Skip to main content

Gwaith cynnal a chadw arferol ar domen lo Cefnpennar

Cefnpennar tip grid

Dyma roi gwybod am waith sydd ar y gweill ar domen lo Cefnpennar, Aberpennar, bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan gyllid penodedig Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo. 

Bydd y llwybrau mynediad presennol yn cael eu huwchraddio i wella hygyrchedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac ymchwiliadau'r dyfodol – mae'r lleoliad enghreifftiol i'w weld yn y llun uchaf.

Yn rhan o ofynion cynnal a chadw draenio'r ardal, bydd gwaith i glirio llystyfiant yn cael ei gwblhau o amgylch sianeli cyrsiau dŵr y safle (i'w weld yn y llun isaf ar y chwith).

Roedd trafodaethau am faterion ecolegol a chyfleoedd i gyflawni buddion o safbwynt bioamrywiaeth (trwy'r gofynion rheoli llystyfiant sy'n rhan o'r rhaglen diogelwch tomenni glo) yn rhan annatod o'r gwaith cynllunio ar gyfer y gwaith yma.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction i gyflawni’r cynllun. Bydd y contractwr yn dechrau ar y gwaith ddydd Llun, 19 Ionawr.

Bydd gweithwyr yn cael mynediad i'r domen drwy fynedfa ogleddol y domen gan ddefnyddio'r trac oddi ar Y Goedlan, gan hefyd defnyddio'r fynedfa ddeheuol trwy giât yr hen bwll glo (llun isaf ar y dde).

Mae'n bosib y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd mewn traffig gwaith yn ystod oriau gwaith, rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener dros gyfnod o 10 wythnos. Mae'n bosib y bydd rhywfaint o aflonyddwch sŵn o ganlyniad i'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y safle.

Efallai y bydd angen gweithio ar benwythnosau os ydy'r amodau tywydd i'w gweld yn fwy ffafriol ar y dyddiau yma.

Mae'r cynllun yma yn cael ei ariannu gan Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, ac mae'r Cyngor wedi sicrhau £11.4 miliwn i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2025/26 drwy’r grant yma.

Diolch ymlaen llaw i drigolion lleol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 13/01/2026