Wrth ymateb i gyhoeddiadau Achos Busnes Amlinellol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a ddaeth i’r casgliad na ddylid bwrw ymlaen ag opsiynau i leihau’r risg o lifogydd i gartrefi ar hyd Cwm Clydach, dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
“Rydym yn nodi cwblhau datblygiad opsiynau CNC, ac yn deall y bydd ei gasgliadau’n siomedig i drigolion Cwm Clydach.
“Er bod proses CNC wedi bod yn mynd rhagddi, mae’r Cyngor wedi parhau i weithio i baratoi ar gyfer yr holl ganlyniadau ar ddiwedd y broses. Fel bob amser, diogelwch trigolion Cwm Clydach sydd wrth wraidd ein holl benderfyniadau.
“Er mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd cyfrifol ar gyfer y lleoliad hwn, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau i archwilio pob opsiwn ar gyfer Cwm Clydach. Does dim byd bant o’r bwrdd, gan gynnwys caffael eiddo lle bo angen, a byddwn yn ymgynghori â thrigolion yr effeithir arnynt ar bob opsiwn yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn gwrando ar eu dymuniadau a’u hanghenion. Mae hyn yn cynnwys cynnull cyfarfod ar gyfer trigolion Cwm Clydach, yn y 7-10 diwrnod nesaf i ystyried opsiynau posibl a’r camau nesaf.
“Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i wella gwydnwch llifogydd y lleoliad hwn sy’n parhau i fod yn agored iawn i lifogydd afonydd.”
Wedi ei bostio ar 23/06/2025