Skip to main content

Wythnos y Cynhalwyr 2025: Gofalu am Gydraddoldeb

Carers Week CYM

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymuno â sefydliadau ledled y DU i gefnogi Wythnos y Cynhalwyr 2025, sy'n cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Mehefin. Rydyn ni hefyd yn annog cynhalwyr, busnesau a sefydliadau lleol eraill i gymryd rhan.

Mae Wythnos y Cynhalwyr yn ymgyrch flynyddol sy'n codi ymwybyddiaeth o'r heriau y mae cynhalwyr di-dâl yn eu hwynebu, ac yn dathlu eu cyfraniadau amhrisiadwy at deuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled Cymru a'r DU. Mae thema eleni, Gofalu am Gydraddoldeb, yn tynnu sylw at yr heriau a'r anghydraddoldebau y mae cynhalwyr di-dâl yn eu hwynebu, ac yn galw am gymdeithas decach lle maen nhw'n derbyn y cymorth y maen nhw'n ei haeddu. 

Mae 5.8 miliwn o gynhalwyr di-dâl yn y DU, ac mae pob un yn darparu gofal hanfodol i aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion sy'n sâl, yn hŷn neu'n anabl. Amcangyfrifir bod eu hymroddiad yn arbed £184 biliwn bob blwyddyn i economi'r DU, sy'n cyfateb i ail Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Er gwaethaf hyn, mae llawer o gynhalwyr yn wynebu caledi ariannol, ynysigrwydd cymdeithasol ac iechyd sy'n dirywio.

Meddai Helen Walker, Prif Weithredwr Carers UK: “Ddylai gofalu am anwylyd byth fod yn rheswm dros wynebu anghydraddoldeb, ond dyma realiti i lawer o bobl yn y DU yn anffodus. Mae cynhalwyr di-dâl yn ysu am seibiant, iechyd gwell a darpariaeth gofal cymdeithasol, yn ogystal â chymorth ariannol a chydraddoldeb yn y gweithle. Mae dros hanner yn dweud bod angen dealltwriaeth a chydnabyddiaeth well gan y cyhoedd.

“Mae Wythnos y Cynhalwyr 2025 yn gyfle hanfodol i godi ymwybyddiaeth, gan dynnu sylw at y rhai sy'n darparu gofal hanfodol i aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd ei angen. Rydyn ni eisiau gweld dyfodol lle mae cynhalwyr yn derbyn y cymorth cywir a'r un cyfleoedd i fyw bywydau iach a diogel o ran arian, ochr yn ochr â'u rolau gofalu.

“Gall unigolion, cyflogwyr, busnesau, ysgolion a gwasanaethau iechyd a gofal wneud gwahaniaeth mawr trwy ddod ynghyd i dynnu sylw at bwysigrwydd ‘Gofalu am Gydraddoldeb’. Gyda phob rhan o'r gymuned yn cymryd rhan, gallwn ni weithio gyda'n gilydd am gymdeithas gyfartal, lle mae cynhalwyr yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.”

I nodi Wythnos y Cynhalwyr 2025, mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi trefnu rhaglen o weithdai ac achlysuron ar gyfer cynhalwyr di-dâl lleol.

Hefyd, mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i gynhalwyr lleol, gan gynnwys cymorth gan grwpiau cymheiriaid, hyfforddiant, achlysuron, gwasanaeth cerdyn argyfwng i gynhalwyr, a mynediad rhatach at wasanaethau hamdden yr Awdurdod Lleol. 

Mae'r Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad i staff sy'n gynhalwyr di-dâl drwy ddod yn aelod o Employers for Carers. Ac yntau wedi'i gefnogi gan wybodaeth arbenigol Carers UK a Gofalwyr Cymru, mae Employers for Carers yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr ar sut i gefnogi cynhalwyr, neu'r rheiny a fydd yn dod yn gynhalwyr. Amcangyfrifir bod y nifer yma yn un o bob pedwar aelod o staff.

Mae'r Cyngor hefyd yn darparu cymorth arbenigol i gynhalwyr yn Rhondda Cynon Taf yn ogystal â mynediad rhatach at wasanaethau hamdden. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281463.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Mae cynhalwyr yn chwarae rôl hanfodol yn ein cymunedau, gan wneud aberthau personol yn aml er mwyn cefnogi anwyliaid. Mae'r wythnos yma'n ymwneud â chydnabod eu hymroddiad a sicrhau eu bod nhw'n derbyn y cymorth maen nhw'n ei haeddu.

“Trwy gynnal achlysuron, gweithdai ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, rydyn ni'n gobeithio cryfhau ein hymrwymiad i gynhalwyr di-dâl a thynnu sylw at y newidiadau hanfodol sydd eu hangen i'w cefnogi nhw ym mhob agwedd ar eu bywydau.

