Mae'r Cyngor wrth ei fodd bod ei gynnig i Raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU i gael buddsoddiad sylweddol ar gyfer cymunedau Cwm Rhondda Fach, bellach wedi'i gymeradwyo. Mae'n golygu y bydd cyllid gwerth hyd at £20 miliwn ar gael dros 10 mlynedd, i ganolbwyntio ar brosiectau adfywio ar draws cymdogaethau Tylorstown, Maerdy, Glynrhedynog, Ynys-hir ac Wattstown.
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio dwy raglen o dan ei Strategaeth Balchder Bro – Cronfa Effaith sy'n cynrychioli cyllid tymor byr gwerth £1.5 miliwn i fynd i'r afael â materion sy'n bwysig yn lleol, a Rhaglen Balchder Bro fwy gwerth £20 miliwn sy'n targedu trawsnewid dros y tymor hwy. Ym mis Rhagfyr, trafododd Cabinet y Cyngor gynigion ar gyfer y ddwy raglen – gan gytuno i dargedu'r Gronfa Effaith at ganol trefi a sefydliadau cymunedol ledled ardal gyfan Rhondda Cynon Taf.
O ran y Rhaglen Balchder Bro, roedd rhaid i Awdurdodau Lleol ddewis cymdogaeth benodol i'w hystyried ar gyfer y buddsoddiad. Cymeradwyodd y Cabinet gynigion swyddogion i gyflwyno Cwm Rhondda Fach fel yr ardal a fyddai'n gweddu orau i feini prawf y gronfa. Wedi hynny, cyflwynodd y Cyngor ei gynnig i Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU cyn y dyddiad cau ym mis Ionawr 2026 ac mae bellach wedi derbyn cadarnhad bod yr ardal yma wedi'i derbyn.
Wrth gyflwyno cymdogaeth i fod yn ffocws y buddsoddiad yma, roedd rhaid i'r Cyngor ddangos bod gan yr ardal angen economaidd-gymdeithasol sylweddol – ac wrth wneud hynny, defnyddiodd y Cyngor ddata o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae manylion llawn yr holl ystyriaethau o'r fath, a'r rhesymeg dros gyflwyno ardaloedd yng Nghwm Rhondda Fach, wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet mis Rhagfyr.
Bydd y rhaglen yn dyrannu £2 filiwn y flwyddyn am 10 mlynedd – ac yn bwysig iawn bydd strwythur pwrpasol i gytuno ar y ffordd orau o wario'r cyllid. Bydd Bwrdd Cymdogaeth yn cael ei ffurfio, a fydd yn cynnwys aelodau sy'n drigolion lleol. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am lunio gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer yr ardal. Bydd hefyd Gynllun Adfywio mewn partneriaeth â'r Cyngor, a fydd yn penodi cadeirydd annibynnol i arwain y Bwrdd. Bydd y cadeirydd yn gweithredu'n hyrwyddwr dros yr ardal ac yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu harwain gan y gymuned.
Bydd camau allweddol y broses i ddod yn cynnwys ffurfio aelodaeth y Bwrdd Cymdogaeth sydd i’w chadarnhau yn ystod yr haf, 2026, ynghyd ag unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i ffin yr ardal. Yna bydd Llywodraeth y DU yn adolygu hyn erbyn hydref 2026.
Wedyn bydd y Bwrdd Cymdogaeth yn cyflwyno ei Gynllun Adfywio yng ngaeaf 2026/27 i'w asesu. Ar ôl ei gymeradwyo gyda dyddiad targed o wanwyn 2027, bydd y taliad cyntaf yn cael ei wneud i'r Cyngor i alluogi dechrau'r cam cyflawni.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai: “Mae'n newyddion gwych bod cynnig y Cyngor i Lywodraeth y DU bellach wedi'i dderbyn yn ffurfiol. Bydd cymunedau Tylorstown, Maerdy, Glynrhedynog, Ynys-hir ac Wattstown yn derbyn y buddsoddiad Balchder Bro mawr yma dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y penderfyniad yn ein galluogi ni i symud ymlaen i ran nesaf y broses, ac mae'n garreg filltir bwysig tuag at y cyllid cyntaf a fydd ar gael i'w gyflwyno o wanwyn 2027.
“Un o'r prif gamau nesaf fydd ffurfio Bwrdd Cymdogaeth, a fydd yn fecanwaith ar gyfer gwneud pob penderfyniad sy'n ymwneud â'r cyllid yma. Bydd y Cyngor yn cefnogi'r Bwrdd i greu Cynllun Adfywio ar gyfer Cwm Rhondda Fach. Bydd y cynllun yma'n nodi sut a ble y dylid gwario'r cyllid er mwyn cael y budd mwyaf ohono, gan amlinellu prosiectau a mentrau lleol i'w datblygu. Rhan bwysig o bob proses gwneud penderfyniadau fydd sicrhau ei bod wedi’i harwain gan drigolion ym mhob cam o'r ffordd – gan gynnwys cynrychiolwyr cymunedol sy'n aelodau gweithredol o'r Bwrdd.
“Mae'r cyllid yma'n ategu buddsoddiad adfywio mawr y Cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweithredu strategaethau canol trefi fel glasbrintiau ar gyfer buddsoddi yn Aberpennar, Aberdâr, Pontypridd, Porth ac – yn fwyaf diweddar ym mis Chwefror 2026 – Tonypandy. Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu a chyflawni buddsoddiadau seilwaith mawr. Mae datblygiad 'plaza glan yr afon' yng nghanol tref Pontypridd yn cyrraedd ei gamau olaf, a bydd gwaith ar ddatblygiad Rock Grounds yn Aberdâr yn dechrau ar y safle yn ddiweddarach eleni. Yng Nghwm Rhondda Fach, bydd y buddsoddiad Balchder Bro yn dilyn y llwybr teithio llesol newydd sylweddol o ardal Maerdy i Tylorstown, sydd wedi cyrraedd ei gam adeiladu terfynol. Bydd y llwybr yn agor y cwm cyfan i gerddwyr a beicwyr.
“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth y DU am y buddsoddiad Balchder Bro. Cyn y Nadolig, cytunodd y Cabinet i dargedu'r Gronfa Effaith tuag at ganol ein trefi – gan fuddsoddi £1.5 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf, ac adeiladu ar y cynnydd rhagorol rydyn ni eisoes wedi’i gyflawni o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd rhaglen ar wahân Cwm Rhondda Fach yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau lleol dros y 10 mlynedd o fuddsoddiad. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion ar adegau allweddol yn y broses, gan gynnwys pob penderfyniad pwysig.”
Wedi ei bostio ar 10/02/2026