![mural1]](/CachedImage.axd?ImageName=%2fEN%2fNewsroom%2fImages%2f2025%2fDecember%2fmural1.jpg&ImageWidth=465&ImageHeight=310)
Angela Robinson, from Hulaballoo and Gaynor Wood from Sugar and Spice, representing Pontypridd Market Quarter with Cllr Mark Norris, James Payne, Rob Vickery and Chris Williams from Horan and Tee2Sugars
Mae murlun newydd ar gyfer Ardal y Farchnad, Pontypridd, wedi'i gwblhau ac mae'n barod am 2026 anhygoel yng nghanol y dref hanesyddol!
Gweithiodd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cwmni Marchnad Pontypridd, Ardal Gwella Busnes Pontypridd a Horan, y contractwr sy'n datblygu hen safle M&S, ar y cyd i ariannu, cynllunio a threfnu gweledigaeth arbennig iawn ar gyfer y dref.
Cafodd y weledigaeth yma ei gwireddu gan yr artist lleol talentog iawn, Tee2Sugars, sydd wedi creu murlun anhygoel sy'n dangos Pontypridd a'r croeso cynnes sydd ar gael i bawb sy'n ymweld â'r dref. Mae'r gwaith celf trawiadol wedi cael ei greu ar ochr adeilad siop James Furniture and Mobility, gan greu darn sy'n dal sylw pawb sy'n mynd heibio ac sy'n dathlu Ardal y Farchnad, tirnod hanesyddol allweddol yng nghanol tref Pontypridd.
Mae'r farchnad wedi'i lleoli ar safle presennol Ardal y Farchnad ym Mhontypridd, a hynny ers 1805. Dechreuodd yn farchnad wartheg, gan ddatblygu i groesawu cigyddion, groseriaid a chyflenwyr bwyd eraill ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae ei hanes cyfoethog, bywiog wedi cael ei ddiogelu a'i ddathlu ers dros ganrif erbyn hyn, wrth i Ardal y Farchnad ehangu a chael ei hailwampio i ddod yn atyniad poblogaidd ac unigryw.
Mae Ardal y Farchnad yn parhau i gynnig prydau caffi a diodydd poeth traddodiadol a phoblogaidd, ynghyd â siopau groseriaid, siopau cig, stondin lyfrau, stondin gwlân a chrefftau, a llawer yn rhagor. Mae hefyd yn gartref i fwytai sydd wedi ennill gwobrau ac ystod eang o fasnachwyr.
Gyda pharcio am ddim yng nghanol tref Pontypridd ar ôl 10am bob dydd am weddill y flwyddyn, beth am ddod i weld a mwynhau popeth sydd gan Ardal y Farchnad i'w gynnig?
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: “Dylai pawb wybod am y trysor cudd yma, sef Ardal Marchnad Pontypridd, felly penderfynon ni dynnu sylw ati!
“Mae'n lle gwych i grwydro a mwynhau'r nifer o siopau, bwytai a chaffis, ac mae modd parcio'n rhad ac am ddim dros gyfnod y Nadolig. Mae Ardal y Farchnad, a'r murlun, bellach yn ganolbwynt yng nghanol y dref, ac yn tynnu rhagor o sylw at yr hyn sydd ar gael ym Mhontypridd. Dangoswch eich cefnogaeth i siopau a busnesau lleol.
“Mae ein Carfan Canol Trefi ymroddedig yn gweithio ledled y Fwrdeistref Sirol i gefnogi, hyrwyddo a datblygu canol ein trefi ac mae wedi gweithio i ddod â'r asiantaethau at ei gilydd i gomisiynu'r gwaith yma. Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb am eu hymdrechion, yn enwedig yr artist gwych, Tee2Sugars.
“Mae'r murlun yn dathlu Ardal y Farchnad yr un mor frwdfrydig â ni! Mae ein marchnad hanesyddol wedi bod ym Mhontypridd ers dros 200 o flynyddoedd ac mae'n gyfuniad perffaith o hanes, hiraeth, dyluniad modern a phrofiad siopa a chymdeithasu amrywiol. Mae caffis y byddai eich rhieni, neu'u rhieni nhw, yn eu cofio i'w gweld ochr yn ochr â stondinau bwyd Indiaidd, Thai ac Eidalaidd modern.
"Mae rhywbeth at ddant pawb. Busnesau a phobl lleol yn gweithio i ddarparu'r gorau i gwsmeriaid. Y rhan orau o Ardal y Farchnad yw nad ydych chi byth yn gwybod beth y byddwch chi'n ei weld – felly dewch draw!”
Meddai James Payne o Ardal Gwella Busnes Pontypridd: “Rydyn ni mor falch o'n tref a phopeth sydd ganddi i'w gynnig ac mae Ardal y Farchnad yn rhan bwysig ohoni.
“Fe wnaeth Tee2Sugars waith anghygoel gyda'i furlun ar gyfer yr Eisteddfod, a roddodd Bontypridd ar y map yn 2024, ac roedden ni wrth ein boddau'n ei groesawu fe'n ôl i ddod ag Ardal y Farchnad yn fyw.
“Mae ei waith celf, a'i fideos, wedi rhoi cipolwg ar faint sydd ar gael ym Mhontypridd, a bydden ni wrth ein boddau'n gweld pobl yn ymweld â'n tref, a'i mwynhau hi, adeg y Nadolig eleni. Mae'n bwysig siopa'n lleol."
Ychwanegodd Rob Vickery o Horan: “Fel y contractwr sy'n datblygu'r gwaith adfywio uchelgeisiol ar hen safle M&S, rydyn ni'n gwybod ein bod yn creu ardal fodern, hardd wrth ymyl yr afon ym Mhontypridd i bobl ei mwynhau.
“Rydyn ni'n cynnal ein gwaith yng nghanol hanes a diwylliant y dref arbennig yma. Rydyn ni'n eu gweld yn y strydoedd a'r adeiladau, ac rydyn ni'n clywed amdanyn nhw gan y bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw a'r partneriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
“Mae ein cefnogaeth ar gyfer y dref yn mynd y tu hwnt i ddarparu'r gwaith adfywio yma gwerth miliynau o bunnoedd. Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o brosiect sy'n dathlu hanes Ardal y Farchnad ac yn helpu i'w hyrwyddo – a phopeth sydd ganddi i'w gynnig – yn y dyfodol.
“Does dim amheuaeth y bydd gwaith Tee2Sugars yn denu sylw ac yn rhoi Ardal y Farchnad – a Phontypridd – ar y map. Mae'r ddwy yn haeddu hynny.”
Dyma ragor o wybodaeth am Ardal y Farchnad, y siopau, stondinau, caffis a bwytai, yma.
Wedi ei bostio ar 15/12/2025