Skip to main content

Carreg filltir allweddol yng ngwaith adeiladu ysgol a chanolfan i'r gymuned yn ardal Glyn-coch

Glyncoch 1 - Copy 2

Roedd disgyblion o ddwy ysgol gynradd bresennol Glyn-coch ymhlith ymwelwyr â safle adeiladu Ysgol Gynradd Glyn-coch – ysgol gynaliadwy iawn eu cymuned a fydd yn agor am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni. Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddathlu'r cam adeiladu'n cyrraedd carreg filltir bwysig, gan fod y gwaith bellach wedi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad.

Mae'r ysgol gynradd a chanolfan i'r gymuned newydd ar gyfer Glyn-coch yn cael eu darparu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru – gan ddefnyddio cyllid gwerth miliynau o bunnoedd trwy Her Ysgolion Cynaliadwy i ddod ag Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg at ei gilydd. Bydd gan y safle adeilad deulawr gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, maes parcio â 43 o leoedd gyda mannau gwefru cerbydau trydan, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon, a mynediad gwell i'r safle. Mae'n cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a'i dir cyfagos.

Ym mis Rhagfyr 2025, cytunodd y Cabinet ar argymhellion i enwi'r ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Glyn-coch yn swyddogol, a hynny'n dilyn derbyn mewnbwn gan staff a disgyblion, y gymuned ehangach, a chorff llywodraethu dros dro yr ysgol.

Bydd y prosiect ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy yng Nghymru, gan gyflawni statws carbon 'Sero Net' a rhagori ar dargedau presennol o ran carbon ymgorfforedig yn rhan o'r gwaith adeiladu ei hun. Bydd yn targedu Safon Passivhaus, achrediad Building With Nature, a'r Safon Adeiladu WELL - sy'n canolbwyntio ar greu amgylcheddau iach i ddefnyddwyr adeiladau.

Cynhaliodd y contractwr, Willmott Dixon, achlysur gosod carreg gopa ddydd Gwener 30 Ionawr, gan fod y gwaith wedi cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad. Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ymhlith yr ymwelwyr i lofnodi ffrâm bren yr adeilad i nodi'r garreg filltir.

Roedd Aelodau o Gabinet y Cyngor, y Cynghorydd Rhys Lewis; Pennaeth yr ysgol newydd, Sarah Haggett; yr Aelod Seneddol dros Bontypridd, Alex Davies-Jones; a'r Aelod o'r Senedd dros Gwm Cynon, Vicki Howells, hefyd yn bresennol.

Mae Willmott Dixon hefyd wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd y gwaith adeiladu. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ers dechrau'r gwaith yn y gwanwyn y llynedd, gyda cham cyntaf y gwaith tir a gwaith gosod y ffrâm bren wedi'u cwblhau. Mae gwaith gosod y to a gwaith brics, yn ogystal â gosod y ffenestri a drysau allanol, yn digwydd ar hyn o bryd. Y garreg filltir fawr nesaf fydd sicrhau bod yr adeilad yn wrthwynt ac yn wrth-ddŵr. Mae disgwyl i'r gwaith yma ddigwydd erbyn y Pasg. Bydd hyn yn galluogi gwaith y tu mewn i'r adeilad megis gosod pibellau, ceblau a gorffeniadau mewnol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:     “Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld â safle adeiladu'r ysgol yn ardal Glyn-coch, er mwyn gweld y cynnydd ardderchog o ran adeilau'r ysgol a chanolfan i'r gymuned gynaliadwy iawn yma – dyma ddatblygiad blaenllaw sy'n rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i gael rhagor o ysgolion cynaliadwy. Rydw i wedi bod yn mwynhau fideos rheolaidd y Fern Criw, sy'n cynnwys disgyblion Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, sy'n rhoi gwybod am bob cam o'r datblygiad – ac roedd hi'n wych gweld y cynnydd ar y safle yn ystod ymweliad dydd Gwener.

“Hoffwn i hefyd ddiolch i'r contractwr, Willmott Dixon, am ei waith caled ac ymroddiad parhaus wrth ddarparu cyfleuster o'r radd flaenaf a fydd yng nghanol Glyn-coch am nifer o genedlaethau i ddod. Fe wnes i fwynhau ymuno â charfan y safle ar gyfer achlysur dydd Gwener, yn ogystal â swyddogion sy'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i wireddu prosiectau fel yr un yma. Roedd hi hefyd yn wych gweld disgyblion yn ymuno â'r dathliadau ac yn edrych ymlaen at weld yr ysgol newydd yn agor mewn ychydig o fisoedd.

“Roedd y Cyngor yn un o dri yng Nghymru i sicrhau cyllid Her Ysgolion Cynaliadwy, ac mae'r Cyngor yn parhau i groesawu'r cymorth mawr gan Lywodraeth Cymru i'n helpu i ddarparu buddsoddiadau mawr mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd ein hymrwymiad ariannu ar y cyd gwerth £414 miliwn yn cynnwys naw prosiect arall dros y blynyddoedd nesaf, gyda'r ysgol ADY newydd ar gyfer Cwm Clydach, Ysgol Cambrian, ar y trywydd iawn i'w chwblhau erbyn mis Medi 2026. Rydyn ni hefyd wedi penodi contractwyr ar gyfer datblygiadau Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Llanhari ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a bydd modd i'r gymuned gael rhagor o wybodaeth am gynigion cyffrous Buarth-y-capel, Ynys-y-bwl, mewn achlysur lleol ar 3 Chwefror.

“Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion yn ystod pob carreg filltir allweddol prosiect Glyn-coch, gan y bydd y safle'n parhau i gael ei drawsnewid dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, mae gwaith paratoi yn parhau y tu ôl i'r llenni i drefnu popeth er mwyn sefydlu Ysgol Gynradd Glyn-coch yn ysgol newydd sbon ac yn gyfleuster i'r gymuned. Bydd disgyblion, staff a thrigolion lleol yn elwa'n fawr arnyn nhw.”

Ychwanegodd Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon,, “Mae seremoni gosod carreg gopa heddiw yn ddiwrnod balch i bawb sy'n rhan o'r gwaith o ddod â'r ysgol newydd yma'n fyw. Rydyn ni'n hynod falch o fod yn darparu Ysgol Gynradd Glyn-coch, sydd wedi bod yn bosibl trwy waith ar y cyd cryf rhwng Willmott Dixon a'r Cyngor, a chefnogaeth gyson cymuned yr ysgol.

“Rydyn ni'n adeiladu mwy nag ystafelloedd dosbarth – rydyn ni'n creu man lle bydd plant yn dysgu, yn tyfu ac yn ffynnu am genedlaethau i ddod. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y pwynt sylweddol yma yn y prosiect."

Wedi ei bostio ar 02/02/2026