Skip to main content

Croesawu'r tenantiaid cyntaf i ddatblygiad gofal ychwanegol modern yn y Porth

porth grid 1

Mae Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â'r llety gofal ychwanegol newydd yn y Porth – ar ôl i'r datblygiad newydd o'r radd flaenaf gael ei drosglwyddo i'r Cyngor yn ddiweddar. Fe welson nhw’r cyfleusterau rhagorol am y tro cyntaf, a chwrdd â rhai o'r trigolion sydd eisoes wedi symud i'w cartrefi newydd.

Ymwelodd y Cynghorydd Ann Crimmings a'r Cynghorydd Gareth Caple â safle Dan-y-Mynydd ddydd Gwener, 21 Awst. Mae’r safle wedi'i gynnal gan bartner y Cyngor, Grŵp Codi (Linc Cymru gynt) a staff o Radis Community Care sy'n darparu'r holl ofal a chymorth ar y safle i drigolion. Aeth y grŵp ar daith o amgylch y safle a'i gyfleusterau trawiadol, a chwrdd â thrigolion sy'n elwa ar y buddsoddiad sylweddol yma.

Mae gofal ychwanegol yn darparu cartrefi modern ac yn helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn eu fflatiau eu hunain. Mae modd i drigolion fynd a dod fel y mynnan nhw, gyda staff ar gael i ddarparu gofal wedi'i drefnu ac i roi cymorth mewn argyfyngau. Yn dilyn adfywio hen safle Cartref Gofal Preswyl Dan-y-Mynydd, dyma bedwerydd llety gofal ychwanegol Rhondda Cynon Taf – gan ymuno â Thŷ Heulog (Tonysguboriau), Maes-y-ffynnon (Aberaman) a Chwrt yr Orsaf (Graig).

Mae gan Dan-y-Mynydd 60 o fflatiau hunangynhaliol ynghyd â lle bwyta, siop trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan gofal oriau dydd a gaiff ei reoli gan y Cyngor, ystafell sba, golchdy, ystafell westeion a swyddfeydd. Y tu fas, mae modd i drigolion fwynhau mynediad at ardd gymunedol fawr, tra bod mannau parcio i ymwelwyr ar gael ar y safle.

Mae'r trigolion cyntaf wedi symud i mewn, ac mae dal modd mynegi diddordeb mewn fflat ar y safle 

Yn dilyn diwedd y cyfnod adeiladu ym mis Gorffennaf 2026, mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi bod yn gweithio'n galed i groesawu’r grŵp cyntaf o denantiaid i Dan-y-Mynydd. Ar adeg yr ymweliad ddydd Gwener, roedd 12 o denantiaid wedi symud i'r cartrefi newydd, tra bod 29 o drigolion eraill wedi sicrhau eu lleoedd. Byddan nhw'n symud i mewn dros yr wythnosau nesaf.

Mae fflatiau gwag yn parhau i fod ar gael ac mae modd i ddarpar denantiaid a’u teuluoedd weld y fflatiau a'r cyfleusterau drostyn nhw'u hunain cyn gwneud cais. Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi gwybodaeth allweddol am sut i fynegi diddordeb mewn dod yn denant, ynghyd â meini prawf cymhwysedd a manylion cyswllt ar gyfer ymgeiswyr.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Rydw i wrth fy modd bod y tenantiaid cyntaf bellach wedi symud i Dan-y-Mynydd yn gyflym ar ôl ei adeiladu – ac roedd hi’n wych cwrdd â rhai o’r trigolion newydd yn y Porth ddydd Gwener. Mae'r datblygiad modern yma wedi adfywio safle'r hen gartref gofal preswyl, gan ddarparu fflatiau o ansawdd uchel ac amgylchedd cefnogol lle mae modd i bobl hŷn barhau i fyw'n annibynnol, gyda gofal a chymorth ar gael yn ôl yr angen.

“Mae llety gofal ychwanegol yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl i aros yn rhan o’u cymunedau, cynnal eu hannibyniaeth, a chael mynediad at y cymorth cywir mewn lleoliad diogel, croesawgar a modern. Er bod disgwyl i fwy o drigolion symud i mewn dros yr wythnosau nesaf, mae fflatiau gwag ar gael hefyd – ac mae gan ddarpar denantiaid y cyfle nawr i weld y datblygiad cyn gwneud cais am le. Rydw i'n annog unrhyw un sy'n gymwys, ac a allai fod â diddordeb, neu aelodau'r teulu sy'n cefnogi rhywun sy'n gymwys, i gysylltu a chael gwybod rhagor.

“Gyda fflatiau gofal ychwanegol a gwasanaethau oriau dydd a gaiff eu rheoli gan y Cyngor yn gweithredu o’r un safle, bydd y datblygiad yn y Porth yn sicrhau bod modd i bobl hŷn gael mynediad at lety modern, gofal a chymorth yn y gymuned. Hoffwn ddiolch i Radis Community Care am y cymorth a'r cyfeillgarwch parhaus maen nhw'n eu cynnig i drigolion, ac i Grŵp Codi am ein partneriaeth gref – sy'n parhau i ddarparu buddsoddiad sylweddol mewn llety preswyl a gofal ychwanegol ledled ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd hi’n wych cael mynd gyda’r Cynghorydd Caple i ymweld â Dan-y-Mynydd ddydd Gwener, er mwyn gweld y llety gofal newydd gwych, ei gyfleusterau modern, a chwrdd â rhai o’r trigolion cyntaf i symud i mewn ers cwblhau adeiladu’r adeilad y mis diwethaf. Nod ein holl lety gofal ychwanegol presennol yw bod yn ganolfannau cymunedol ffyniannus sy'n boblogaidd iawn gyda'u trigolion – ac rwy'n hyderus y bydd hyn yn cael ei gyflawni ar y safle newydd yn y Porth.

“Ynghyd â Grŵp Codi, rydyn ni wedi cyflawni datblygiadau gofal ychwanegol modern yn Aberaman, y Graig, a nawr y Porth ers 2020, ochr yn ochr â Thŷ Heulog yn nhref Tonysguboriau. Mae ein hymrwymiad i foderneiddio opsiynau llety gofal i bobl hŷn yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda sawl prosiect arall yn mynd rhagddo. Mae datblygiad gofal preswyl arbenigol yn y Gelli bron â chael ei gwblhau, tra bod cyfnod adeiladu datblygiad gofal cymysg yn Aberpennar wedi dechrau yn gynharach eleni. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i gynlluniau yn y dyfodol ym Mhentre'r Eglwys a Glynrhedynog – gyda’r cynllun yn nhref Glynrhedynog wedi cael caniatâd cynllunio yn ddiweddar ym mis Awst 2026.”

Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn gofal preswyl a gofal ychwanegol ar ein tudalen we bwrpasol #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 25/08/2026