Skip to main content

Cau ffyrdd yng nghanol tref Pontypridd ddydd Sul ar gyfer gwaith ar safle M&S

Pontypridd Town Centre - Copy

Dyma roi gwybod i ymwelwyr â thref Pontypridd y bydd ffyrdd ar gau mewn amryw o strydoedd yng nghanol y dref ddydd Sul, ar gyfer gwaith hanfodol sy'n ymwneud â gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu safle M&S.

Noder, er bod y cau ffyrdd yma'n berthnasol i gerbydau, bydd pob mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal a bydd busnesau yn yr ardal fanwerthu ar agor fel arfer.

Dechreuodd y gwaith i ailddatblygu hen safle M&S/Dorothy Perkins y llynedd, ac mae'r contractwr Horan Construction Ltd ar y trywydd iawn i gwblhau'r gwaith fel y cynlluniwyd yng ngwanwyn 2026.

Bydd prosiect y ‘plaza ar lan yr afon’ yn creu man cyhoeddus croesawgar gyda gwyrddni, stondinau bach yn gwerthu bwyd a diod, a golygfeydd agored o'r Afon Taf sydd ddim wedi’u gweld o’r dref ers dros 100 mlynedd. Mae'n brosiect allweddol yng ngweledigaeth Porth y De ar gyfer Pontypridd, sy'n rhan o Gynllun Creu Lleoedd y Cyngor.

Ddydd Sul, Chwefror 8, mae angen cau'r ffordd dros dro i osod cysylltiad cyflenwad dŵr newydd i'r safle. Bydd hyn yn rhedeg o'r brif bibell bresennol ar hyd Stryd y Taf.

Bydd y gwaith yn dechrau o 8am a bydd yn cynnwys cau ffyrdd mewn rhannau o Stryd y Taf, Stryd y Felin, Stryd Fawr, a Stryd y Farchnad. Dyma fap o'r ffyrdd sydd ar gau.

Bydd llwybr amgen i gerbydau ar hyd Stryd Traws y Nant, Heol Gelliwastad, Stryd y Santes Catrin a Heol Sardis - sydd hefyd i'w gweld ar y map.

Sylwch y bydd mynediad i adeiladau hyd at gyffordd ogleddol Stryd y Taf â Stryd y Farchnad yn unig. Bydd modd i yrwyr deithio ar hyd Stryd y Farchnad a Stryd yr Eglwys i ochr ddeheuol y rhan sydd wedi'i chau. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys ar hyd y rhannau o'r ffordd sydd wedi cau.

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ddydd Sul a bydd y ffyrdd yn ailagor yn ddiweddarach yn y dydd ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Mae'r Cyngor wedi cael cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i wneud y gwaith.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 05/02/2026