Mae Ysgol Gynradd Trehopcyn yn gyffrous i gyhoeddi dyddiad agor ei Canolfan Gymuned newydd. Mae'r cyfleuster arobryn wedi'i ddylunio yn fan cymunedol i'w fwynhau gan drigolion, grwpiau a sefydliadau lleol. Yn dilyn atgyweiriadau cynhwysfawr, mae'r Ganolfan bellach yn cynnwys digonedd o offer ar gyfer ystod eang o weithgareddau ac achlysuron ar gyfer y gymuned gyfan.
Mae'r cyfleusterau yn cynnwys cegin a chyfleusterau coginio newydd, sy'n berffaith ar gyfer cyrsiau coginio neu achlysuron mewn perthynas â bwyd. Mae'r neuadd yn cynnig lleoliad hyblyg ar gyfer ystod o weithgareddau, o ddosbarthiadau ffitrwydd i achlysuron cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, mae'r Ganolfan yn cynnwys sawl ystafell gyfarfod ar gyfer grwpiau a chlybiau lleol, sydd ar gael i'w llogi!
Bwriwch olwg ar rai o'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y Ganolfan Gymuned ar hyn o bryd:
- Trehopcyn Tots: (Dydd Mercher 9am - 10am): Grŵp cyfeillgar a chroesawgar ar gyfer rhieni a'u babanod.
- PIPYN: Grŵp sy'n darparu cymorth ac adnoddau mewn perthynas â datblygiad yn y blynyddoedd cynnar.
- Cyrsiau Coginio Dosbarthiadau ymarferol ar gyfer unigolion sy'n ceisio ehangu eu sgiliau coginio.
- Sesiwn Chwarae â Blociau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar: Amgylchedd ddifyr a chreadigol i blant ddysgu a chwarae.
- Gweithdai Gwaith Coed: Sesiynau ymarferol sy’n rhoi cyfle i oedolion a phlant ddatblygu sgiliau gwaith coed newydd.
Mae'r Ganolfan yn rhan o ymrwymiad Ysgol Gynradd Trehopcyn i fod yn ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a hynny drwy gynnig cyfleoedd o ran dysgu, datblygu personol ac ymgysylltu cymunedol i bawb. Mae'r lleoliad ar agor i'r gymuned gyfan, nid i rieni plant yn yr ysgol yn unig, ac mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer clybiau a gweithgareddau sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod Canolfan Gymuned Trehopcyn bellach ar agor ac yn cael ei defnyddio. Mae'r Ganolfan yn lle i bawb yn y gymuned ddysgu ac ymgysylltu gyda'i gilydd. Mae Ysgol Gynradd Trehopcyn wedi gweithio'n galed iawn i sicrhau bod y Ganolfan yn barod ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr holl gyfleoedd y bydd hi’n eu darparu."
Meddai, Nicola Prewett, Pennaeth Ysgol Gynradd Trehopcyn: "Mae gyda ni weledigaeth gref yma yn Nhrehopcyn i fod yn ganolbwynt i’n cymuned leol. Bydd y Ganolfan newydd yn ein cynorthwyo ni wrth ddarparu mynediad at gyfleoedd sydd o fudd i bawb. Rydyn ni'n parhau i ystyried ffyrdd o ddatblygu’r defnydd o’r Ganolfan ymhellach, gan sicrhau ei bod hi’n chwarae swyddogaeth fwy arwyddocaol fyth wrth galon ein cymuned. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb i'r lleoliad cymunedol newydd cyffrous yma, a fydd yn gonglfaen ar gyfer creadigrwydd, meithrin cysylltiadau, a chyfleoedd.
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â chadw lle yn y Ganolfan Gymuned, neu i ddysgu rhagor am y gweithgareddau sydd ar gael, cysylltwch â swyddfa'r ysgol:
Ffôn: 01443 486844
E-bost: admin@trehopcynprimary.rctcbc.cymru
Wedi ei bostio ar 16/06/2025