Diolch i haelioni staff a myfyrwyr arlwyo Coleg y Cymoedd Aberdâr, mae 120 o bobl sy'n profi digartrefedd ac yn byw mewn llety gwely a brecwast ledled Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cinio Nadolig, pwdin, a phecyn gofal yn rhodd.
Dechreuodd prosiect Gweithgareddau Gwrthdyniadol ac Ymgysylltu ym mis Hydref 2023, lle cysylltwyd â holl golegau'r ardal i ofyn iddyn nhw ddarparu cinio Nadolig i bobl y mae'r garfan yn eu cefnogi. Ymatebodd Benjamin Barnett, Coleg y Cymoedd, i'r cais yma a darparodd brydau i bobl ym mwyty'r coleg, yn ogystal â nwyddau ymolchi, dillad cyfforddus, taleb Greggs gwerth £5 a llawer yn rhagor.
Mae'r Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol yn gweithio gyda phobl ddigartref sy'n byw mewn llety dros dro a llety â chymorth. Mae'n darparu gweithgareddau ystyrlon yn y gymuned ac yn y llety. Mae'r garfan yn cynnig hyfforddiant a chymorth cyflogaeth a chyfleoedd i fagu hyder a hunan-barch pobl trwy weithgareddau amrywiol. Mae pobl hefyd wedi derbyn cardiau mynediad at y gampfa gan yr adran Hamdden am Oes i hyrwyddo iechyd a lles. Eleni, mae Ben wedi cynnig ei gefnogaeth unwaith eto, ac rydym wrth ein bodd yn parhau â'r fenter hon am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Bydd y prydau bwyd yn cyrraedd unigolion a theuluoedd mewn tai a rennir, llety gwely a brecwast, a hosteli, gan gynnwys pobl ifanc a phlant. Bydd cracer Nadolig, napcyn, cerdyn oddi wrth fyfyrwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dod gyda’r prydau ynghyd â phecynnau gofal yn cynnwys brws dannedd, pâst dannedd bach, crib, nwyddau ar gyfer y gwallt, nwyddau ymolchi gan gynnwys sebon a ffyn cotwm ar gyfer y clustiau, a nwyddau mislif.
Er mwyn rheoli'r angen cynyddol, wnaeth y Tîm Cymorth Asesu Digartrefedd ehangach helpu i ddanfon prydau bwyd ledled RhCT, gan sicrhau y gall pawb mewn llety dros dro fwynhau cinio Nadolig arbennig.
Hoffai Ben ddiolch i'r myfyrwyr a chydnabod na fyddai dim o hyn yn bosibl hebddyn nhw. Hoffai'r Cyngor ddiolch yn fawr iawn i Ben a Choleg y Cymoedd am eu haelioni a'u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth bob blwyddyn.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ben a Choleg y Cymoedd Aberdâr am eu haelioni a'u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth bob blwyddyn.
Am y drydedd flwyddyn, mae'r Garfan Gweithgareddau Gwrthdyniadol a Choleg y Cymoedd wedi dangos ysbryd cymunedol a chydymdeimlad gwirioneddol trwy gefnogi rhai o'n rhai mwyaf agored i niwed yn y gymuned, sydd wedi derbyn pryd o fwyd dau gwrs a phecyn gofal wedi'i baratoi'n hyfryd y Nadolig hwn, a fydd yn sicr o wneud gwahaniaeth gwirioneddol iddyn nhw.”
Ariannwyd y prydau bwyd a'r pecynnau gofal gan Bennaeth yr Ysgol ar gyfer Mynediad Galwedigaethol, Tîm Swyddfa Campws Coleg y Cymoedd Aberdâr, a The Inner Wheel Aberdâr, a baratowyd gan Goleg y Cymoedd a'u Cyflenwi gan dîm Gweithgareddau Gwrthdyniadol/Difyrru ac Ymgysylltu RhCT. Fel Cyngor, gofynnwn i'r cyhoedd barhau i fod yn gefnogol ac yn anfeirniadol i'r rhai sy'n ddigartref dros y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn.
Wedi ei bostio ar 22/12/2025