Bydd y Cyngor a'i gontractwr ar gyfer y buddsoddiad mawr arfaethedig yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn cynnal arddangosfa gyhoeddus ar 15 Ionawr, yn rhan o ymgynghoriad parhaus. Cynhelir yr achlysur wyneb yn wyneb yn yr ysgol yn y Cymer, er mwyn i'r gymuned ddysgu rhagor am yr hyn sy'n cael ei gynnig.
Yn hwyr yn 2025, penododd y Cyngor Kier Construction yn brif gontractwr y prosiect i adeiladu ysgol Gymraeg 11-19 oed newydd ar safle'r ysgol bresennol. Bydd lle ar gyfer 900 o ddisgyblion mewn datblygiad modern, cwbl hygyrch. Bydd y prosiect yn darparu mannau addas ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a chyfleusterau chwaraeon newydd a fydd ar gael i'w defnyddio gan yr ysgol a'r gymuned. Mae modd i'r contractwr ddechrau'r cyfnod adeiladu ar y safle yn ystod hydref 2026, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Dechreuwyd cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio (PAC) cyn y Nadolig, gan alluogi'r gymuned i ddysgu rhagor, gweld dogfennau allweddol gan gynnwys cynlluniau ar gyfer y safle, a dweud ei dweud am y cynigion cychwynnol yma. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i helpu i lunio'r cynigion cyn cyflwyno cais cynllunio terfynol. Mae modd i'r trigolion gymryd rhan hyd at ddydd Gwener, 23 Ionawr. Dyma ragor o fanylion.
Yn rhan o'r ymarfer ymgysylltu yma, bydd y Cyngor a Kier Construction yn cynnal achlysur wyneb yn wyneb yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ddydd Iau, 15 Ionawr. Mae croeso i bawb alw heibio ar unrhyw adeg rhwng 3.30pm a 6.30pm. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
Yn ystod y sesiwn yma, bydd modd i drigolion weld y cynlluniau drostyn nhw eu hunain, a gofyn unrhyw gwestiynau i garfan y prosiect, a fydd yn cyflawni'r datblygiad yma.
Mae modd i drigolion sy'n methu dod i'r achlysur cyhoeddus gael copïau caled o'r dogfennau ar gyfer y broses Ymgynghori Cyn Ymgeisio yn yr ysgol (yn ystod oriau agor yr ysgol), ac yn Llyfrgell y Porth (yn ystod ei horiau agor), drwy gydol y cyfnod ymgynghori.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Mae’r Cyngor bellach yn troi ei sylw at gyflawni’r gyfran nesaf o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion ledled ein cymunedau, o fewn ymrwymiad cyllido gwerth £414 miliwn gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae'r prosiect pwysig ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn un o naw sydd naill ai'n cael eu datblygu neu eu cyflawni ar hyn o bryd – ac mae trigolion y Cymer bellach wedi'u gwahodd i ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar gynigion cychwynnol, a fydd yn llywio ein cyflwyniad cynllunio terfynol.
"Mae'r cynigion yn argymell dymchwel yr adeiladau presennol ac adeiladu ysgol newydd o'r radd flaenaf, sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd elfennau o'r prosiect ar gael i'w defnyddio gan y gymuned." Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, cae chwaraeon artiffisial, meysydd chwarae a lleoedd parcio. Bydd yn cynyddu capasiti'r Cyngor ar gyfer addysg Gymraeg, gan gydymffurfio â’r deilliannau yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a chyfrannu at nod ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Rydw i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y broses ymgynghori cyn ymgeisio sy’n mynd rhagddi – boed hynny ar-lein, drwy ddod i'n hachlysur ar 15 Ionawr, neu drwy weld y cynlluniau a’r dogfennau yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda neu Lyfrgell Porth.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn wrth i ni barhau â’n partneriaeth ragorol â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni rhagor o brosiectau buddsoddi mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gwneud cynnydd rhagorol ar y safle yng Nghwm Clydach a Glyn-coch, ar gyfer prosiectau sy'n cael eu cwblhau eleni. Mae'r ddwy ysgol newydd bellach wedi'u henwi'n swyddogol yn Ysgol Cambrian ac Ysgol Gynradd Glyn-coch yn y drefn honno. Rydyn ni hefyd wedi penodi contractwyr ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn Ysgol Gynradd Pen-rhys ac Ysgol Llanhari.
“Mae cyfanswm ein prosiectau buddsoddi a gwblhawyd ers 2014, ynghyd â’r lefel ariannu a ymrwymwyd hyd at 2033, bellach yn bron i £1 biliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad syfrdanol yn ein pobl ifainc dros y cyfnod cronnus o 20 mlynedd.”
Wedi ei bostio ar 08/01/2026