Mae tocyn haf Hamdden am Oes yn cynnig pythefnos o fynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau chwaraeon dan do.
Mae modd prynu tocyn heb ymrwymo i aelodaeth ac mae modd prynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch, yn olynol, trwy gydol cyfnod y cynnig (mis Gorffennaf 18 - Medi 8, 2025).
Yn debyg i bob opsiwn Aelodaeth Hamdden am Oes a'u prisoedd, mae yna ostyngiadau i'r rheiny sydd dan 16 oed neu dros 60 oed, yn ogystal â myfyrwyr a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys.
Defnyddiwch y tocyn ar gyfer campfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, ystafelloedd iechyd a sesiynau chwaraeon dan do ar draws yr 11 Canolfan Hamdden am Oes sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r tocyn yn berffaith ar gyfer:
- Rhoi cyfleoedd i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn ystod gwyliau'r haf. Mae nofio, chwaraeon dan do fel badminton, sboncen a thennis bwrdd, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd priodol yn ôl oedran, i gyd yn bosibl gyda'r tocyn.
- Pobl ifainc 11 oed ac yn hŷn sydd â diddordeb mewn dechrau defnyddio'n campfeydd, sydd yn llawn o'r offer diweddaraf, gan gynnwys Technogym a thechnoleg ddigidol. Mae staff cymwysedig wrth law i gynorthwyo gyda sesiynau ymgyfarwyddo â'r gampfa ac i’ch helpu i ddefnyddio’r peiriannau’n gywir ac argymell arferion. Hefyd, gallwch chi fwynhau sesiwn nofio ar ôl cadw’n heini yn y gampfa!
- Myfyrwyr coleg neu brifysgol sydd wedi dychwelyd adref i Rondda Cynon Taf ar gyfer gwyliau'r haf, sydd eisiau ffordd heb rwymedigaeth o ddefnyddio cyfleusterau hamdden a ffitrwydd a pharhau â’u harferion.
- Trigolion o bob oedran sydd wedi bod yn ystyried dychwelyd i hamdden ac eisiau gwneud hynny heb rwymedigaeth. Yn syml, prynwch docyn pythefnos a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddosbarthiadau/sesiynau campfa/sesiynau nofio/chwaraeon dan do yr hoffech, mewn unrhyw ganolfan. Os ydych chi'n mwynhau, prynwch docyn arall neu ystyriwch aelodaeth!
- Anrhegion - os ydych chi'n adnabod rhywun sydd â phen-blwydd neu achlysur arbennig rhwng nawr a 9 Medi (y dyddiad olaf posibl i brynu tocyn) rhowch anrheg o docyn pythefnos Hamdden am Oes iddyn nhw!
Mae modd i chi brynu tocyn Gŵyl Hamdden rhwng 18.7.2025 - 8.9.2025. Bydd pob tocyn yn ddilys am bythefnos a gallwch brynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch trwy gydol cyfnod y cynnig.
Mae modd i chi brynu'ch tocyn o'r dderbynfa yn eich Canolfan Hamdden am Oes leol neu mewn canolfan o’ch dewis.
Pris tocynnau ar gyfer y rheiny dan 18 oed/dros 60 oed, a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, yw £16.
Pris tocynnau ar gyfer y rheiny dros 18 oed nad ydyn nhw’n gymwys i hawlio gostyngiad yw £25.50.
qualify for concessionary rates.
Wedi ei bostio ar 11/07/2025