Mae Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gyhoeddi bod Clare Potter (enw'r artist - clare e. potter) wedi'i phenodi'n Artist mewn Gwasanaeth nesaf tan fis Mehefin 2026. Yn dilyn llwyddiant yr Artistiaid mewn Gwasanaeth Harriet Fleuriot a Rhys Slade-Jones, mae'r cyfnod newydd yma'n defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu ac yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd ymgysylltu celfyddydol agored yn y gymuned.
Nod y rhaglen Artist mewn Gwasanaeth yw trin a thrafod sut mae modd i artistiaid ymgysylltu'n ystyrlon â phobl a lleoedd Rhondda Cynon Taf. Wedi'i ddatblygu drwy ymgynghoriad â The Experience Business yn rhan o Raglen Cynllunio Gwerth i'r Cyhoedd, mae'n rhoi cyfle i artist lleol ddatblygu ei ymarfer creadigol trwy sgwrsio a chydweithio â chymunedau ledled yr ardal.
Yn hytrach na chomisiynu artist i greu gwaith ar ei ben ei hun ac yna dod â'r gymuned yn rhan ohono, mae'r rhaglen yn gofyn i'r artist ddechrau yn y gymuned a meithrin ei syniadau o'r pwynt yna, sy'n golygu mai'r gymuned yw testun y gwaith, a nhw sy'n ei greu ar y cyd, yn hytrach na bod yn gynulleidfa yn unig i'r gwaith. Mae gweithdai, sgyrsiau, cyfarfodydd grŵp neu achlysuron sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau trydydd sector, a siarad ag arbenigwyr i ddatblygu eu celf i gyd yn cyfrannu at y broses yma. Mae Clare wedi dechrau ymwneud â rhestr eang o grwpiau cymunedol a mynychu llawer o'u hachlysuron celf, gan gynnal trafodaethau sy'n ysgogi'r meddwl ag aelodau'r gymuned ac artistiaid eraill fel ei gilydd.
Yn wahanol i breswylfeydd neu gomisiynau traddodiadol, does dim disgwyl i'r artist greu darn o waith terfynol na chynnal cyfres o weithdai. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar chwilfrydedd, cysylltiad a chydgyfnewid – gan werthfawrogi bod y broses yr un mor bwysig ag unrhyw ddeilliant posibl.
Mae Clare yn angerddol dros farddoniaeth ac mae hi'n ymarferydd therapi barddoniaeth dan hyfforddiant. Mae hi'n hwyluso gweithdai lles creadigol, wedi'i hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth greu newid personol a chymdeithasol. Mae hi'n cyflwyno rhaglenni radio gan gynnwys 'Max Boyce, The Tools are on the Bar,' a 'The Poet's Poet' a enwebwyd am Wobr Cyfryngau Celtaidd; cyfarwyddodd raglen ddogfen BBC Cymru, 'The Wall and the Mirror', am farbwr ei phentref. Arweiniodd y rhaglen ddogfen at weithredu cymunedol i achub sefydliad y glowyr lleol yn ardal Cefn Fforest.
Mae Clare yn cydweithio â grwpiau cymunedol i greu gwaith sy'n berthnasol i'r ardal. Enillodd Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar a chyfieithodd ar gyfer Bardd Cenedlaethol Cymru. Cyflawnodd rôl Awdur wrth ei Gwaith Gŵyl y Gelli ac mae hi wedi ennill Gwobr y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol/Gwobr Jerwood Cymru eleni. Mae ei phamffled barddoniaeth Cymraeg diweddaraf, Nôl Iaith, yn dilyn ei chasgliad Healing the Pack. Roedd Clare wedi cynrychioli'r iaith Gymraeg yn rhan o 'Llif', achlysur ieithoedd Ewropeaidd a oedd yn canolbwyntio ar ecoleg, argyfwng yr hinsawdd a diwylliant.
Meddai Clare: "Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Artist mewn Gwasanaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae gyda fi gariad mawr at yr ardal lle rwy'n byw ac rwy'n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth a'm gwerthfawrogiad o'n sir. Yma yn RhCT, mae gyda ni wledd o artistiaid a grwpiau cymunedol talentog sy’n gwneud yr ardal yma'n lle gwell i fyw ynddo a lle mae modd ffynnu. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â'r artistiaid yma, i gwrdd â rhagor o bobl, ac archwilio'r dirwedd hardd, gan fod yn rhan o'r creadigrwydd sy'n deillio o'r ardal yma."
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau: “Rydyn ni'n falch iawn bod Clare yn ymuno â ni'n Artist mewn Gwasanaeth nesaf Rhondda Cynon Taf. Dyma'r ail dro i ni benodi i'r rôl, ond mae'r rhaglen eisoes wedi denu diddordeb sylweddol. Rydyn ni'n gwybod bod angen i'n perthynas ag artistiaid newid ym mhob rhan o'r sector, ac rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth ein cymunedau, cyfoedion o bob cwr o'r awdurdod lleol ac aelodau etholedig i archwilio sut y gallai hynny edrych. Mae Clare eisoes wedi creu argraff gyda'i hangerdd dros ddiwylliant, pobl, lleoedd ac ieithoedd Rhondda Cynon Taf. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae ei chwilfrydedd yn ein herio ac yn ein hysbrydoli!”
Wedi ei bostio ar 04/12/2025