Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, sydd wedi cadarnhau ei fwriad i ymddiswyddo fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf.
Ni fydd y Cynghorydd Morgan, sydd wedi bod wrth y llyw yn Rhondda Cynon Taf ers 12 mlynedd – yr arweinydd cyngor hiraf yng Nghymru – yn ceisio cael ei ailethol yn 2027 a bydd yn ymddiswyddo cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr awdurdod ym mis Mai.
Mae’r Cynghorydd Morgan yn parhau i fod yn arweinydd CLlLC ar hyn o bryd, ond mae’n bwriadu ymddiswyddo. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Llywyddol CLlLC: “Trwy gydol ei yrfa hir, mae’r Cynghorydd Andrew Morgan wedi bod yn was cyhoeddus enghreifftiol. Yn cael ei barchu ar draws llywodraeth leol, Cymru a thu hwnt, mae’r Cynghorydd Morgan wedi ennill enw da ers amser maith am ei arweinyddiaeth benderfynol, ei lygad am fanylion a’i dosturi.
“Ers ei ethol gyntaf yn gynghorydd yn 2004, mae wedi parhau i fod yn llysgennad aruthrol dros ei annwyl Aberpennar a’i sir yn Rhondda Cynon Taf.
“Yn ystod ei gyfnod hir fel arweinydd, mae wedi bod yn dyst i rai o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes modern, gan gynnwys y pandemig, blynyddoedd o lymder difrifol, a nifer o ddigwyddiadau llifogydd dinistriol.
“Mae’r Cynghorydd Morgan bob amser wedi bod yn eiriolwr grymus ac effeithiol dros gynghorau a’r holl wasanaethau hanfodol maen nhw’n eu rhedeg. Rhoddodd arweinyddiaeth glir, ddibynadwy a chefnogaeth gyson, gadarn i’w gyd-arweinwyr.
“Roedd ei statws yng ngwleidyddiaeth Cymru a’r perthnasoedd cryf, adeiladol a adeiladodd ar draws y llywodraeth yn allweddol wrth sicrhau’r cytundeb partneriaeth rhwng CLlLC a Llywodraeth Cymru, gan gryfhau’r ffordd y mae llywodraeth leol a chenedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd i gymunedau ledled Cymru.
“Ar ran y teulu llywodraeth leol, hoffwn estyn fy niolchgarwch o galon i Andrew am ei arweiniad, ei ddoethineb a’i gyfeillgarwch diddiwedd. Bydd ei gyfraniad enfawr a’i bresenoldeb anferth mewn llywodraeth leol dros nifer o flynyddoedd yn parhau.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC: “Mae Andrew Morgan wedi bod yn ffigwr uchel ei barch ym maes llywodraeth leol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad i bopeth y mae’n ei wneud.
“Mae’n deall llywodraeth leol y tu mewn allan, ac mae’r profiad ymarferol hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy wrth gefnogi cynghorau drwy benderfyniadau anodd a heriau cymhleth. Mae ei ymagwedd sefydlog a meddylgar wedi cael ei gwerthfawrogi gan gydweithwyr ledled Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC: “Mae’r Cynghorydd Morgan wastad wedi bod yn rhywun sy’n cymryd llywodraeth leol o ddifrif. Nid yw erioed wedi colli golwg ar y gweithlu y tu ôl i wasanaethau’r cyngor na’r cyfrifoldeb sy’n dod gydag arwain sefydliad o’r raddfa honno. Mae’r dull ymarferol, lawr i’r ddaear hwnnw wedi ennill llawer o barch iddo, ac mae’n rhywbeth y mae cydweithwyr ledled Cymru wedi’i werthfawrogi dros nifer o flynyddoedd.
“Mae arweinyddiaeth Andrew wedi’i diffinio gan ei barodrwydd i godi uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol a gweithio’n gydweithredol ac yn barchus gydag eraill, gan gadw’r ffocws bob amser ar gyflawni’r hyn sy’n gorau i bobl Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol CLlLC: “Dros fwy na dau ddegawd fel cynghorydd, a 12 mlynedd fel arweinydd cyngor, mae Andrew wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus ac wedi ymdrin â’r rôl honno gyda phroffesiynoldeb ac ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb.
“Mae wedi bod yn llais cyson ac uchel ei barch o fewn llywodraeth leol, gan ddod â phrofiad a phersbectif i drafodaethau sy’n bwysig i gynghorau a chymunedau.
“Pan gymerais y fantell fel Arweinydd y Cyngor fis Mai diwethaf, roedd Andrew yn gyflym i gynnig geiriau caredig a chefnogaeth ymarferol i mi, i’m helpu i fod yn fwy effeithiol yn fy rôl.
“Rwyf am ddiolch i Andrew am ei ymagwedd agored a chydweithredol, am ei wasanaeth, ac i ddymuno pob llwyddiant iddo wrth iddo edrych ymlaen at y dyfodol.”
Dywedodd Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru: “Rwyf am dalu teyrnged a diolch i Andrew Morgan am ei ymroddiad diwyro i’r bobl yn y cymunedau y mae wedi’u cynrychioli, ac i lywodraeth leol yng Nghymru, dros nifer o flynyddoedd.
“Chwaraeodd Andrew rôl wirioneddol eithriadol yn ystod y pandemig, gan weithio’n ddiflino i gefnogi ein cymunedau. Gwnaeth ei arweinyddiaeth yn ystod yr adegau hynny, a oedd mor heriol, wahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
“Mae wedi bod yn hyrwyddwr angerddol dros lywodraeth leol ac wedi arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda rhagoriaeth. Mae ei ymrwymiad i bobl ei gymunedau ei hun ac i Gymru gyfan wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae’n gadael etifeddiaeth barhaol ar ei ôl. Rwy’n dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddo ar gyfer y dyfodol.”
Talwyd teyrnged hefyd gan rai o’i gyn gyd-arweinwyr yn ystod ei gyfnod gyda’r Gymdeithas.
Dywedodd Peter Fox AS, cyn-Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC: “Wedi treulio amser hir mewn llywodraeth leol, rwy’n gwybod am yr ymrwymiad a’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda rôl o’r fath. Dros flynyddoedd, mae Andrew wedi helpu siapio sut mae cynghorau’n gweithio gyda’i gilydd yng Nghymru, yn enwedig drwy ymgysylltiad adeiladol rhwng llywodraeth leol a chenedlaethol. Hoffwn ddiolch i Andrew am ei gyfraniad dros y blynyddoedd a ddymuno’n dda iawn ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Llinos Medi AS, cyn-Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC: “Fel llefarydd gofal cymdeithasol CLlLC ar adeg y pandemig, bûm yn gweithio’n agos ag Andrew fel arweinydd y Gymdeithas a chefais weld o bell agos ei ymdrechion di-flino a’i ofal dros wasanaethau lleol. Dangosodd allu arwain naturiol a helpodd i lywio llywodraeth leol ar adeg pan oedd ei hangen fwyaf. Hoffwn ei ddymuno’n dda iawn ar gyfer y dyfodol.”