Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu cyflawniad amgylcheddol rhagorol arall ar ôl i ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol helpu i ailgylchu 1,210 cilogram o fatris trwy gymryd rhan yn Her Ailgylchu Batris i Ysgolion 2025-26.
Cymerodd 47 o ysgolion ran yn yr her, gan gasglu hen fatris o'r cartref er mwyn eu hailgylchu a chael gwared arnyn nhw'n ddiogel, a chan helpu i atal deunyddiau peryglus rhag llygru'r amgylchedd.
Cafodd y canlyniadau eu cyfrif trwy bwyso’r batris a gafodd eu casglu fesul disgybl. Daeth y tair ysgol ganlynol i'r brig:
- Ysgol Gynradd Cwmaman – 0.85 cilogram fesul disgybl (gwobr o £300)
- Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru – 0.47 cilogram fesul disgybl (gwobr o £100)
- Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant – 0.42 cilogram fesul disgybl (gwobr o £50)
Cafodd tystysgrifau wedi'u fframio a sieciau gwobrau mawr eu cyflwyno i blant o'r ysgolion buddugol i gydnabod eu hymdrechion rhagorol a'u hymrwymiad i ddiogelu'r amgylchedd.
Anogodd y gystadleuaeth ddisgyblion, staff, teuluoedd a chymunedau lleol i gasglu batris diangen y cartref a sicrhau eu bod yn cael eu hailgylchu'n gywir, gan atal gwastraff niweidiol posibl rhag mynd i safle tirlenwi.
Meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod o’r Cabinet ar faterion Cyllid, sy'n cynnwys Gwastraff ac Ailgylchu, y Cynghorydd Ann Crimmings:
"Hoffwn i longyfarch pob ysgol a gymerodd ran yn yr Her Ailgylchu Batris a diolch iddyn nhw am helpu i gasglu cymaint o fatris i'w hailgylchu."
"Mae batris yn cynnwys deunyddiau gwerthfawr y mae modd eu hadfer a'u hailddefnyddio, ond maen nhw hefyd yn cynnwys sylweddau sy'n gallu bod yn niweidiol os nad ydyn ni'n cael gwared arnyn nhw'n gywir. Mae'r her yma wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu batris ac wedi cynnig buddion amgylcheddol sylweddol."
"Mae ymroddiad y disgyblion, athrawon a theuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhyfeddol. Mae casglu 1.2 tunnell o fatris yn gyflawniad gwych. Mae'n destun balchder, da iawn chi."
"Llongyfarchiadau i'n hysgolion buddugol a diolch i bawb a gyfrannodd at yr her lwyddiannus yma."
Mae'r Her Ailgylchu Batris yn tynnu sylw at bwysigrwydd ailgylchu batris yn ddiogel. Mae modd i drigolion ailgylchu eu batris y cartref mewn mannau casglu lleol ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys archfarchnadoedd a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, gan helpu i adfer y deunyddiau gwerthfawr a lleihau'r perygl o danau sy'n digwydd o ganlyniad i beidio â chael gwared ar fatris yn gywir.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 06/08/2026