Skip to main content

Gwaith clirio ar y gweill ar safle hen domen lo yn Nhrehafod

Lewis Merthyr Colliery web

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gwaith clirio llystyfiant yn dechrau yn Nhomen Lo Lewis Merthyr, #Trehafod o'r wythnos nesaf ymlaen.

Mae'r hen bwll glo mawr wedi'i leoli'n gyffredinol i'r de o Heol Coedcae ac i'r de-orllewin o Deras Rheolau.

Mae'n bosibl bydd y gymuned leol yn gweld gwaith yn cael ei gynnal o ddydd Llun 13 Ebrill, ac mae disgwyl iddo bara tua 3 wythnos.

Bydd y gwaith clirio yn helpu i reoli draenio o amgylch sianeli cyrsiau dŵr a chwlferi ar y safle, wrth hefyd gynnal mynediad ar gyfer archwiliadau a gwaith yn y dyfodol.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, a fydd yn cael mynediad i’r safle drwy ddefnyddio Heol y Parc – mae’n bosibl y bydd trigolion yn profi cynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu.

Er y bydd ychydig iawn o aflonyddwch yn gyffredinol, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o aflonyddwch sŵn o ganlyniad i offer torri.

Nodwch, dyma waith ar wahân i'r gwaith a gafodd ei gynnal yn yr un lleoliad yn gynharach eleni, fel sydd wedi'i ddisgrifio mewn eitem newyddion flaenorol.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 08/04/2026