“Mae thema eleni, Gofalu am Gydraddoldeb, yn ein hatgoffa ni o'r angen pwysig i greu cymdeithas decach. Boed hynny trwy bolisïau yn y gweithle, mentrau cymdeithasol neu weithredoedd caredig, mae gyda ni i gyd rôl i'w chwarae i sicrhau bod cynhalwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u trin ag urddas a pharch.”

Wedi'i sefydlu gan Carers UK, mae Wythnos y Cynhalwyr yn ymgyrch codi ymwybyddiaeth flynyddol sy'n cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud gan y 5.8 miliwn o gynhalwyr yn y DU. Mae Wythnos y Cynhalwyr 2025 wedi'i threfnu gan Carers UK, ochr yn ochr â chefnogaeth gan elusennau Age UK, Carers Trust, MND Association, Oxfam GB, Rethink Mental Illness, The ME Association a The Lewy Body Society.

Gyda'i gilydd, mae'r wyth elusen yn croesawu unigolion a sefydliadau i ymuno â nhw i godi ymwybyddiaeth er mwyn tynnu sylw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, gwasanaethau, cyflogwyr, cymunedau a busnesau at gynhalwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos y Cynhalwyr 2025, ewch i: www.carersweek.org

Achlysuron lleol:

Dydd Llun 9 Mehefin

  • Sesiwn Grefftau i Gynhalwyr gyda Hannah, 2-3.30pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Ymunwch â ffrind hyfryd y cynllun, Hannah, o 'Growing Space Pontypridd' wrth iddi'ch arwain chi drwy'r sesiwn greadigol yma.

Dydd Mawrth 10 Mehefin

  • Carers Connections (achlysur misol), 10am-11.30am, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Mae ‘Carer Connections’ yn grŵp cymorth cymheiriaid sydd wedi'i arwain gan Gwnselydd sydd wedi cymhwyso. Yn y grŵp yma mae cyfle i drin a thrafod strategaethau ymdopi a sgiliau gwydnwch.
  • Gweithdy Celf Resin, 1-3pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Dyma gyfle gwych i ymuno ag un o'n cynhalwyr a bod yn gefn iddi â'i phrosiect ar yr ochr. Y nod o ran celf resin yw creu gwrthrychau penodol lle mae techneg yn cael ei defnyddio i greu ystod eang o effeithiau.
  • Cwtsh (achlysur misol), 6.30-8pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Ein grŵp misol gyda'r hwyr i gynhalwyr yw Cwtsh y Cynhalwyr; mae'n gyfle i gwrdd ag eraill, mwynhau amser hamdden a chael hwyl. Rydyn ni'n cynnal cwisiau, gemau ac adloniant arall o bob math.

Dydd Mercher 11 Mehefin

  • Sesiwn Flasu – Tai Chi, 3-4pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Mae Tai Chi yn grefft ac ymarfer ymladd Tsieineaidd sy'n gyfuniad o symudiadau araf sy'n llifo, ac anadlu dwfn a myfyrio. Mae'n cael ei ymarfer gan ei fod yn rhoi buddion iechyd fel gwell cydbwysedd, hyblygrwydd a llai o straen. Bydd gofyn i gynhalwyr wisgo dillad addas, cyfforddus ar gyfer y sesiwn yma.

Dydd Iau 12 Mehefin

  • Gweithdy Ymwybyddiaeth o Sgamiau a'u Hatal, 10.30am-12pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Mae'r gweithdy yma'n cael ei hwyluso gan Heddlu De Cymru. Y canolbwynt fydd addysgu'r sawl sy'n bresennol ynghylch sut mae sylwi ar amrywiol sgamiau a'u hosgoi, yn enwedig y rheini sy'n targedu'r grwpiau hynny yn y gymdeithas sy'n fwy agored i niwed nag eraill. Bydd lluniaeth ysgafn am 12pm.
  • Sesiwn 'Detective for the Day', 1pm-3.30pm, Canolfan Cynnal y Cynhalwyr. Gan barhau â'n bore ar thema'r ‘Heddlu’  – beth am fwynhau ychydig o hwyl gyda ni yn y prynhawn gyda'r gêm grŵp ryngweithiol, adloniadol, yma sy'n ceisio datrys dirgelwch y llofruddiaeth?

Dydd Gwener 13 Mehefin

  • Cyfle i gael sgwrs gyda staff Cynllun Cynnal y Cynhalwyr, 11am-4pm, Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd staff Cynllun Cynnal y Cynhalwyr ym mhrif fynedfa Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn hyrwyddo'r cynllun; yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod bod person yn gynhaliwr, cyfeirio at sefydliadau cymorth eraill a chodi proffil cynhalwyr di-dâl ledled Rhondda Cynon Taf, ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chymru!

I gadw lle ar achlysuron lleol yn ystod yr wythnos, ffoniwch Gynllun Cynnal y Cynhalwyr ar 01443 281463 neu e-bostiwch: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 09/06/2025