Mae'r gwaith adeiladu ar gam pedwar Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach bellach wedi'i gwblhau i raddau helaeth - gyda'r rhan 2.65 cilometr yma o'r llwybr cerdded a beicio trwy ardal Glynrhedynog nawr ar gael i'r gymuned ei mwynhau.
Bydd Llwybr Teithio Llesol cyffredinol Cwm Rhondda Fach yn creu llwybr a rennir 10 cilometr o hyd rhwng Maerdy a Tylorstown, ac mae’n cael ei gyflawni'n bum prif gam o waith. Mae cam un, dau, pedwar a phump yn mynd i'r afael â'r prif lwybr, gyda cham tri yn darparu llwybr allweddol oddi ar y prif lwybr. Mae disgrifiad a diweddariad o ran cynnydd ar gyfer pob un o'r pum cam gwaith wedi'u cynnwys ar waelod yr eitem newyddion yma.
Ar ôl ymgynghori ar ddechrau'r llynedd a derbyn caniatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024, dechreuodd gwaith adeiladu cam pedwar ym mis Gorffennaf 2024. Mae wedi cael ei gyflwyno ar amser yn ddiweddar gan gontractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, wedi'i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol 2024/25 gan Lywodraeth Cymru.
Mae cam pedwar wedi parhau â'r rhannau blaenorol o'r llwybr drwy uwchraddio'r llwybr ar yr hen reilffordd, sy'n ymestyn ar draws Glynrhedynog o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt i'r gogledd-ddwyrain o Gartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Mae'r rhan yma'n mynd heibio i Flaenllechau, ac mae hefyd yn cynnwys cyswllt newydd i Stryd yr Afon ym mhen gogleddol Glynrhedynog.
Mae dwy bont troed newydd wedi'u gosod ym Mlaenllechau i ategu’r gwaith ar lwybr cam pedwar. Mae'r bont droed 30 metr 'Gogledd Blaenllechau' yn darparu ateb i bont reilffordd goll lle mae Maerdy a Glynrhedynog yn cwrdd, mewn lleoliad i'r gogledd o Ysgol Gymuned Glynrhedynog. Mae pont droed newydd 'De Blaenllechau' yn ffurfio cyswllt â'r llwybr teithio llesol o Stryd yr Afon.
Er bod y rhan fwyaf o'r gwaith yma bellach wedi'i gwblhau a bod y llwybr ar gael i'r gymuned, efallai y bydd trigolion yn sylwi bod contractwr y Cyngor ar y safle yn yr wythnosau i ddod, i gwblhau gwaith adfer angenrheidiol.
Yn ogystal â hynny, mae prosiect lleol i greu trac pwmp BMX newydd yng Nglynrhedynog bron wedi'i gwblhau. Mae'r llwybr teithio llesol yn mynd heibio'r cyfleuster newydd yma, sydd wedi'i leoli oddi ar Heol yr Orsaf a Stryd y Taf. Er bod y rhain yn brosiectau ar wahân, byddan nhw'n cael eu cwblhau tua'r un pryd â'i gilydd, ill dau at ddefnydd y gymuned. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion am ddyddiad agor y trac pwmp maes o law.
Nodwch, bydd angen cau pen deheuol llwybr cam pedwar dros dro wrth i'r gwaith adeiladu symud i gam pump, a fydd yn estyn y llwybr o Lynrhedynog i Tylorstown. Bydd ardal y cau yn dechrau o bwynt ger y trac beicio a Heol yr Orsaf ac yn ymestyn tua'r de. Mae'r gwaith yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch. Bydd rhaid i'r cyhoedd barchu'r cau unwaith y bydd ar waith ac mae disgwyl i hyn ddechrau ar 16 Mehefin.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y rhan ddiweddaraf o Lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach drwy ardal Glynrhedynog bellach wedi'i hadeiladu i raddau helaeth a’i bod hi ar agor i gymunedau lleol ei defnyddio. Dyma'r drydedd brif ran o'r llwybr i'w chwblhau, ar ôl i gamau un a dau trwy ardal Maerdy gael eu cyflwyno yn flaenorol yn 2023 a 2024.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r ddarpariaeth newydd yma ledled Cwm Rhondda Fach. Mae cam pedwar wedi'i gyflawni drwy ddyraniad gwerth £4.26 miliwn yng Nghronfa Teithio Llesol y llynedd, a oedd yn cynnwys cyllid i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cam pump rhwng Glynrhedynog a Tylorstown. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedden ni'n falch iawn o dderbyn £4.9 miliwn arall ar gyfer cyflawni'r cam olaf yma o waith yn llawn – diolch i ddyraniad newydd Cronfa Teithio Llesol 2025/26.
"Mae parhau i fuddsoddi mewn darpariaeth teithio llesol newydd, a gwella ein llwybrau presennol, yn flaenoriaeth i'r Cyngor ledled Rhondda Cynon Taf. Mae annog trigolion i gerdded neu feicio mwy o'u teithiau lleol bob dydd yn bwysig i wella iechyd a lles pobl, wrth hefyd helpu'r amgylchedd trwy leihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd. Bydd hyn yn cael effaith ar leihau tagfeydd traffig a gwella amseroedd teithio.
"Roedd Cronfa Teithio Llesol 2025/26 hefyd yn cynnwys dyraniad craidd o dros £1 miliwn. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dau lwybr newydd rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a Threorci a Threherbert – tra bod cynlluniau ychwanegol wedi derbyn cytundeb mewn egwyddor ac yn parhau i gael eu datblygu ar hyn o bryd.
"Gyda cham pedwar Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach bellach wedi'i gwblhau i raddau helaeth, bydd ein canolbwynt yn troi at gam pump – a dderbyniodd ganiatâd cynllunio llawn yn gynharach eleni. Bydd y Cyngor yn cyfathrebu â thrigolion pan fydd y cam adeiladu ar gyfer y rhan olaf yma'n barod i ddechrau."
Mae manylion pum cam Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, gan gynnwys y diweddaraf am gynnydd pob un, wedi’u crynhoi isod:
- Cafodd Cam Un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ran fwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i’r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
- Cafodd Cam Dau ei gwblhau yn 2024, gan ailafael yn y llwybr i'r de o gam un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5 cilometr o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
- Bydd Cam Tri'n gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy ac yn creu llwybr 1.5 cilometr newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae’n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
- Cwblhawyd Cam Pedwar yn 2025, gan uwchraddio'r hen reilffordd ar draws Glynrhedynog – o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Roedd yn cynnwys cyswllt newydd â Stryd yr Afon (Glynrhedynog) ac adeiladu dwy bont droed newydd ym Mlaenllechau.
- Bydd Cam Pump yn ymestyn y llwybr o gam pedwar, rhwng Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach (Glynrhedynog) a throsbont Stanleytown – sy'n cysylltu â llwybr cymunedol Ffordd Liniaru Porth. Bydd yn creu cysylltiadau newydd â'r ganolfan chwaraeon a Meddygfa Tylorstown. Derbyniodd ganiatâd cynllunio llawn ym mis Ionawr 2025, ac fe'i ariennir yn llawn trwy Gronfa Teithio Llesol 2025/26.
Wedi ei bostio ar 12/06/2025