Skip to main content

Hud a Hwyl Cerddoriaeth!

Music in Hospitalsweb

Mae staff a chleifion ysbytai wedi mwynhau perfformiadau cerddoriaeth byw a gweithdai yn rhan o fenter deimladwy - ac yn aml yn emosiynol! - gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. 

Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae Gwasanaeth y Celfyddydau'r Cyngor wedi cyflogi amrywiaeth wych o dalent leol i gyflwyno perfformiadau wythnosol yn wardiau a mannau cyffredin pum ysbyty. 

Bu cleifion yn cydganu i'w hoff ganeuon, yn chwifio'u dwylo i'r alawon ac yn mwynhau synau llonyddol y delyn, y gitâr a'r allweddell. Cafwyd llawenydd pur wrth gofio caneuon sentimental o'r gorffennol a digon o chwerthin wrth fwynhau'r "gyngerdd". 

Roedd ymwelwyr ac aelodau teuluoedd hefyd yn cymryd rhan, yn ogystal â nyrsys a staff - roedd y perfformiadau wedi'u cynllunio i gefnogi'u lles nhw hefyd. Roedd llawer o wenu a dagrau o lawenydd wrth iddyn nhw weld eu cleifion yn canu a chymryd rhan. Roedd caneuon o'r byd pop, roc, gwerin a chaneuon Cymraeg yn dod ag ymdeimlad o hiraeth ac yn dwyn atgofion i'r cof. 

Mewn mannau eraill, roedd ymwelwyr a staff yr ysbyty yn stopio i wrando ar y perfformiadau yn y mannau cymunedol. I lawer, roedd yr achlysuron yn rhywbeth i edrych ymlaen atyn nhw bob wythnos, gan gynnig eiliad o fwynhad a thawelwch mewn amgylchedd meddygol sy'n aml yn gallu peri i rywun deimlo’n unig ac o dan straen. 

Gwyliwch y fideo yma

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Mae'r Cyngor yn falch o fod wedi cyflwyno Cerddoriaeth ac Eiddilwch, sydd wedi bod yn fenter arbennig iawn. Mae'r gerddoriaeth a'r canu wedi codi ysbryd y cleifion, eu teuluoedd a staff gweithgar y GIG. 

"Roedd yn galonogol gweld y nyrsys ac aelodau'r teuluoedd yn llawn emosiwn a llawenydd wrth iddyn nhw wylio'u hanwyliaid yn canu, curo dwylo ac yn mwynhau'r gerddoriaeth a'r ddihangfa roedd yn ei darparu o amgylchedd sy'n gallu bod yn heriol i gynifer. 

"Mae Cerddoriaeth ac Eiddilwch yn enghraifft wych o'r effaith mae modd i'r Celfyddydau ei gael ar les ein trigolion. Diolch i bob un o'r artistiaid talentog am y brwdfrydedd a'r trugaredd a gyflwynon nhw. Rydw i'n edrych ymlaen at weld yr hyn mae modd i ni ei gyflawni yn 2027!"

Meddai Carlene Tucker, Rheolwr Cymorth Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Roedden ni'n falch o weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar y Cynllun Cerddoriaeth ac Eiddilwch, ac i groesawu cerddoriaeth i'n safleoedd ysbyty yn y gymuned. 

"Roedd y gerddoriaeth wedi dod ag ymdeimlad o dawelwch a chysur i amgylchedd sy'n gallu bod yn llethol i rai cleifion, ac roedd hefyd wedi helpu i godi ysbryd y staff. 

"Fe welsom ni eiliadau o lawenydd, cysylltiad, a hyd yn oed rhannu atgofion, gyda cherddoriaeth yn datgloi cydnabyddiaeth mewn ffordd na all gofal clinigol ei wneud ar rai adegau. 

"Roedd hefyd wedi creu profiad calonogol, oedd yn cael ei rannu gan staff, cleifion, ac ymwelwyr - gan gynnig eiliad o gadarnhad a myfyrdod oedd yn cael ei groesawu mewn lleoliad prysur a heriol, ac wedi ein hatgoffa ni pam ein bod ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud."

  

Meddai Rosie Dow, Pennaeth y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae ein harian Loteri Celfyddydau ac Iechyd wedi’i gynllunio i ymgorffori partneriaethau ystyrlon rhwng sefydliadau celfyddydau ac iechyd, gan gefnogi cyflawni prosiectau creadigol o ansawdd uchel sy’n gwella iechyd a lles pobl ledled Cymru.

"Mae rhaglenni fel Cerddoriaeth ac Eiddilwch yn dangos y gwahaniaeth mae modd i'r gwaith yma ei wneud – gan greu profiadau sy'n codi calonnau cleifion, yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i artistiaid, ac yn cefnogi lles staff y GIG.

"Mae'r effaith gynyddol yma hefyd yn cael ei hadlewyrchu mewn ymchwil annibynnol newydd gan Brifysgol Bangor, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, sy'n tynnu sylw at y gwerth iechyd ac economaidd sylweddol mae modd i weithgarwch y celfyddydau ei gyflawni yng Nghymru."

 

Ers tro, mae wedi'i gydnabod bod modd i gerddoriaeth gael effaith gadarnhaol ar les cleifion. Mae'n rhoi seibiant emosiynol o drefn arferol a heriau'r ysbyty. Mae modd iddo leddfu trallod ac unigrwydd, a hyd yn oed rheoli hwyliau a symptomau corfforol megis pwysedd gwaed a phoen. 

Cafodd Cerddoriaeth ac Eiddilwch ei gyflwyno yn y lle cyntaf fel cynllun peilot yn 2025. Roedd yn llwyddiant mawr, ac fe lwyddodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gyflwyno rhaglen estynedig yn 2026.

 

Gan weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cafodd Cerddoriaeth ac Eiddilwch ei gyflwyno yn Ysbyty Cwm Rhondda, Llwynypia, Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd, Ysbyty Keir Hardie, Merthyr Tudful, ac Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont ar Ogwr, gyda pherfformiad wythnosol yn cael ei gynnal ym mhob ysbyty am gyfnod o bedair mis. 

Yn bwysig, cafodd y perfformiadau gwych eu cyflwyno gan artistiaid lleol talentog o Rwydwaith Artistiaid Lleol Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhwydwaith yn cael ei reoli gan Wasanaeth Celfyddydau'r Cyngor. Dyma yw'r rhwydwaith cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n cysylltu dros 200 o aelodau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd yn y fwrdeistref sirol gyda'u creadigrwydd. 

Fe wnaeth Cerddoriaeth ac Eiddilwch alluogi 33 o artistiaid lleol i sicrhau cyflogaeth â thâl am gyfnod y cynllun. 

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i gyflwyno'r cynllun yn 2027.

Wedi ei bostio ar 27/06/2026