Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Charfan Datblygu'r Gymuned RhCT Gyda'i Gilydd yn falch o gyhoeddi lansio cynllun peilot Canolfannau Dementia newydd mewn 3 llyfrgell yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth. Wedi'u cynnal yn llyfrgelloedd Pontypridd, Treorci ac Aberdâr bob pythefnos, nod y canolfannau yw darparu lle cysurus a chyfeillgar lle mae modd i bobl sy'n byw gyda dementia neu’n aros am ddiagnosis – a'u cynhalwyr a'u teuluoedd – gael gafael ar wybodaeth, cyngor ymarferol a chefnogaeth gan bobl yn yr un sefyllfa â nhw.
Aeth y Cynghorydd Sheryl Evans, Maer Rhondda Cynon Taf, i'r sesiwn gyntaf yn Llyfrgell Pontypridd ar 6 Chwefror. Cafodd hi gyfle i gyfarfod â thrigolion a phartneriaid ac atgoffa pawb o ddyhead y Cyngor i wneud Rhondda Cynon Taf yn lle gwych i heneiddio ynddo drwy ei raglen RhCT Oed-Gyfeillgar.
Mae'r cynnig yma wedi'i greu ar y cyd â gweithwyr proffesiynol, cynhalwyr, a phobl â phrofiad bywyd, gan ddefnyddio cyllid a ddaeth i law ddiwedd y llynedd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Cymru. Mae pob sesiwn yn dwyn ynghyd gymysgedd reolaidd o bartneriaid mewnol ac allanol (gan gynnwys, er enghraifft, Cynllun Cynnal y Cynhalwyr a'r Garfan Hamdden) fel bod modd i drigolion RhCT siarad yn uniongyrchol â'r bobl gywir ar eu cyfer yn eu milltir sgwâr.
Nodwedd allweddol o'r cynllun peilot yw'r sesiynau Blas ar Fenthyg Dyfeisiau. Mae hyn yn rhoi cyfle ymarferol i bobl roi tro ar eitemau defnyddiol fel cymhorthion siarad, clociau dydd a nos, teclynnau olrhain System Leoli Fyd-eang (GPS), a chymhorthion personol. Yn debyg i gael cerdyn llyfrgell, mae modd i drigolion roi tro ar declyn a'i ddychwelyd ar ôl cyfnod byr. Mae hyn yn cyd-fynd â threfniadau offer Gofal Cymdeithasol i Oedolion statudol, ond mae'n wahanol ac ar wahân iddyn nhw.
Bydd y gweithgareddau'n amrywio yn ôl dyddiad a lleoliad a byddan nhw hefyd yn cynnwys arddangosiadau rhyngweithiol gan Playframe fel Realiti Rhithwir (VR) sy'n addas i bobl â dementia. Bydd tua 6 neu 7 sefydliad yn mynd i bob canolfan, a bydd rhestrau o bwy fydd yno'n cael eu rhannu cyn pob sesiwn fel bydd trigolion yn gwybod beth i’w ddisgwyl.
Meddai Cerilynne Higgins, Cadeirydd Pontypridd sy'n Ystyriol o Ddementia: “Roedd y ganolfan yn teimlo fel lle cysurus a chroesawgar lle roedd y sgwrsio'n rhwydd ac roedd partneriaid yn dangos dealltwriaeth a thosturi go iawn. Rwy wedi bod eisiau gweld Canolfan Dementia yn cael ei datblygu ers gofalu am fy nhad. Heddiw daeth hynny'n wir, felly diolch. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd yn y Canolfannau Dementia eraill.”
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae ein llyfrgelloedd lleol yn lleoedd diogel a chroesawgar yng nghanol pob cymuned. Drwy ddod â phartneriaid a sefydliadau ynghyd, bydd y Canolfannau Dementia yma'n ei gwneud yn haws i drigolion, cynhalwyr, a'u hanwyliaid ddod o hyd i gymorth ymarferol a sicrwydd pan a ble maen nhw ei angen.
“Mae'n rhad ac am ddim i ddod i'r canolfannau, ac maen nhw'n cynnig cyngor, gwasanaeth cyfeirio, a'r cyfle i roi tro ar offer cynorthwyol trwy ein sesiynau Blas ar Fenthyg Dyfeisiau. Gan gwmpasu Pontypridd, Treorci ac Aberdâr, bydd y canolfannau hefyd yn darparu cymysgedd reolaidd o sefydliadau partner a fydd wrth law i roi cefnogaeth.
“Mae'n bleser gen i gefnogi cynllun peilot y Canolfannau Dementia, ac rwy'n edrych ymlaen at weld yr effaith maen nhw'n ei chael ar y rheiny sy'n byw gyda dementia. Dyma ddiolch i bawb a oedd yn rhan o’r gwaith am ein helpu i greu lle cysurus a chefnogol.”
Sut mae'r Canolfannau Dementia yn gweithio:
- Galwch heibio'n rhad ac am ddim. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw na chael prawf o ddiagnosis
- Lle cysurus a chroesawgar gyda staff wrth law i helpu
- Gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth cyfeirio gan gymysgedd reolaidd o bartneriaid a sefydliadau
- Sesiynau Blas ar Fenthyg Dyfeisiau dethol (rhowch dro arnyn nhw, eu benthyg a'u dychwelyd – yn debyg i gerdyn llyfrgell!)
- Mae croeso i gynhalwyr, teuluoedd, a'r rheiny sydd â diddordeb ym maes cymorth dementia
Dyddiadau ac amseroedd y Canolfannau Dementia:
- Llyfrgell Aberdâr, bob yn ail ddydd Iau rhwng 11am ac 1pm. Y sesiynau nesaf sydd wedi'u trefnu yw 26 Chwefror, 12 Mawrth a 26 Mawrth.
- Llyfrgell Pontypridd, bob yn ail ddydd Gwener rhwng 10am ac 1pm. Y sesiynau nesaf sydd wedi'u trefnu yw 6 Mawrth ac 20 Mawrth.
- Llyfrgell Treorci, bob yn ail ddydd Mawrth rhwng 11am ac 1pm. Y sesiynau nesaf sydd wedi'u trefnu yw 10 Mawrth a 24 Mawrth.
Does dim angen cadw lle ymlaen llaw. Os oes gyda chi anghenion o ran hygyrchedd neu gwestiynau cyn dod i un o'r canolfannau, siaradwch â staff yn y llyfrgell leol berthnasol. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cysylltu â'r llyfrgelloedd ymlaen llaw i gadarnhau bod sesiynau'n cael eu cynnal a pha sefydliadau fydd yn cymryd rhan. Mae modd gweld eu manylion cyswllt ar ein gwefan: Lleoliadau ac oriau agor y llyfrgelloedd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Dyma wahodd sefydliadau a busnesau sydd â diddordeb mewn cyfrannu at sesiynau yn y dyfodol (cyngor, gweithgareddau neu arddangosiadau) i anfon e-bost at Garfan Datblygu Cymunedau RhCT Gyda'i Gilydd y Cyngor: RCTTogether@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425 368.
Am ragor o wybodaeth am waith ehangach RhCT Gyda'i Gilydd, ewch i: RhCT Gyda'n Gilydd - Helpu Cymunedau a Thrigolion i Ffynnu | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 25/02/2026