Ddydd Gwener 12 Rhagfyr daeth Cyngor Rhondda Cynon Taf â hwyl yr ŵyl i'r gymuned gyn-filwyr leol drwy gynnal cinio Nadolig arbennig yn Lido Ponty. Daeth yr achlysur â chyn-filwyr o bob cwr o'r Fwrdeistref Sirol ynghyd i ddathlu eu gwasanaeth a'u haberth, gan ddiolch hefyd i bawb sydd wedi'u cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mwynhaodd y gwesteion berfformiad twymgalon gan gôr Ysgol Gynradd Maes-Y-Coed, a ganodd fersiynau modern o ffefrynnau Nadoligaidd. Gwnaeth Siôn Corn ymddangosiad annisgwyl hefyd, gan swyno'r disgyblion gydag anrhegion Nadolig.
Roedd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd y Cyngor, a'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, yn bresennol ynghyd ag Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol dros Bontypridd, Mick Antoniw, Aelod o'r Senedd dros Bontypridd, Sharon Dixon, Uchel Siryf Canol Morgannwg, ac aelodau o'r gymuned gyn-filwyr leol.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer rhoi a threulio amser gyda phobl sy’n dod â hapusrwydd a llawenydd i chi. Does dim ffordd well o helpu cymuned ein Lluoedd Arfog na chefnogi achlysuron fel ein Cinio Nadolig i Gyn-filwyr.
“Mae'r achlysur yma ar gyfer dod â phobl ynghyd a dangos ein gwerthfawrogiad o'r rheiny sydd wedi gwasanaethu. Mae'n gyfle i ddathlu, myfyrio, a sicrhau does dim un cyn-filwr yn teimlo ar ei ben ei hun yn ystod cyfnod y Nadolig.
"Diolch yn arbennig i gôr Ysgol Gynradd Maes-y-Coed am ei berfformiad gwych a ddaeth â chymaint o lawenydd i'r diwrnod.
"Mae'r Cyngor yn cefnogi ei gyn-filwyr drwy gydol y flwyddyn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran am sicrhau bod yr achlysur yma'n digwydd."
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018 – symbol o barch cyffredin rhwng cymunedau bywyd sifil a'r Lluoedd Arfog.
Yn 2017, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y Lluoedd Arfog. Cadwodd y Cyngor y wobr unwaith eto yn 2022 wedi cyflwyno'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr wrth Gefn.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 23/12/2025