Skip to main content

Cynllun gwaith Ffyrdd Cydnerth i ddechrau mewn lleoliad allweddol yn ardal Porth

Cemetery Road, Porth

Bydd cyfres o welliannau pwysig i ddraeniau'r briffordd yn cael eu gwneud ar Ffordd y Fynwent yn ardal #Porth, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a sicrhawyd gan y Cyngor.

Bydd Cynllun Ffyrdd Cydnerth y B4278 yn dechrau o ddydd Llun, 8 Rhagfyr ac yn dod i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod piben gludo newydd ar hyd rhan 150 metr o Ffordd y Fynwent. Bydd wyth cwter newydd yn cael eu cyflwyno, gyda gorchuddion capasiti mawr.

Bydd y system newydd yn galluogi dŵr glaw i lifo i gwlfer presennol sy'n rhedeg o dan y ffordd, ger y safle croesi diogel i Ysgol Gymuned y Porth.

Bydd y gwelliannau yma'n cynyddu capasiti'r system ddraenio ac yn lliniaru'r perygl llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae'n cynrychioli buddsoddiad gwerth dros chwarter miliwn o bunnoedd ar gyfer y gymuned.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn cyflawni'r gwaith ar y cyd â'r is-gontractwr Calibre Contracting Ltd.

Bydd angen cau un lôn er mwyn cyflawni'r gwaith a byddwn ni'n defnyddio goleuadau traffig dros dro i reoli'r sefyllfa.

Er y bydd angen cau rhannau o'r llwybr troed, bydd llwybr amgen i gerddwyr ar gael lle bo'n bosibl.

Nodwch: bydd y gwaith yn dod i ben dros dro dros gyfnod y Nadolig, a bydd yr holl fesurau rheoli traffig yn cael eu symud o’r safle hyd nes y bydd y gwaith yn ailddechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 5 Ionawr, 2026.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae cynlluniau unigol o dan y rhaglenni yma'n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio cyllid cyfatebol gan y Cyngor, sef 15% fel arfer.

Diolch ymlaen llaw i gymuned Porth am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 03/12/2025