Skip to main content

Strategaeth wedi'i diweddaru i ymgysylltu â'n trigolion a'n cymunedau

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno ar Strategaeth Cymryd Rhan a Chynllun Gweithredu newydd, gyda'r nod o annog rhagor o’r cyhoedd i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor – gyda ffocws penodol ar annog trigolion i ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau allweddol.

Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 11 Mehefin, ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cyflwyno Strategaeth Cymryd Rhan a Chynllun Gweithredu 2025, a ddatblygwyd yn dilyn ymgynghoriad ar raddfa fawr. Er bod gan y Cyngor broses gadarn a thryloyw ar waith i ymgysylltu â thrigolion eisoes, nod y strategaeth yw gwella’i ddulliau ymgynghori ymhellach, ac mae'n cyflwyno saith amcan i amlinellu sut y bydd y Cyngor yn atgyfnerthu ei weithgarwch o ran ymgysylltu.

Yn flaenorol, bu’r Cyngor yn defnyddio ei Fframwaith Ymgysylltu a Chymryd Rhan ar ffurf canllaw ar gyfer ei wasanaethau, fodd bynnag, mabwysiadwyd dull 'digidol yn ddiofyn' o ymgynghori allan o reidrwydd yn ystod y pandemig. Mae'r strategaeth newydd yn hyrwyddo mwy o ymgysylltu wyneb yn wyneb mewn cymunedau, ochr yn ochr â'r dull digidol sydd wedi'i fireinio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu tystiolaeth i drigolion ynghylch y rhesymeg dros benderfyniadau a wneir.

Mae hefyd yn cysylltu â Chynllun Corfforaethol y Cyngor (2024-2030), sy'n ymrwymo i roi trigolion wrth wraidd holl weithgarwch y Cyngor a'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud – ynghyd â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor (2024-2028), sy'n ymrwymo i wrando ar brofiadau pob trigolyn a’u deall.

Cafodd ymgynghoriad eang ei gynnal rhwng 3 Mehefin a 27 Medi 2024, i gael adborth ar fersiwn ddrafft gychwynnol y strategaeth, ac i lywio ei fersiwn derfynol. Defnyddiwyd arolygon cyflym, bwrdd syniadau ac offeryn map ar wefan Dewch i Siarad RhCT, ynghyd â sioe deithiol gyhoeddus ac achlysuron staff, sesiynau adborth i Aelodau’r Cyngor, a gwaith ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid. Mae adroddiad yr ymgynghoriad ar gael yn llawn yn Atodiad i adroddiad y Cabinet a gafodd ei gyflwyno ddydd Mercher.

Mae gweledigaeth y strategaeth newydd a gafodd ei chymeradwyo gan y Cabinet ddydd Mercher fel a ganlyn:

"Rhondda Cynon Taf lle mae gan bawb yn y gymuned gyfle i ddweud eu barn ar gynllunio a darparu gwasanaethau'r Cyngor. Lle mae pobl yn gwybod sut i ddweud eu dweud, yn defnyddio dulliau amrywiol i ddweud eu dweud ac yn gwybod bod eu barn yn cael ei ystyried pan mae penderfyniadau'n cael eu gwneud."

Mae rhagor o fanylion am y saith amcan Cymryd Rhan wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet, sydd ynghlwm wrth y ddolen uchod. Yn fras, yr amcanion yw:

  • Cryfhau a datblygu cyfleoedd clir i drigolion ddweud eu dweud a dylanwadu ar benderfyniadau'r Cyngor.
  • Gwneud yn siŵr ei bod hi'n hawdd cymryd rhan.
  • Annog nifer o bobl a grwpiau i gymryd rhan.
  • Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu yn y gymuned er mwyn sicrhau cysondeb, ansawdd a chyfranogiad partneriaid er mwyn osgoi dyblygu.
  • Darparu adborth, drwy roi gwybod i bobl am effaith eu cyfraniad.
  • Arfogi staff gyda'r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau cyfranogiad effeithiol.
  • Gwerthuso a gwella, drwy wirio effeithiolrwydd y gweithgarwch.

Mae modd gweld Strategaeth Cymryd Rhan 2025 a’r Cynllun Gweithredu ar ffurf atodiad i adroddiad y Cabinet a gafodd ei gyflwyno ddydd Mercher. Yn dilyn cytundeb y Cabinet ddydd Mercher, bydd y Strategaeth bellach yn cael ei mabwysiadu dros y pum mlynedd nesaf (2025-2030).

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:   “Mae gan y Cyngor hanes rhagorol o ymgysylltu â’n trigolion a’n cymunedau, ac mae’r ystod bresennol o ddulliau ymgynghori rydyn ni’n eu defnyddio yn galluogi’r cyhoedd i ddweud eu dweud am faterion allweddol – yn enwedig mewn perthynas â’n gwaith o gynllunio a newid gwasanaethau. Fodd bynnag, mae lle i wella bob amser, ac mae'r Strategaeth Cymryd Rhan a'r Cynllun Gweithredu sydd newydd eu cytuno yn anelu at helpu’r cyhoedd i gyfrannu’n well at ein prosesau gwneud penderfyniadau.

“Yn unol â’r Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus, dogfennau allweddol a gafodd eu gweithredu'n ddiweddar, mae’r strategaeth newydd yn cyflwyno sawl gwerth craidd – bod pawb yn gallu dweud eu dweud, bod pobl yn gwybod sut i wneud hyn drwy ystod o ddulliau sydd ar gael, a bod trigolion yn gwybod bod eu barn yn cael ei hystyried. Drwy wrando ar bobl a darparu’r offer sydd eu hangen arnyn nhw, bydd ein gweithgarwch mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

“Rhan allweddol o’r strategaeth yw hyrwyddo ymgysylltiad wyneb yn wyneb cryfach, gan ddal ati i gynnal dulliau ar-lein yr ydyn ni wedi dibynnu arnyn nhw ac wedi’u defnyddio’n dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cryfhau ein hymgysylltiad â grwpiau cymunedol yn enghraifft dda o’r ffordd rydyn ni’n canolbwyntio ar ymgynghori wyneb yn wyneb. Yn aml, rydyn ni'n cael sgyrsiau gwahanol iawn mewn lleoliadau wyneb yn wyneb o’u cymharu ag ymatebion ar-lein, ac rwy'n falch bod y Cabinet wedi cefnogi'r elfen allweddol yma o'n dull newydd."

Wedi ei bostio ar 12/06/2025