Skip to main content

Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'n wych gweld cynifer o grwpiau cymunedol a sefydliadau yn gwneud cais am gyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU unwaith eto.

Yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion ar ôl i'r cyfnod wneud cais ddod i ben ddydd Gwener diwethaf (14 Mawrth 2025), gallaf gadarnhau bod nifer sylweddol o geisiadau - cyfanswm o 203 - wedi'u derbyn ar gyfer y lefelau Isel a Chanolig.

Cyfanswm gwerth y ceisiadau am grant yw £4,580,195.

Yn anffodus, fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae cyfanswm gwerth y ceisiadau am grant llawer yn uwch na'r £2 filiwn sydd gan y Cyngor dros y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, fydd llawer o ymgeiswyr ddim yn llwyddiannus.

Does dim dwywaith bod y broses gwneud cais yn gystadleuol iawn, felly mae'r Swyddogion wrthi'n asesu pob cais yn erbyn meini prawf a mesurau sgorio. Bydd y ceisiadau sydd wedi bodloni nodau ac amcanion y cyllid yn cael eu cyflwyno i'r panel ar gyfer ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad."

Wedi ei bostio ar 20/03/2025