Dros yr wythnosau nesaf, mae’n bosibl y bydd trigolion yn sylwi bod gwaith yn mynd rhagddo ar hen safle Glofa Lewis Merthyr yn ardal Trehafod, wrth i'r Cyngor ymgymryd â rhywfaint o waith cynnal a chadw arferol.
Mae safle'r hen lofa fawr wedi'i leoli i'r de o Heol Coedcae ac i'r de-orllewin o Deras Rheolau.
Mae'r Cyngor yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gynnal y gwaith sydd ar y gweill. Bydd yn cynnwys clirio llystyfiant lleol o amgylch y sianeli draenio ac o amgylch asedau eraill y safle.
Yn ogystal â hyn, bydd gwaith ar wahân yn cynnwys creu mynediad gwell i'r safle er mwyn helpu gydag archwiliadau'r dyfodol ac i fonitro'r domen.
Roedd trafodaethau am faterion ecolegol a chyfleoedd i gyflawni buddion o safbwynt bioamrywiaeth (trwy'r gofynion rheoli llystyfiant sy'n rhan o'r rhaglen diogelwch tomenni glo) yn rhan annatod o'r gwaith cynllunio ar gyfer y gwaith yma.
Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons a Summit Arboriculture i ymgymryd â'r gwaith o ddydd Llun, 2 Chwefror, a byddan nhw'n gweithio am hyd at ddeufis i gyd.
Bydd swyddogion yn defnyddio Heol-y-parc i gael mynediad i’r safle, felly mae'n bosibl y bydd trigolion yn gweld cynnydd yn nifer y cerbydau adeiladu yn ystod yr oriau gwaith (8am-5pm).
Dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd llawer o darfu yn gyffredinol, ond mae'n bosibl y bydd trigolion yn clywed rhywfaint o sŵn gwaith o’r safle ar adegau.
Mae'r gwaith yma'n cael ei ariannu drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, ac mae'r Cyngor wedi sicrhau £11.4 miliwn i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 29/01/2026