Skip to main content

Gwahoddiad i drigolion leisio eu barn mewn perthynas â chynigion i wella Cofeb Ryfel Tonypandy

Dyma estyn gwahoddiad i drigolion leisio eu barn mewn perthynas â chynigion i wella'r ardal o gwmpas Cofeb Ryfel Tonypandy, yn rhan o fuddsoddiad parhaus Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer cofebion rhyfel lleol.

Mae cofebion rhyfel yn dirnodau cymunedol pwysig ac maen nhw’n coffáu'r rheiny a oedd wedi gwasanaethu ac aberthu yn ystod cyfnodau o wrthdaro. Maen nhw'n darparu cysylltiad parhaol rhwng cymunedau lleol a'u hanes cyffredin, gan sicrhau bod cyfraniad personél y Lluoedd Arfog yn cael ei gofio gan genedlaethau'r dyfodol.

Yn 2022, fe ymrwymodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu rhaglen fuddsoddi pum mlynedd o hyd ar gyfer cofebion rhyfel yn rhan o'i gefnogaeth barhaus i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r Cyngor yn cynnig gwelliannau i'r ardal o amgylch Cofeb Ryfel Tonypandy gan ddefnyddio'r buddsoddiad yma, yn ogystal â chyllid o Gronfa Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Mae'r cynigion yn cynnwys adleoli cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd wedi'i lleoli o fewn tir Eglwys Livingway yn Nhonypandy ar hyn o bryd, i leoliad mwy hygyrch uwchlaw'r gofeb ryfel bresennol.

Mae cynllun gwella ehangach hefyd yn cael ei gynnig, a allai gynnwys ail-dirlunio'r ardal o amgylch y gofeb, creu mannau plannu hygyrch a chael gwared ar y ffens haearn gyr o amgylch y gofeb bresennol.

Bydd modd i drigolion fwrw golwg ar y cynigion a siarad â swyddogion y Cyngor mewn dau achlysur ymgynghori a fydd yn cael eu cynnal ddydd Gwener, 4 Medi. Bydd swyddogion ym Marchnad Tonypandy rhwng 10am a 2pm, ac yn Llyfrgell Tonypandy rhwng 3pm a 7pm.

Yn rhan o'r diwrnod, bydd Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor hefyd yn casglu gwybodaeth ar gyfer Rhestr Gwroniaid Tonypandy. Rydyn ni'n annog trigolion i alw heibio a rhannu manylion perthnasau neu drigolion lleol o Donypandy a'r ardaloedd cyfagos a laddwyd yn ystod cyfnodau o wrthdaro.

Mae modd i drigolion ddod ag enwau, ffotograffau, dogfennau neu straeon teuluol i helpu i sicrhau bod y rhai a oedd wedi gwasanaethu ac aberthu yn cael eu cofio a'u cydnabod.

Mae modd i'r rheiny nad ydyn nhw'n gallu mynychu gyflwyno gwybodaeth ar gyfer Rhestr y Gwroniaid drwy e-bostio: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion helpu i lywio'r gwelliannau arfaethedig a chyfrannu at ddiogelu hanes lleol Tonypandy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae gan gofebion rhyfel le arbennig iawn yn ein cymunedau, gan ddarparu teyrnged barhaol i’r rhai a oedd wedi gwasanaethu ac aberthu yn ystod cyfnodau o wrthdaro.

“A minnau’n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rwy’n falch iawn bod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn y tirnodau cymunedol pwysig yma, gan sicrhau eu bod yn cael eu diogelu, eu parchu a’u bod yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Byddai’r cynigion ar gyfer Cofeb Ryfel Tonypandy yn helpu i wella’r ardal o amgylch y gofeb, ac hefyd yn rhoi cyfle i adleoli cofeb y Rhyfel Byd Cyntaf sydd wedi’i lleoli ar dir Eglwys Livingway ar hyn o bryd i leoliad mwy hygyrch.

“Mae’n bwysig bod gan drigolion y cyfle i fwrw golwg ar y cynigion, gofyn cwestiynau a lleisio eu barn. Byddwn i'n annog trigolion lleol, busnesau, grwpiau cymunedol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Tonypandy i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, naill ai ar-lein neu drwy fynychu un o'r sesiynau galw heibio ar 4 Medi.

“Mae gwaith Rhestr y Gwroniaid sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yn hynod bwysig hefyd. Rydyn ni eisiau clywed gan deuluoedd a thrigolion a allai fod ag enwau, ffotograffau, dogfennau neu straeon i'w rhannu, er mwyn cofio'n iawn am y rhai o Donypandy a'r cyffiniau a gollodd eu bywydau yn ystod cyfnodau o wrthdaro.”

Mae'r prosiect yn rhan o ymrwymiad ehangach Cyngor Rhondda Cynon Taf i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a gwarchod treftadaeth leol.

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018. Rhagor o wybodaeth: Cyfamod Lluoedd Arfog RhCT

Mae'r gwaith yma hefyd yn cyd-fynd â rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd y Cyngor gwerth £250,000 ar gyfer cofebion rhyfel rhwng 2022 a 2027. Dan arweiniad Swyddog Treftadaeth a Chofebion Hanesyddol y Cyngor, mae Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel y Cyngor yn parhau i ymchwilio i'r straeon y tu ôl i enwau'r rhai ar gofebion ledled y Fwrdeistref Sirol, a'u rhannu.

Hoffech chi ddysgu rhagor neu gymryd rhan yn y gwaith yma? E-bostiwch: GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 27/08/2026