Mae Wythnos Diogelu 2025 yn ymgyrch flynyddol genedlaethol sy'n cael ei gynnal rhwng dydd Llun, 10 Tachwedd a dydd Gwener, 14 Tachwedd. Eleni, mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn canolbwyntio ar y thema Niwed Ar-lein: Cadw eich hunain ac eraill yn ddiogel.
Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth ledled Rhondda Cynon Taf am risgiau niwed a cham-drin ar-lein, a sut y mae modd i unigolion amddiffyn eu hunain ac eraill mewn mannau digidol.
Beth yw niwed a cham-drin ar-lein?
Mae niwed ar-lein yn cyfeirio at y risgiau y mae modd i bobl eu hwynebu trwy lwyfannau digidol. Mae modd iddo effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu eu cefndir, ac yn aml mae'n digwydd mewn mannau bob dydd megis y cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseuon, llwyfannau gemau a gwefannau.
Mae mathau o niwed ar-lein yn cynnwys:
- Cam-drin cymdeithasol ac emosiynol: Seiberfwlio, aflonyddu ar-lein, seiberstelcio, docsio.
- Cam-drin a chamfanteisio rhywiol: Meithrin priodas amhriodol, gorfodaeth, rhannu delweddau rhywiol heb ganiatâd (a eliwir hefyd yn 'revenge porn'), pobl ffug.
- Cynnwys niweidiol ar-lein: Araith gasineb, deunydd eithafol, heriau peryglus ar-lein.
- Sgamiau a Thwyll Ariannol: Gwe-rwydo, sgamiau rhamant, sgamiau buddsoddi.
Mae Wythnos Diogelu yn gyfnod penodol i dynnu sylw at y materion sy'n effeithio ar ddiogelwch a lles unigolion yn ein cymunedau. Drwy ganolbwyntio ar niwed ar-lein, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu mewn mannau digidol wrth eu grymuso â'r wybodaeth i aros yn ddiogel.
Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelu, p'un a ydych chi'n rhiant, yn warcheidwad, yn weithiwr proffesiynol neu'n aelod o'r cyhoedd. Mae'r wythnos yma'n gyfle i ddysgu, i rannu a chymryd camau i amddiffyn ein hunan ac eraill.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Mae Wythnos Diogelu 2025 yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau y mae pobl yn eu hwynebu ar-lein ac i rymuso ein cymunedau gyda’r wybodaeth i aros yn ddiogel.
“Boed yn seiberfwlio, camfanteisio ar-lein, neu dwyll digidol, mae modd i niwed ar-lein effeithio ar unrhyw un, ac mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth amddiffyn ein hunain ac eraill.
“Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg wedi llunio rhaglen o achlysuron drwy gydol yr wythnos sydd wedi’u cynllunio i hysbysu, cefnogi a galluogi pobl ledled Rhondda Cynon Taf â’r adnoddau angenrheidiol i lywio’r byd digidol yn ddiogel.
“Rwy’n annog pawb, gan gynnwys rhieni, gwarcheidwaid, gweithwyr proffesiynol, ac aelodau’r cyhoedd, i gymryd rhan yn yr Wythnos Diogelu yma.”
Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei gefnogi a'i barchu.
Mae cyfrifoldeb ar unrhyw berson sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, NEU ymddygiad gweithiwr tuag at blentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, i roi gwybod am hyn ar unwaith:
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/DiogeluCorfforaethol
Achlysuron Lleol
Yn ystod yr wythnos, bydd sawl achlysur yn cael eu cynnal ledled ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae'r rhai sydd ar agor i'r cyhoedd yn cynnwys:
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd
Seiberdrosedd – Stelcio Digidol ac Aflonyddu (gan gynnwys Trais yn Erbyn Menywod a Merched) – Heddlu De Cymru, 10am–11am, ar-lein
Bydd y cyflwyniad yma'n cyflwyno Seiberdroseddu a'i esblygiad dros y blynyddoedd. Bydd yn tynnu sylw at yr effaith ar Stelcio Digidol ac Aflonyddu ac yn rhoi esboniad o'r hyn y mae modd ei wneud i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae'r sesiwn yma’n addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol, cleientiaid ac aelodau cyffredinol o'r cyhoedd sydd am ddeall heriau stelcio ac aflonyddu a alluogir gan dechnoleg.
