Skip to main content

Mae rhan leol o Lwybr Taith Taf bellach wedi ailagor yn dilyn gwaith atgyweirio difrod storm

Taff Trail web

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith brys parhaus i raddau helaeth ar lwybr Taith Taf rhwng Trallwn ac ardal Cilfynydd. Roedd modd ailagor y rhan yma dros benwythnos y Pasg.

Roedd angen cynnal gwaith i unioni difrod wedi'i achosi gan storm a oedd yn golygu bod angen cau rhan 1.5km o hyd o'r llwybr o bont reilffordd Tŷ Isaf (ger rhandir Maes Fletcher) tua'r gogledd i bwynt i'r gorllewin o Ysgol Bro Taf (ger Maes Chwaraeon Cilfynydd ac Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Albion). Mae bellach wedi ailagor yn barhaol.

Dechreuodd y cynllun yn hydref 2025 ac mae gwaith sylweddol wedi'i wneud – gan gynnwys dargyfeirio rhan 80 metr o'r llwybr i ffwrdd o'r afon, er mwyn gallu gwrthsefyll stormydd yn y dyfodol.

Mae dwy bont droed fach hefyd wedi cael eu hadeiladu, tra bod gwaith i amddiffyn yr arglawdd a chael gwared ar goed a oedd yn achosi perygl wedi'i gwblhau.

Mae'r contractwr Edwards Diving Services wedi bod yn gweithio'n galed i gwblhau'r cynllun ac rydyn ni'n diolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad drwy gydol y gwaith – yn enwedig tua'r diwedd, wrth i ni orfod gohirio'r dyddiad cwblhau ychydig.

Mae'r gwaith diweddaraf wedi cynnwys gosod wyneb ar lwybrau troed, dodi canllawiau pontydd troed, gosod concrit, adfer trac mynediad a chael gwared ar bont dros dro.

Mae mân waith i'w gwblhau gan y contractwr – megis gwaith i'r ddau gefnfur. Mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld y gwaith yma'n cael ei gwblhau dros yr wythnos nesaf, a bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i gymunedau os bydd angen unrhyw gyfyngiadau mynediad pellach.

Diolch unwaith eto i breswylwyr am eich cydweithrediad drwy gydol y cynllun.

Wedi ei bostio ar 07/04/2026