Skip to main content

Penodiad allweddol i arwain buddsoddiad adfywio sylweddol yng Nghwm Rhondda Fach

Pride-in-place-Chair-WELSH - Copy

Mae'r Cyngor yn falch o gadarnhau penodiad Cadeirydd Annibynnol ar gyfer Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU yng Nghwm Rhondda Fach. Bydd y swydd wirfoddol yma'n allweddol yn y rhaglen sy'n darparu buddsoddiad adfywio gwerth £20 miliwn ledled cymunedau lleol dros gyfnod o 10 mlynedd.

Yn dilyn proses ymgeisio helaeth, mae Theresa Thomas wedi cael ei phenodi. Bydd hi'n chwarae rôl allweddol yn hyrwyddwr ar gyfer yr ardal leol – gan drefnu gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned, darparu arweiniad strategol ar gyfer y Bwrdd Cymdogaeth newydd ac, yn y pen draw, sicrhau bod pob penderfyniad mewn perthynas ag ariannu prosiectau lleol yn dryloyw ac wedi'i arwain gan y gymuned.

Mae gan Theresa, cyn-ddarlithydd coleg o ardal Glynrhedynog, wreiddiau dwfn yn yr ardal, ac mae hi wedi arddangos ymrwymiad i wella bywydau pobl yn y gymuned drwy ei rôl yn Rheolwr Banc Bwyd Cwm Rhondda.

Ym mis Chwefror, yn dilyn cytundeb blaenorol y Cabinet, cadarnhaodd y Cyngor fod ei gynnig wedi'i dderbyn gan Swyddfa Cymru i gyflwyno Cwm Rhondda Fach i'r Rhaglen Balchder Bro. Mae hyn yn golygu y bydd cymunedau Maerdy, Tylorstown, Glynrhedynog, Ynys-hir, Wattstown, Pont-y-gwaith, Stanleytown a Blaenllechau yn elwa, gyda strwythur penodol yn cael ei roi ar waith er mwyn cytuno ar sut y bydd y cyllid yn cael ei wario. 

Bydd cynllun gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi cychwynnol 4 blynedd yn cael eu llunio gan Fwrdd Cymdogaeth newydd, a fydd yn cynnwys trigolion lleol – gyda chymorth gan y Cyngor ac Aelod Seneddol lleol. Mae penodiad Theresa yn Gadeirydd Annibynnol yn garreg filltir bwysig yn rhan o broses ffurfio'r Bwrdd Cymdogaeth yn ystod yr haf eleni, a fydd yna'n cael ei hadolygu gan Lywodraeth y DU yn ystod yr hydref.

Bydd y Bwrdd wedyn yn cyflwyno ei Gynllun Adfywio yn y gaeaf er mwyn i Lywodraeth y DU ei asesu. Ar ôl ei gymeradwyo gyda dyddiad targed o wanwyn 2027, bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud, er mwyn galluogi dechrau'r cam cyflawni.

Meddai Theresa Thomas, Cadeirydd newydd Rhaglen Balchder Bro Rhondda Fach: "Dyma gyfle gwych i'n cymuned, ac rydw i'n llawn cyffro i chwarae rôl allweddol o ran llywio ein syniadau. Rydw i'n edrych ymlaen at y broses o benodi Bwrdd Cymdogaeth ac at greu gweledigaeth yn ffurfiol ar gyfer yr hyn y mae modd ei wneud gyda'r buddsoddiad sylweddol yma."

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: "Mae penodi'r Cadeirydd Annibynnol yn garreg filltir gyffrous yn rhan o ddarpariaeth y buddsoddiad adfywio sylweddol yma, gwerth £20 miliwn, ledled cymunedau Cwm Rhondda Fach. Rhan hollbwysig o waith dyrannu cyllid Balchder Bro ar gyfer prosiectau lleol yw bod pob penderfyniad yn cael ei wneud mewn modd tryloyw, a hynny wedi'i arwain gan y gymuned, gyda'r Cadeirydd Annibynnol yn darparu arweinyddiaeth a chanolbwynt.

"Hoffwn i ddiolch i Theresa Thomas a'i llongyfarch ar gael ei phenodi i'r swydd wirfoddol bwysig yma, ac rwy'n hyderus y bydd hi'n darparu arweinyddiaeth ardderchog ar gyfer y Bwrdd Cymdogaeth newydd. Mae Theresa yn adnabyddus ac yn uchel ei pharch mewn cymunedau lleol, gyda brwdfrydedd dros helpu pobl a gwella eu bywydau – dyma ymrwymiad sy'n berthnasol i'r Rhaglen Balchder Bro hefyd. Hoffwn i hefyd ddiolch i Lywodraeth y DU am yr ymrwymiad ariannu yma, a fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cwm Rhondda Fach dros gyfnod estynedig."

Ychwanegodd Chris Bryant, Aelod Seneddol – Rhondda ac Ogwr: "Rwy'n falch iawn bod Theresa wedi cytuno i fod yn Gadeirydd Bwrdd Balchder Bro Cwm Rhondda Fach, yn dilyn proses recriwtio drylwyr a chystadleuol.

"Bydd Theresa yn cynnig ei phrofiad helaeth, a hynny trwy ei gwaith yn ddarlithydd ac, yn fwy diweddar, yn Rheolwr Banc Bwyd Cwm Rhondda. Mae gyda hi ddealltwriaeth ddofn o'r heriau mae unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cwm Rhondda yn eu hwynebu, yn ogystal ag ymrwymiad cryf i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

"Mae gan Fwrdd Balchder Bro Cwm Rhondda Fach rôl bwysig o ran siapio dyfodol ein cymunedau, ac rwy'n hyderus y bydd arweinyddiaeth, gwybodaeth, ac angerdd Theresa yn helpu i yrru'r gwaith yma yn ei flaen. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos â hi a chyd-aelodau'r bwrdd er mwyn datblygu cryfderau Cwm Rhondda, mynd i'r afael â heriau lleol a chreu cyfleoedd i drigolion ledled yr etholaeth."

Dysgwch ragor am fuddsoddiad y Cyngor mewn prosiectau adfywio ledled y Fwrdeistref Sirol, ar dudalennau penodol #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 09/06/2026