Skip to main content

Hyfforddiant cerdded a beicio i ddisgyblion yn ystod Wythnos Diogelwch y Ffyrdd

St Michaels GRID - Copy

YG Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain - 'Kerbcraft'

Mae plant ysgolion cynradd ledled Rhondda Cynon Taf unwaith yn rhagor wedi bod yn cymryd rhan yn Wythnos Diogelwch y Ffyrdd eleni, wrth i swyddogion y Cyngor gynnal cyfres o sesiynau hyfforddi pwysig. Roedd y rhain wedi'u hanelu at helpu pobl ifainc i gadw'n ddiogel wrth gerdded neu feicio yn y gymuned.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn darparu gweithgareddau diogelwch y ffyrdd lleol i gefnogi Wythnos Diogelwch y Ffyrdd – menter a gaiff ei chydlynu ledled y DU gan yr elusen Brake. Eleni, cafodd yr ymgyrch ei chynnal rhwng 16 a 22 Tachwedd, a chanolbwyntiodd yr ymgyrch gyffredinol ar 'Cerbydau diogel, bywydau diogel!" – i godi ymwybyddiaeth am wirio a chynnal a chadw cerbydau'n rheolaidd. Dysgwch ragor am Wythnos Diogelwch y Ffyrdd 2025.

Mae'r wythnos yn achlysur blynyddol pwysig i Garfan Diogelwch y Ffyrdd ymroddedig y Cyngor – gyda gwaith ymgysylltu pwysig yn digwydd gyda phobl ifainc yn ein hysgolion lleol. Yn 2025, cafodd naw ysgol eu cefnogi gan swyddogion:

  • Hyfforddiant 'Kerbcraft' – mae swyddogion wedi cyflwyno'r cynllun hyfforddi cerddwyr ymarferol yma i ddysgu sgiliau hanfodol i ddisgyblion blwyddyn 2, gan eu helpu i aros yn ddiogel wrth gerdded yn eu cymunedau. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau ymarferol yn y strydoedd ger pob un o'r wyth ysgol a gymerodd ran – Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Gynradd Gymuned Ynys-boeth, Ysgol Gynradd Coedpenmaen, Ysgol Babanod Trallwng, Ysgol Gynradd Parc Lewis ac Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon.
  • Hyfforddiant beicio Safon Genedlaethol – cafodd yr hyfforddiant ymarferol yma ei gynnal yn Ysgol Gynradd Hirwaun, gyda’r nod o feithrin sgiliau beicio diogel a chyfrifol. Cafodd y sesiynau eu cynnal ar iard yr ysgol, a'u bwriad oedd datblygu sgiliau beicio pobl ifainc a rhoi'r hyder iddyn nhw i roi’r rhain ar waith yn eu cymunedau mewn ffordd ddiogel.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yn ddyddiad pwysig yn ein calendr bob mis Tachwedd, gan fod y Cyngor yn cefnogi'r elusen Brake i godi ymwybyddiaeth am wahanol agweddau ar ddiogelwch y ffyrdd, a darparu hyfforddiant lleol. Ymwelodd ein Carfan Diogelwch y Ffydd ymroddedig â naw ysgol i gyd-fynd ag ymgyrch 2025, gyda'r nod o ddysgu sgiliau allweddol i'n pobl ifainc, i'w helpu i aros yn ddiogel fel cerddwyr a beicwyr.

"Dyma ran ychwanegol o waith agos swyddogion â'n hysgolion drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â gweithgareddau eraill rydyn ni'n cymryd rhan ynddyn nhw'n rheolaidd. Gall y rhain gynnwys ymarferion ar ochr y ffordd gyda phartneriaid megis Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – er enghraifft, sicrhau bod modurwyr yn gwisgo eu gwregysau diogelwch wrth yrru, ac nad ydyn nhw'n defnyddio ffonau symudol."Diolch i bawb a gymerodd ran yn Wythnos Diogelwch y Ffyrdd yma yn Rhondda Cynon Taf – yn enwedig disgyblion a staff yn ein naw ysgol a gymerodd ran ac a roddodd groeso cynnes i swyddogion wrth ymgysylltu'n llawn â'r gweithgareddau."

Wedi ei bostio ar 02/12/2025