Skip to main content

Prif Weinidog Cymru'n ymweld â safle Tylorstown er mwyn nodi cyllid pellach ar gyfer tomenni glo

Tylorstown grid - Copy

Roedd y Cyngor yn falch o groesawu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Cymru i safle adfer Tirlithriad Tylorstown yr wythnos yma. Roedd hwn yn gyfle i weld y cynnydd sydd wedi mynd rhagddo'n rhan o'r prosiect yma, sy'n un o'r prif brosiectau tomenni glo Cymru. Mae'r safle'n elwa ar gyllid mawr er mwyn cyflawni gwaith monitro a gwaith hanfodol. 

Ymwelodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, a'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, â safle'r gwaith ddydd Mercher, 18 Mehefin. Cafodd y ddau eu croesawu gan Aelod o Gabinet RhCT, y Cynghorydd Mark Norris, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Priffyrdd a Pheirianneg y Cyngor, a chontractwr y prosiect, sef cwmni Prichards.

Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ddiolchgar am gefnogaeth sylweddol Llywodraeth Cymru yn y maes yma, ar ôl iddo dderbyn £11.49 miliwn yn rhan o'r Grant Diogelwch Tomenni Glo ar gyfer 2025/26. Yn ogystal â hynny, cyhoeddodd y Canghellor yn ei adolygiad gwariant yr wythnos diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu cyllid o £118 miliwn ar gyfer diogelu tomenni glo yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cyllid yma'n ychwanegol at gyllid parhaus Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor yn defnyddio'r cyllid tomenni glo y mae'n ei dderbyn i gyflawni gwaith monitro ac archwilio rheolaidd, ymateb i atgyweiriadau adweithiol yn dilyn tywydd garw, cynnal a chadw'r safleoedd, a chynnal adolygiadau manwl o domenni sy'n fater blaenoriaeth. Mae'r gwaith yma'n cynnwys asesiadau draenio a sefydlogrwydd, yn ogystal ag ymchwiliadau safle.

Cynhelir y gweithgarwch yma gan Garfan Diogelwch Tomenni Glo'r Cyngor, a bydd y cyllid o gymorth wrth iddi lunio rhestr flaenoriaeth o waith ar domenni sy'n eiddo i'r Cyngor ac sydd ar dir preifat. Bydd swyddogion yn ymdrechu i weithio gyda'r Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir newydd i hyrwyddo ei ymdrechion a'i weithgarwch.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: “Roedd hi'n wych bod yn Tylorstown i weld y gwaith hanfodol sy'n mynd rhagddo i wneud yn siŵr bod ein tomenni glo yn ddiogel ac yn sefydlog. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i awdurdodau lleol ledled Cymru i alluogi hyn, gan gynnwys gwaith adfer pwysig fel rydyn ni'n ei weld yma heddiw.

“Mae’r cyllid ychwanegol gwerth £118 miliwn ar gyfer diogelwch tomenni glo gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf, yn cydnabod y cyfrifoldeb a rennir i fynd i’r afael â gwaddol cloddio glo yng Nghymru. Mae hyn yn adeiladu ar yr hyn rydyn ni yn Llywodraeth Cymru wedi'i ariannu ers 2020. Rhyngom ni, byddwn ni wedi buddsoddi £220 miliwn yn y gwaith yma a fydd yn cefnogi cannoedd o gymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomenni yma."

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Roeddwn i’n falch iawn o groesawu’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog i safle gwaith Tirlithriad Tylorstown ddydd Mercher, wrth i’r Cyngor barhau i dderbyn cyllid sylweddol i fynd i'r afael â hen domenni glo yma yn Rhondda Cynon Taf. Ers 2021, mae'r Cyngor wedi gwario mwy na £20 miliwn o gyllid Grant Diogelwch Tomenni Glo gan Lywodraeth Cymru, gyda £11.49 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer eleni yn unig.

“Ar ben hyn, mae adolygiad gwariant yr wythnos diwethaf hefyd yn addo cyllid ychwanegol o £118 miliwn ar gyfer diogelu tomenni glo ledled Cymru dros dair blynedd – sy’n tynnu sylw at y ffaith bod y maes buddsoddi yma ar gyfer hen gymunedau glofaol yn flaenoriaeth bwysig i Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU.

“Efallai nad oes modd i drigolion weld yr holl waith sy'n mynd rhagddo - ond dyma gadarnhau bod y Garfan Diogelwch Tomenni Glo yn mynd at i fonitro ein hen domenni glo, yn ogystal â chyflawni llawer o waith asesu ac ymchwil. Nid yw'r gwaith yma wedi'i gyfyngu i fisoedd y gaeaf na chyfnodau o dywydd garw – mae'n dasg gydlynol sy'n mynd rhagddi drwy gydol y flwyddyn, diolch i'n carfan ymroddedig o swyddogion yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r swyddogion yn parhau i lunio rhestr flaenoriaeth o waith a mynd ati i gyflawni'r gwaith hwnnw – gyda'r unig ffocws ar wella diogelwch a lleddfu'r risgiau i'n cymunedau.”

Y Newyddion Diweddaraf am Dirlithriad Tylorstown, Cam Pedwar 

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno ym mis Chwefror 2020 yn dilyn glaw digynsail yn ystod Storm Dennis. Achosodd y tirlithriad rwystr ar ddyffryn yr afon, torrodd garthffos, gorchuddiodd bibell ddŵr gyda sawl metr o falurion, a gorchuddiodd lwybr troed a rennir. Mae'r cynllun adfer pedwar cam ar waith ar y safle - gan gynnwys gwaith clirio brys yn yr wythnosau ar ôl y storm (Cam Un).

Cafodd Cam Dau (atgyweirio'r argloddiau) a cham tri (symud deunydd o'r cwm i safleoedd derbyn ac ailagor llwybrau) eu cwblhau cyn cynnal gwaith ychwanegol i sefydlogi'r llethr. Mae'r gwaith yn rhan o Gam Pedwar (adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn) yn ystod dal i fynd rhagddo.

Mae'r gweithgarwch presennol ar y safle'n cynnwys gosod isadeiledd draenio terfynol ar yr hen safle, lle mae Tomen Llanwynno Uchaf wedi'i lleihau'n sylweddol o ran cyfaint ac wedi'i hailbroffilio. Mae'r gwaith draenio'n hanfodol er mwyn rheoli dŵr daear a dŵr wyneb ar ochr y bryn, a gwella sefydlogrwydd cyffredinol y safle.

Mae cynllun tymor hwy ar gyfer rheoli tir a chynefinoedd yn cael ei roi ar waith – sy'n cynnwys ystyried beth mae modd ei wneud i liniaru tanau gwyllt. Yn ogystal â hynny, bydd system fonitro dechnegol yn cael ei gosod, tra bod gwaith bach i gwblhau'r safle derbyn newydd y tu ôl i Domen Tylorstown ar y gweill.

Yn ystod dau gam gwaith blaenorol, cafodd safle derbyn yng Nglynrhedynog ei ddefnyddio i osod deunydd a oedd wedi llithro i'r afon ac i waelod y cwm. Mae prosiect cyffrous i greu trac pwmp BMX ar y safle yma bron â'i gwblhau, a bydd y cyfleuster hamdden newydd yma'n cael ei agor yn swyddogol yn fuan. Mae gwaith plannu coed hefyd wedi mynd rhagddo ar un o'r safleoedd derbyn eraill a ddefnyddiwyd yn gynharach yn y cynllun.

Wedi ei bostio ar 20/06/2025