Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno ar welliannau i wasanaeth bws 111, sy'n cael ei redeg gan Edwards Coaches.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys taith ddwyffordd ddiweddarach rhwng Tŷ Rhiw a Phontypridd, a theithiau ychwanegol yn y bore/prynhawn rhwng Rhydyfelin a’r Ddraenen Wen a Phentre’r Eglwys, Llanilltud Faerdref, a Thon-teg, o ddydd Llun 1af Medi 2025.
Mae’r daith ddiweddarach am 16:05 o Dŷ Rhiw, gan ddychwelyd o Orsaf Fysiau Pontypridd am 16:50, yn cynnig mwy o fynediad i drigolion Tŷ Rhiw i siopau ac amwynderau lleol, yn ogystal â chyfleoedd i gyfnewid â’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
Bydd y daith ddwyffordd ychwanegol yn y bore a’r prynhawn rhwng Rhydyfelin a’r Ddraenen Wen a Phentre’r Eglwys, Llanilltud Faerdref, a Thonteg yn darparu gwell cysylltiadau trafnidiaeth lleol ar adegau allweddol.
Gweler yr amserlen ar gyfer y gwasanaeth yma:
Bydd penderfyniad ar ba docynnau teithio fydd yn berthnasol ar gyfer y teithiau ysgol yn cael ei benderfynu gan gynllun peilot capio tocynnau bws Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru.
Wedi ei bostio ar 27/05/2025