Skip to main content

Rhaglen gyfalaf priffyrdd y Cyngor wedi'i chytuno ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod

Highways resize wel

Mae Aelodau'r Cabinet wedi dod i gytundeb ynghylch rhaglen gyfalaf sylweddol ar gyfer Y Priffyrdd a Pheirianneg y flwyddyn nesaf (2026/27) – yn ei sgil bydd y Cyngor yn dyrannu cyllid o £41.9 miliwn ledled y gwasanaeth. Mae buddsoddi ar sail blaenoriaeth yn rhan o hyn ar gyfer meysydd megis; lliniaru llifogydd, ffyrdd, strwythurau a thomenni glo. 

Yn eu cyfarfod ddydd Mercher, Mawrth 18, fe gymeradwyodd y Cabinet y rhaglen ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd ar ddod, yn dechrau yn Ebrill 2026. Y nod o ran y cyllid yw hyn; gofalu bod rhwydwaith y ffyrdd yn barod ar gyfer y dyfodol, addasu yn sgil newid yn y galw o ran teithio a dulliau teithio, ymateb i newid yn yr hinsawdd, a hyrwyddo teithio mwy diogel a chynaliadwy yn ein cymunedau. Mae cyllid wedi'i gytuno arno ar gyfer y meysydd canlynol yn 2026/27:

  • Gwelliannau i'r priffyrdd – £6.63 miliwn
  • Goleuadau Stryd – £260,000.
  • Strwythurau – £12.22 miliwn.
  • Strwythurau Parciau – £420,000.
  • Rhaglen tomenni a diogelwch – £12.89 miliwn.
  • Rheoli traffig – £240,000.
  • Yr isadeiledd trafnidiaeth – £7.39 miliwn.
  • Rheoli Risg o ran Llifogydd – £1.89 miliwn.

Mae'r Cyngor yn gweithio hefyd i sicrhau cyllid allanol i gyd-fynd â'r rhaglen yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau dyraniad gwerth £12.89 miliwn ar gyfer tomenni glo yn 2026/27, mae hyn wedi'i gynnwys yn y rhestr uchod.  Cafodd dyraniad gwerth £4 miliwn o'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Tir a Grant Gwaith ar Raddfa Fechan ei gadarnhau'n ddiweddar; dyw'r dyraniad yma ddim wedi'i gynnwys yn y rhestr uchod.

Mae manylion llawn ynghylch y rhaglen sydd newydd ei chytuno arni wedi'u cynnwys yn adroddiad dydd Mercher y Cabinet, mae agweddau allweddol y buddsoddiad wedi'u crynhoi isod.

Ffyrdd, Strwythurau'r Priffyrdd a Strwythurau Parciau

Mae'r rhaglen yn dyrannu £5.86 miliwn ar gyfer ffyrdd cerbydau – gan gynnwys 77 o gynlluniau ail-wynebu llawn (a enwir yn yr Atodiad i adroddiad Cabinet dydd Mercher),ynghyd â mân atgyweiriadau i wyneb ffyrdd neu batsio rhannau mawr, trwsio ffensys a rhwystrau, ac atgyweiriadau brys. Yn ogystal, mae cyllid newydd wedi'i glustnodi ar gyfer 10 cynllun gwella llwybrau troed (£565,000) a gwelliannau mynediad amrywiol. Yn sgil dyraniad gwerth £200,000 ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadau mae modd ymestyn y rhaglen i gynnwys dau gynllun newydd yn Heol Y Weithfa Nwy (Aberaman) a Garth Wen (Trealaw).

Mae cyllid gwerth £12.225 miliwn wedi'i gytuno arno nawr ar gyfer strwythurau'r ffordd fawr . Mae'r canlynol yn rhan o raglen 2026/27 Pont William Edwards (Pontypridd), Pont Seren Cynon (Abercynon), pont yr A4058 (ym Mhontypridd), Pontydd y Doctor, Gogledd a De, (Trefforest), Cwlfer Gelli, Pontydd Tref Aberpennar, Pont droed Pentwyn (Treorci), Pont Brynsadler, Pont y Ffordd Fawr (Pontypridd), Pont Miskin Manor, Pont y Darren Ddu (Ynys-y-bwl), Pont Ystrad Fechan (Cwm-parc) a Phont Heol Nant-y-gwyddon (Llwynypïa).