I gadw eich lle, defnyddiwch y ddolen yma.
Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Barod a Choices, 10am-12pm, YMa Pontypridd (28 Stryd y Taf, CF37 4TS)
Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Ar gyfer Rhieni, Gwarcheidwaid a Gweithwyr Proffesiynol
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
Cydnerthedd Digidol – Sefydliad Lucy Faithfull, 10am-11am, ar-lein
Wrth i dechnoleg a'r rhyngrwyd newid, mae'r risg i blant hefyd yn newid. Bydd yn trin a thrafod sut i gadw plant a phobl ifainc yn ddiogel ar-lein. Magwch eich hyder wrth gyfathrebu am ddiogelwch ar y rhyngrwyd. Dewch i ddall deddfwriaeth, ymddygiad pryderus ar-lein, ac ystyried datblygu cynllun diogelwch digidol. Ar agor i rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
Dydd Mercher, 12 Tachwedd
Diogelu Plant Ar-lein – Adferiad, 2pm-4pm, ar-lein
Sesiwn i ymarferwyr a rhieni/gwarcheidwaid ar amddiffyn plant a phobl ifainc ar-lein, a fydd yn ymdrin â'r canlynol:
- Sut mae plant yn defnyddio technoleg a'r risgiau
- Gemau/cistiau trysor/pryniannau mewn apiau, ac ati
- Cyfryngau cymdeithasol a phrynu cyffuriau drwy Apiau
- Bwlio ar-lein a'r effaith
- Radicaleiddio ac eithafiaeth ar-lein
I gadw eich lle, dilynwch y ddolenyma.
Dydd Iau, 13 Tachwedd
Niweidio Ar-lein: Cadw Eich Hun ac Eraill yn Ddiogel – Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, 10am-4pm, Hwb Canol Tref Merthyr Tudful (3 Newmarket Walk, CF47 8EL)
Achlysur cymunedol wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yng nghanol tref Merthyr Tudful i roi gwybodaeth i bobl ar sut i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel ar-lein. Bydd llawer o sefydliadau yn yr achlysur, yn cynrychioli gwahanol wasanaethau. Mae croeso i bawb.
Am wybodaeth am yr achlysur yma, e-bostiwch DiogeluCTM@rctcbc.gov.uk.
Ymwybyddiaeth o Dwyll Ar-lein – BAVO, 10.30am-11.45am, ar-lein
Sesiwn wybodaeth a wedi'i ddarparu gan Tarian, Heddlu De Cymru. Mae croeso i bawb.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.
Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant – Sefydliad Lucy Faithfull, 6pm-7.30pm, ar-lein
Dewch i ddeall sut a pham mae camfanteisio'n rhywiol ar blant yn digwydd. Cyfle i drin a thrafod ffactorau risg, arwyddion a dangosyddion. Dysgwch ble i gael cymorth a sut y mae modd i gamau ataliol cadarnhaol helpu i amddiffyn plant a phobl ifainc rhag wynebu camfanteisio. Yn agored i rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.
Dydd Gwener, 14 Tachwedd
Cyfryngau Cymdeithasol a Chamddefnyddio Sylweddau – Barod a Choices, 10am-12pm, Cynon Linc, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BD
Sesiwn hyfforddi 2 awr i drin a thrafod byd newidiol llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol a'u dylanwad ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y sesiwn yn trafod sut mae cyffuriau'n cael eu sicrhau a'u gwerthu ar-lein, rôl fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein, a sut y mae modd i'r mannau digidol yma gysylltu â gweithgaredd llinellau cyffuriau. Byddwn ni hefyd yn tynnu sylw at strategaethau ymarferol ar gyfer cadw'n ddiogel ar-lein. Yn agored i rieni/gwarcheidwaid.
I gadw eich lle, dilynwch y ddolen yma.
Mae modd dod o hyd i raglen lawn o achlysuron yma.
Wedi ei bostio ar 10/11/2025