Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ar fin dechrau arolwg o Bont hanesyddol William Edwards ym Mhontypridd, gan ddefnyddio tomograffeg muon arloesol a gafodd ei ddefnyddio'n flaenorol i arolygu Pyramidiau'r Aifft. Bydd yr arolwg yn ein galluogi i ddysgu beth sydd y tu mewn i un o dirnodau trysoredig y dref.
Dyma un o ddefnyddiau cyntaf y dechnoleg yma ar strwythur pont. Bydd yn helpu peirianwyr i lunio darlun gwell o gread mewnol y bont heb orfod drilio na tharfu ar y gwaith maen hanesyddol. Mae'n bwysig iawn ar gyfer strwythur fel Pont William Edwards, sydd yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Pontypridd ac yn Heneb Restredig sydd wedi sefyll bron i 270 blwyddyn.
Mae cofnodion hanesyddol yn awgrymu y gallai fod bylchau cudd y tu mewn i'r bont, yn ogystal â'r chwe thwll crwn y mae modd eu gweld heddiw. Bydd darganfod a yw'r mannau hynny'n bodoli, a dysgu mwy am sut y cafodd y bont ei hadeiladu, yn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ofalu amdani yn y blynyddoedd i ddod.
Mae disgwyl i'r arolwg ddigwydd dros gyfnos o bum diwrnod gan ddechrau wythnos 13 Ebrill. Yn ystod y cyfnod yna, bydd synwyryddion arbenigol yn cael eu gosod o dan soffit y bont am ddau ddiwrnod ar y tro cyn cael eu symud i leoliad newydd.
Mae diogelu'r bont trwy gydol yr arolwg yn flaenoriaeth allweddol. Bydd cawell wedi'i gynllunio'n arbennig yn cael ei ddefnyddio i ddal y synwyryddion yn eu lle, gan orffwys ar y parapet gyda leinin pren meddal i glustogi ac amddiffyn y garreg. Bydd y bont hefyd ar gau dros dro tra bod y gwaith yn cael ei gwblhau, gyda ffensys yn cael eu codi i gadw'r offer yn ddiogel. Bydd y llwybr troed yn aros ar agor, ond wedi'i gulhau ychydig.
Mae tomograffeg muon yn dechneg anymledol sy'n defnyddio gronynnau naturiol sy'n cael eu hadnabod fel muonau, sy'n disgyn yn gyson i'r Ddaear o'r gofod. Trwy fesur faint o'r gronynnau yma sy'n pasio trwy'r bont o gyfeiriadau gwahanol, mae modd i beirianwyr amcangyfrif dwysedd y deunydd sydd y tu mewn iddi. Yn syml, mae'n caniatáu i arbenigwyr "weld" y tu mewn i'r strwythur a nodi bylchau cudd neu ddeunyddiau anarferol, heb unrhyw ddrilio, cloddio na difrod i'r gwaith maen. Yn syml, mae'r synwyryddion yn cyfrif gronynnau sy'n digwydd yn naturiol, a does dim ymbelydredd yn cael ei gynhyrchu.
Mae'r dechnoleg yma wedi'i defnyddio o'r blaen i ymchwilio i byramidiau, llosgfynyddoedd a thwneli tanddaearol yr Aifft. Nawr mae'n cael ei defnyddio ym Mhontypridd i helpu datgelu rhagor am y bont nodedig a gafodd ei adeiladu gan William Edwards yn 1756.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Pont William Edwards yn rhan arbennig iawn o hanes Pontypridd, ac mae’r arolwg yma'n rhoi cyfle prin inni ddysgu mwy amdani trwy ei thrin â’r gofal y mae’n ei haeddu.
“Yr hyn sy’n arbennig o gyffrous am y gwaith yma yw ei fod yn caniatáu inni edrych y tu mewn i’r bont heb achosi difrod i’r gwaith maen. Bydd yn gam enfawr ar gyfer strwythur o'r oedran a'r pwysigrwydd yma.
"Rydyn ni eisiau diogelu'r bont yma ar gyfer heddiw, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Y mwyaf rydyn ni'n gwybod am sut y cafodd ei adeiladu a'r hyn sy'n digwydd y tu mewn iddi, y gorau y gallwn ni ofalu ar ei hôl am y blynyddoedd sydd i ddod."
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr arbenigol, Bill Harvey Associates, sy'n arwain y gwaith yma. Bydd gwybodaeth am y prosiect ar gael yn Amgueddfa Pontypridd, sydd drws nesaf i'r bont, lle mae ymwelwyr yn gallu darganfod rhagor am yr arolwg ac am hanes y strwythur.
Mae disgwyl i Bont William Edwards ailagor erbyn dydd Gwener 17 Ebrill.
Wedi ei bostio ar 09/04/2026