Mae Aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion i'r Cyngor brynu eiddo preswyl ar Deras Clydach yn Ynys-y-bwl sy'n wynebu risg llifogydd difrifol. Mae hyn yn dilyn sawl achos o lifogydd mawr, cyhoeddiad blaenorol gan Cyfoeth Naturiol Cymru bod datrysiadau posibl i berygl llifogydd yn anymarferol, a chyfnod o ymgysylltu â pherchnogion eiddo a thenantiaid.
Roedd adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun 2 Chwefror yn argymell bod yr Aelodau'n awdurdodi prynu 1–16 Teras Clydach (ac eithrio 6a a 6b sydd wedi'u hadeiladu ar dir uwch ac felly ddim yn wynebu risg llifogydd sylweddol). Fe gafodd ei argymell hefyd bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i fynd ati i baratoi ar gyfer dymchwel yr adeiladau ac i ddatblygu man cyhoeddus ar y safle.
Mae lefel uchel y brif afon mewn perthynas â'r stryd breswyl yn cyflwyno set unigryw o amgylchiadau ar Deras Clydach. Bu llifogydd sylweddol yn ystod Storm Dennis ac, i raddau llai, Storm Bert. Roedd llawer o'r palmant a'r briffordd o dan y dŵr ac roedd yr eiddo wedi'u difrodi'n helaeth, gyda lefel llifogydd mewnol o 1.96 metr wedi'i chofnodi. Mae preswylwyr wedi'i chael hi'n anodd prynu yswiriant oherwydd ei gost uchel iawn.
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r awdurdod rheoli risg llifogydd gan taw'r brif afon sy'n achosi llifogydd. Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd achos busnes amlinellol a oedd yn archwilio'r holl ddatrysiadau, ond doedd dim opsiwn ymarferol yn economaidd o dan reolau ariannu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli risg llifogydd. Dywedodd CNC hefyd fod dim modd iddo brynu'r eiddo.
Yn dilyn penderfyniad blaenorol y Cyngor i archwilio opsiynau i brynu'r eiddo, mae swyddogion wedi cyfarfod â phreswylwyr i roi sicrwydd y bydd cymorth i adleoli. Mae carfan Tai RhCT wedi bod mewn cysylltiad â phreswylwyr i drafod eu hanghenion a'u pryderon. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi cyflogi prisiwr siartredig annibynnol ar gyfer yr eiddo.
Mae'r prisiwr wedi cytuno mewn egwyddor i ffigurau arfaethedig y Cyngor a'r costau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys pris prynu o £2.3 miliwn, ynghyd â chymorth adleoli ychwanegol a chostau cyfreithiol o tua £150,000. Cymeradwyodd Aelodau'r Cabinet yr holl argymhellion yng nghyfarfod dydd Mercher.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Gyda chymeradwyaeth y Cabinet, bydd y Cyngor yn arfer ei bwerau statudol a dewisol i ymyrryd yn yr amgylchiadau eithriadol yma ble mae risg barhaus i iechyd, diogelwch ac eiddo preswylwyr oherwydd llifogydd. Roedd preswylwyr Teras Clydach yn wynebu sefyllfa ble roedd bywydau mewn perygl yn ystod Storm Dennis, pan roedd y llifogydd yn eu cartrefi bron i ddau fetr o uchder. Mae'r risg o lifogydd yn cynyddu'n barhaus oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac mae costau yswiriant cartref yn rhy ddrud a phreswylwyr heb unrhyw obaith o ddatrysiad. Mae hyn yn hynod niweidiol i iechyd meddwl preswylwyr bob tro mae rhagolygon y tywydd yn addo glaw. Dyma set unigryw o amgylchiadau ar Deras Clydach felly dyna pam mae'r Cyngor wedi ymyrryd.
"Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod risg llifogydd perthnasol sydd â chyfrifoldeb am lifogydd prif afonydd. Doedd ei asesiad yr haf diwethaf ddim wedi canfod unrhyw opsiwn ymarferol i leihau’r risg llifogydd ond does dim modd i'r sefydliad brynu'r eiddo. Mae'r Cyngor wedi ceisio gweithredu'n rhesymol i helpu preswylwyr sy'n parhau i fyw gyda risg sylweddol o lifogydd. Mae swyddogion wedi ceisio sicrhau cydbwysedd o ran galluogi preswylwyr i brynu eiddo o safon debyg heb dalu gormod o arian yr Awdurdod Lleol i'r perchnogion a'r deiliaid.
"Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ddydd Llun bydd swyddogion yn bwrw ymlaen â phrynu'r eiddo wrth barhau i weithio'n agos iawn gyda'r gymuned leol i roi cefnogaeth lawn i'r preswylwyr. Hoffen ni hefyd ddiolch i breswylwyr Teras Clydach am ymgysylltu'n adeiladol o dan amgylchiadau anodd iawn. Bydd swyddogion hefyd yn dechrau cynllunio defnydd yr ardal er budd cyhoeddus."
Wedi ei bostio ar 04/02/2026