfleuster. Bydd hyn yn cynnwys gwesty o safon, bwyty, bar a sba.
Yn bwysig, cytunwyd y bydd y cyfleusterau sy'n rhan o'r gwesty newydd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned – tra bydd y datblygiad yn cadw adeilad hanesyddol Rock Grounds a'i nodweddion, yn cynnal lefel briodol o gyfleusterau parcio ceir i’r cyhoedd, ac yn cadw penddelw Keir Hardie a’r ffens ddolen gadwyn. Cafodd staff y Cyngor oedd yn gweithio ar safle Rock Grounds eu hadleoli'r llynedd.
Roedd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi trafod y cynlluniau, a gafodd eu cyflwyno gan Final Frontier Space Holdings yn ystod ei gyfarfod ar ddydd Iau, 27 Tachwedd. Roedd y cais llawn yn ceisio caniatâd i drosi ac estyn adeiladau swyddfa deulawr y safle gan greu gwesty fflatiau, yn ogystal â bwyty, cyfleusterau sba/hamdden a maes parcio. Roedd gwaith tirlunio a draenio wedi'u cynnwys yn rhan o’r cais hefyd.
Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod y cyfarfod ddydd Iau yn nodi y byddai'r prosiect yn creu 19 ystafell gwesty o ansawdd yn y brif adeilad (wyth ar y llawr gwaelod, un ar ddeg ar y llawr cyntaf). Bydd yr ystafelloedd yma’n amrywio o fflatiau stiwdio i ystafelloedd un gwely a dau wely. Byddai pob ystafell yn hunangynhwysol, ac yn cynnwys cegin, ardal ystafell fyw ac ystafell ymolchi. Byddai'r llawr gwaelod yn cynnwys mynedfa, cyntedd, campfa, swyddfa, ac ardal cefn tŷ. Byddai'r adeilad yn cael ei hestyn 13 metr i gyfeiriad y de fel bod modd adeiladu’r gwesty.
Byddai ail adeilad, unllawr y safle yn cael ei drosi yn fwyty ac ardal seddi ar gyfer caffi. Byddai’r cynllun mewnol yn cael ei ailgyflunio er mwyn creu ardal fwyta, yn ogystal â cheginau cefn tŷ, a thoiledau. Mae ardal eistedd awyr agored dan gysgod wedi'i gynllunio i'r gogledd o'r adeilad ar gyfer y rheiny sy'n bwyta yn y bwyty. Bydd mynedfa yn cael ei hadeiladu ar ochr deheuol yr adeilad, gan greu man groesawgar ar gyfer gwesteion.
Cynigir adeiladu adeilad sba hirsgwar newydd i'r de-orllewin o adeilad y bwyty. Byddai’r adeilad yn cynnwys tri llawr, gydag arwynebedd o 480 metr sgwâr. Byddai'r ardaloedd ar y llawr gwaelod yn cynnwys cyntedd/derbynfa, cyfleusterau lles, sawna/ystafell stêm, pwll lles, twba twym, ac ystafelloedd newid. Byddai pwll dan do gyda nenfwd agored yn estyn hyd at y trydydd llawr. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer siop fferm a chaffi, gyda mynedfa arbennig yn cael ei hadeiladu ar gyfer yr ardaloedd yma.
Byddai'r llawr cyntaf yn cynnwys cyfleuster bwyta, gyda golygfeydd trawiadol dros Aberdâr i'r gogledd. Byddai teras eang hefyd yn cynnig lle i fwyta tu allan. Byddai pedwar ystafell driniaeth, toiledau, ystafelloedd newid ac ystafell adfer ar y llawr yma hefyd. Byddai'r trydydd llawr yn cynnwys pum llofft ar gyfer gwestai'r gwesty, gyda phob un yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite a theras preifat.
Byddai ymddangosiad allanol adeiladau'r bwyty a'r sba yn defnyddio cymysgedd o ddeunyddiau modern, gan greu gwedd cyfoes sy'n cyd-fynd â'r gwesty. Byddai'r maes parcio cyhoeddus cyfredol i'r dwyrain o'r safle yn cael ei gadw, gyda chyfleusterau parcio pellach ar gyfer gwesteion ac ymwelwyr yn cael eu cynnwys yn rhan o ardal y cwrt canolog. Byddai mynedfa cyfredol y safle oddi ar yr A4233 yn cael ei gadw.
Roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r cais, yn unol ddarostyngedig i amodau, gan nodi: "Bydd y cynnig yn dod â chyfleuster newydd y mae wir ei angen yng nghanol tref Aberdâr, gan gyfrannu at ei hyfywedd a'i fywiogrwydd. Bydd yn darparu amwynder fyddai o fudd i drigolion a thwristiaid. Byddai'r gwaith adeiladu arfaethedig hefyd yn cadw a gwella nodweddion yr Ardal Gadwriaeth lle mae wedi'i leoli. Yn dilyn trafodaeth, rhoddodd aelodau'r pwyllgor ganiatâd cynllunio.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae sicrhau caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y cynigion cyffrous yma’n garreg milltir pwysig, sy'n golygu bod y datblygwr gam yn agosach at adfywio safle Rock Grounds yn Aberdâr a darparu cyfleuster gwesty y mae wir ei angen ynghyd ag amwynderau eraill o ansawdd uchel. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r datblygwr er mwyn pennu pecyn cyllid ar gyfer y prosiect, ac mae cynnydd pellach yn amodol ar sicrhau’r pecyn yma.
"Byddai'r gwesty newydd yn darparu gwesty modern er mwyn denu ymwelwyr newydd i Aberdâr ac ardal ehangach Cwm Cynon - gan roi cyfle iddyn nhw fanteisio ar yr atyniadau poblogaidd i dwristiaid sydd yn yr ardal, gan gynnwyss Zip World Tower, Parc Aberdâr, Distyllfa Penderyn a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Byddai cyfleusterau ategol megis y bwyty, bar a sba newydd sydd wedi'u cynllunio ar gael i'r gymuned, gan gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y dref. Yn ogystal â hyn, bydd lefel ddigonol o gyfleusterau parcio yn cael ei chynnal er mwyn gwasanaethu canol y dref.
"Mae'r prosiect adfywio allweddol yma yn dangos Strategaeth Canol Tref Aberdâr ar waith, yn ogystal â Strategaeth Twristiaeth Rhondda Cynon Taf ehangach. Mae'r ddwy ddogfen yn amlinellu cyfleoedd sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio adeiladau cyfredol er mwyn darparu llety a bwytai o ansawdd uchel. Mae safleoedd oedd yn adfeilio megis Gwesty'r Boot, Hen Neuadd y Dref, tafarn Black Lion, ac yn fwyaf diweddar yr Hen Adeilad Ardrethi, bellach yn cael eu defnyddio unwaith eto - gan eu hatal rhag dirywio ymhellach, a gwella gwedd y stryd a dod ag amwynderau newydd ar gyfer pobl lleol.
"Hoffwn i ddiolch unwaith yn rhagor i'r gymuned am gymryd rhan yn y gwaith ymgysylltu cyn cyflwyno cais cynllunio a gynhaliwyd yn gynharach eleni, er mwyn helpu i lywio’r cais cynllunio - sydd bellach wedi’i gymeradwyo. Bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r datblygwr, Final Frontier, er mwyn sicrhau cynnydd pellach y tu ôl i'r llen - a bydd trigolion yn cael gwybod am y cerrig milltir allweddol nesaf mewn da bryd."
Wedi ei bostio ar 04/12/2025