Skip to main content

Ailagor ffordd ger Llwydcoed ar ôl cwblhau cynllun atgyweirio pont

Croesbychan open

Mae'r rhan o Heol Croesbychan sydd i'w gweld yn y llun bellach wedi ailagor, yn dilyn gwaith pwysig i atgyweirio pont y briffordd.

Bwriad y cynllun yma, sydd wedi'i gynnal dros yr haf, yw diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol. Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau concrit i ochr isaf y bont, gwaith atgyweirio ar wyneb y bont a gosod wyneb gwrth-ddŵr.

Cafodd prif gam y gwaith ei gwblhau'n ddiweddar, ac mae gwaith pellach wedi'i gynnal i ailgyflwyno'r llinellau ymyl y pafin, llwybrau troed a lleiniau ymyl y ffordd a gafodd eu symud er mwyn cwblhau'r gwaith. Mae'r gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd bellach wedi'i gwblhau ar y rhan honno o Heol Croesbychan sydd ger y bont.

Cafodd yr holl waith yn rhan o'r cynllun ei gwblhau heddiw, dydd Iau, 27, Awst, ac mae'r trefniadau cau ffordd dros dro bellach wedi dod i ben.

Nodwch: bydd safle storio offer y contractwr a'r cyfleusterau lles yn parhau i fod yn y gilfach gyfagos ar hyn o bryd, ond byddan nhw'n cael eu symud erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Does dim angen unrhyw fesurau rheoli traffig ychwanegol er mwyn gwneud hyn.

Cyflawnodd Horan Construction Ltd y cynllun yma, a gafodd ei ariannu gan Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer Priffyrdd a Pheirianneg (2026/27). Mae'r rhaglen yma'n cynnwys cyllid gwerth dros £12 miliwn ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd.

Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad a'ch amynedd yn ystod y cynllun yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT

Wedi ei bostio ar 27/08/2026