Mae'r Cabinet wedi derbyn y newyddion diweddaraf ar y gwaith y mae Trivallis wedi'i gwblhau tuag at y weledigaeth adfywio ar gyfer y dyfodol ar gyfer ystâd Pen-rhys a'r ardal gyfagos.
Cafodd egwyddor datblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Pen-rhys ei rhannu'n gyntaf gan Trivallis, a chytunodd y Cabinet arni yn 2021. Trivallis yw perchennog yr ystâd ers i'r Cyngor ei throsglwyddo iddo yn 2007. Mae tua 230 o gartrefi â thenantiaid yno o hyd. Mae sawl stryd lle mae cyflwr y tai yn wael. Ystyrir bod adfywio'r ystâd fel y mae ar hyn o bryd yn aneconomaidd.
Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 11 Mehefin, cafodd y Cabinet wybod am y cynnydd o ran gweithgareddau Trivallis. Nododd adroddiad i'r Cabinet fod Trivallis wedi sefydlu carfan ddylunio amlddisgyblaethol, a bod ymchwiliadau safle helaeth wedi'u cynnal. Mae'r rhain wedi helpu i lywio a dylunio cynllun meistr drafft. Mae Trivallis hefyd wedi cynnal sesiynau ymgysylltu â thrigolion er mwyn esbonio ei syniadau a chael clywed barn pobl leol. Byddan nhw'n parhau wrth i'r cynlluniau gael eu datblygu – mae sicrhau bod y gymuned yn rhan o bethau yn elfen hanfodol o'r broses yma.
Yn rhan o waith paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol newydd (hyd at 2037), mae adfywio Pen-rhys hefyd yn cael ei hyrwyddo'n Safle Allweddol, a bydd yn rhan o gamau nesaf y cynllun. Hefyd, bydd prif adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-rhys. Bydd yn cymryd lle'r adeiladau presennol sydd o ansawdd gwael. Cadarnhawyd y bydd y datblygiad ysgol newydd yn cael ei gyflawni yn rhan o'r gyfran nesaf o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion, gan ddefnyddio'r buddsoddiad sylweddol wedi'i sicrhau drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Cabinet yn nodi mai'r camau nesaf ar gyfer Trivallis fydd iddo ddatblygu ei gynllun meistr ymhellach, gan archwilio'n drylwyr i faterion allweddol fel cynllunio, priffyrdd ac ecoleg. Mae'r gymdeithas dai hefyd wrthi'n caffael partner datblygu ar gyfer y cynigion adfywio.
O ran amserlenni cynllunio, mae Trivallis yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ym mis Awst 2025 ar gyfer 'Cam 1A' y cynigion – sy'n cynnwys ardal yng ngogledd-orllewin y cynllun meistr ac yn ymwneud â'r bwriad i adeiladu 150 o gartrefi newydd. Mae gwaith ar y gweill i ddymchwel adeiladau presennol yn yr ardal yma. Mae'n bosibl bydd cais amlinellol ar gyfer y cynllun meistr ehangach ar gael ddechrau 2026.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter a Datblygu: “Ein gweledigaeth wedi'i rhannu â Triallis ar gyfer Pen-rhys yw creu cymuned boblogaidd, fywiog a chynaliadwy diolch i gyfleusterau newydd a chartrefi modern o ansawdd uchel. Nod y gwaith adfywio arfaethedig yw gwella bywydau trigolion presennol, gan greu lle y bydd trigolion newydd yn ceisio byw ynddo'n weithredol. Mae hefyd yn ystyried potensial enfawr yr ardal trwy amgylchedd naturiol unigryw sydd â golygfeydd godidog o waelod y cwm.
“Yn rhan o'r newyddion diweddaraf i’r Cabinet ar gynnydd gwaith Trivallis, nodwyd y gwaith cynllunio ac ymchwilio wedi'i gwblhau hyd yma, y cynllun meistr drafft ar gyfer yr ardal, yr amserlenni cynllunio, a’r camau cyntaf o ymgysylltu â’r gymuned. Bydd ymgysylltu pellach â thrigolion yn elfen hanfodol o gynnydd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod trigolion yn cael y newyddion diweddaraf a’u bod yn gallu dweud eu dweud ym mhob cam o’r ffordd.
“Wrth wraidd y gymuned fydd y cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-rhys. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’w cyflwyno law yn llaw â Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad mawr yma'n sefydlu ysgol gymunedol ym mhob ystyr y gair i Ben-rhys, a fydd wrth galon yr ardal ar gyfer y dyfodol. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r ysgol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned ar bob carreg filltir allweddol ar gyfer y prosiect yma.”
Ychwanegodd Louise Attwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Materion Datblygu Trivallis: "Rydyn ni yma yng nghymdeithas Trivallis yn gweithio gyda chymuned Pen-rhys i greu dyfodol gwell ar ei chyfer, gyda chartrefi modern, mannau gwyrdd a chyfleoedd newydd.
“Bydd trigolion Pen-rhys yn cael eu blaenoriaethu o ran y cartrefi newydd, ac mae eu lleisiau’n rhan hollbwysig o'r gwaith dylunio a datblygu. Bydd tai rhent cymdeithasol yn cael eu dyrannu drwy system Homefinder y Cyngor, gan gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen."
Yn ogystal â'r newyddion diweddaraf cyffredinol am gynnydd, roedd adroddiad y Cabinet ddydd Mercher hefyd yn ceisio cael cymeradwyaeth i drosglwyddo darnau o dir ym Mhen-rhys sy'n parhau i fod ym mherchnogaeth y Cyngor i Trivallis. Mae hyn yn cynnwys ardal fawr i'r de o'r brif gylchfan. Cytunodd yr Aelodau i'r argymhelliad yma, gan gydnabod y dylai Trivallis fod yn gyfrifol am yr holl dir sydd ar gael, a hynny er mwyn cyflawni'r weledigaeth newydd ar gyfer Pen-rhys yn y ffordd orau.
Wedi ei bostio ar 18/06/2025