Skip to main content

Diwrnod i'r brenin i Mr Owen

Royal G P

Aeth pennaeth Ysgol Gymunedol Aberdâr, Mr Richard Owen, i ddathlu a chydnabod y gweithlu Addysg a Sgiliau yn yr Arddwest Frenhinol 2025 ym Mhalas Buckingham. Roedd Mr Owen wedi mynychu'r achlysur ochr yn ochr â gwesteion eraill o ledled y DU sydd hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r sector Addysg. Cafodd Mr Owen ei wahodd i'r dathliad er mwyn cydnabod ei gyfraniad i'r sector trwy gydol ei yrfa ac i gydnabod ei wobr, Pennaeth y Flwyddyn yn Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru. Yn nhymor yr Haf 2024 , cafodd ei enwebu fel pennaeth y flwyddyn gan aelodau'r ysgol. Cafodd ei gyhoeddi fel enillydd y wobr gan Ysgrifennydd y Cabinet Addysg, Lynne Neagle, ym mis Gorffennaf 2024.

Yn ystod ei yrfa yn y sector Addysg, mae Mr Owen wedi profi ei hunain fel unigolyn gweithgar ac ymroddgar. Mae e wedi gweithio yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ac yn Ysgol Idris Davies 3-18 oed yng Nhaerffili, cwm uchaf Cwm Rhymni. Roedd Mr Owen yn arwain yr ysgol yma yn ystod cyfnod o uno tair ysgol at ei gilydd i ffurfio un ysgol bob oed. Wedi hynny, cafodd ei benodi'n bennaeth yn Ysgol Newydd Gymuned Aberdâr.

Roedd y Brenin Charles III, Brenhines Camilla ac Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Addysg, Bridget Phillipson yn bresennol yn y parti i'w longyfarch.  Yn ystod y diwrnod roedd cyfle i rwydweithio â gwestai eraill, mynd am dro o amgylch tir y Palas, mwynhau’r te a theisenni hyfryd a gwrando ar adloniant gan y bandiau milwrol trwy'r prynhawn.

Meddai Mr Richard Owen, Pennaeth Ysgol Gymunedol Aberdâr: "Braint oedd derbyn gwahoddiad i fynychu Palas Buckingham ar gyfer yr Arddwest Frenhinol ac i gynrychioli Ysgol Gymunedol Aberdâr ac Ysgol Idris Davies. Rwy'n falch i fod yn bennaeth ysgol, ac rydw i’n teimlo'n ffodus i weithio gyda staff ymroddgar, talentog ac angerddol sy'n mynd tu hwnt i'w disgwyliadau bob dydd er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein dysgwyr."

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:    "Rydw i'n hynod falch bod Mr Owen wedi cynrychioli Ysgol Gymunedol Aberdâr yn yr achlysur cydnabyddiaeth brenhinol yma. Dyma lwyddiant arall i'r Garfan Addysg, ac mae gwaith caled ac ymrwymiad ein staff wedi’u cydnabod yn rhan o'r wobr yma. Rydw i’n hapus iawn ei fod wedi cynrychioli ein hathrawon a'n hysgolion, ac wedi cael amser arbennig yn yr achlysur."

Wedi ei bostio ar 24/06/2025