Dyma roi gwybod i drigolion y bydd Pont Heol Berw (Y Bont Wen) ym Mhontypridd ar gau i gerbydau a cherddwyr trwy gydol yr wythnos nesaf, er mwyn galluogi gwaith cywirol yn dilyn cynllun adfer sylweddol diweddar y strwythur.
Cafodd y strwythur rhestredig ei ddifrodi yn ystod Storm Dennis, ac mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gyda Cadw i ddatblygu a chyflawni'r cynllun adfer cymhleth a gafodd ei gwblhau yn ystod haf 2024. Roedd wedi cynnwys cannoedd o atgyweiriadau gwaith dur a choncrit strwythurol unigol, gosod wyneb newydd sy’n dal dŵr ar lawr y bont, ac ailosod system ddraenio ac wyneb y briffordd.
Yn dilyn atgyweiriadau ychwanegol ac archwiliad cynnal a chadw y llynedd, mae angen cau’r ffordd eto dros yr haf eleni er mwyn cwblhau gwaith cywirol pellach. Bydd angen i'r contractwyr, Concrete Repairs Limited, gau'r bont er mwyn cyrraedd ochr isaf y bont yn ddiogel. Bydd yr atgyweiriadau'n cael eu gwneud gan y contractwr gwreiddiol ar gyfer y cynllun adfer, heb unrhyw gost bellach i'r Cyngor.
Felly, bydd y Bont Wen ar gau o 8am ddydd Llun 10 Awst ac yn ailagor ar neu cyn dydd Sul 16 Awst.
Nodwch, mae'r gwaith yn cael ei gydlynu ochr yn ochr â dymchwel Gorsaf Heddlu Pontypridd a safle Maes Parcio Heol Berw. Fydd dim mesurau rheoli traffig ar gyfer Heol Berw'r wythnos nesaf. Bydd y Bont Wen ar agor bob amser yn ystod unrhyw waith yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar draffig ar Heol Berw.
Bydd cynllun y Bont Wen yn cynnwys atgyweiriadau i'r haen o goncrit wedi’i chwistrellu (gunite) a gafodd ei rhoi ar y bont - yr haen amddiffynnol sy'n amddiffyn concrit y strwythur. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys cywiro'r gwaith paent ar ochr isaf y bont a'r canllawiau. Bydd deunydd selio uniadau llawr y bont, ar y ffordd gerbydau, hefyd yn cael ei ailosod, ynghyd ag un atgyweiriad gosodwyneb newydd.
Mae llwybr amgen i ddefnyddwyr y ffordd yn ystod y cyfnod yma, o ochr ddeheuol y bont, ar gael ar hyd Y Rhodfa, Stryd y Gorllewin, cylchfan Stryd y Bont, Stryd y Bont a Heol Berw. O'r cyfeiriad arall, ewch ar hyd Heol Berw, Stryd y Bont, Stryd y Gorllewin, Y Stryd Ganol, Heol Tresimwn a'r Rhodfa.
Mae modd gweld yr ardal lle mae'r ffordd ar gau a'r llwybrau amgen ar y map canlynol ar wefan y Cyngor. Fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 04/08/2026