Yn y cyfamser, mae'r gwaith ar Bont Droed Stryd y Nant (Ystrad) bron â dirwyn i ben, bydd Pont Afon Cynon (Cwm-bach) yn cael ei gwblhau yn 2026/27. Â'r gwaith wedi dechrau'r haf diwethaf, mae adolygiad o'r gwaith nesaf y mae gofyn ei gwblhau o ran rhwyllau cerrig Ffordd y Rhigos yn mynd rhagddo. Mae archwiliadau pellach ar waith o ran Pont Droed yr A4059 Stryd y Fasnach (Aberdâr). Mae opsiynau ar gyfer Pont Droed y Bibell Gludo (Abercynon) yn cael eu trin a'u trafod hefyd. Yn olaf, mae cynlluniau atgyweirio waliau cynnal a chwlferi mannau cyfyng yn cael eu dwyn ymlaen ar sail blaenoriaeth.

Mewn mannau eraill, bydd cyllid gwerth £420,000 ar gyfer strwythurau parciau yn rhoi hwb i'r gwaith ar bont droed Heol Castellau (Llantrisant), Llyn Glyncornel (Llwynypia) a glan afon Teras Kenwyn  (Pontypridd), ac yn cyllido paratoadau pellach ar gyfer amrywiol gynlluniau eraill. Mae'r rhaglen goleuadau stryd gwerth £260,000  wedi'i rhannu at ddibenion diweddaru signalau traffig a goleuadau stryd, ac mae'r gyllideb ar gyfer cynlluniau rheoli traffig ar raddfa fechan (£240,000) wedi'i gosod. Mae'r Cyngor wedi gwneud cais hefyd ar gyfer cyllid diogelwch y ffyrdd drwy'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Tomenni Glo a Lliniaru Llifogydd

Fel sydd wedi'i nodi uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £12.89 miliwn ar gyfer safleoedd Tomenni Glo dros y flwyddyn nesaf. Bydd yn cyllido rhaglen sy'n mynd rhagddi'r Cyngor o waith cynnal a chadw a monitro. Mae buddsoddi sylweddol wedi'i gynllunio ar gyfer  Mewnfa a Thomenni Abergorki (Treorci) y flwyddyn nesaf. Mae disgwyl i'r cynllun mawr yn Tylorstown fynd rhagddo wrth i gam pedwar y gwaith gael ei gwblhau ac mae cam dylunio cynllun mawr yn Nhomen Graig Ddu (Dinas) ar waith.

Mewn modd tebyg, mae'r Cyngor yn cael budd yn rheolaidd felly drwy gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd. Mae arian cyfatebol yn cael ei roi gan y Cyngor ar gyfer pob prosiect, fel rheol mae hyn werth 15%. Mae rhaglen gyfalaf dreigl tair blynedd yn nodi prosiectau, a chaiff achosion busnes eu cyflwyno gyda'r nod o sicrhau cyllid. Mae dyraniad o fwy na £4 miliwn wedi'i gadarnhau'n ddiweddar gan Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu a/neu gyflawni 24 cynllun yn 2026/27.

Bydd cyllid gwerth £1.89 miliwn ar gyfer lliniaru llifogydd sy'n rhan o'r rhaglen gyfalaf yn cael ei ddefnyddio i fod yn arian-cyfatebol ar gyfer dyraniad Llywodraeth Cymru – yn ogystal â datblygu cynlluniau y tu allan i raglen Llywodraeth Cymru, a phrosiectau gwaith bach yn ymwneud ag archwilio llifogydd. Mae'n bosibl y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd, y flwyddyn nesaf, yn codi i fwy na £6 miliwn.

Seilwaith Trafnidiaeth

Mae dyraniadaupwysigwedi'u gwneud yn gyfraniad at gyflawni prosiectau trafnidiaeth sy'n mynd rhagddyn nhw. Yn eu plith mae Coridor Teithio Cynaliadwy Llanharan (£4.5 miliwn); cafodd cynlluniau wedi'u hadolygu ar ei gyfer eu rhannu â'r cyhoedd yn hydref 2025. Mae'r gwaith ar yr A465 sef Ffordd Gyswllt Porth Cwm Cynon ar gam cynharach, a bydd yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio cyllid newydd gwerth £603,000. Mae'r ddau gynllun yma fel ei gilydd yn destun Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru, ac maen nhw'n cael eu hadolygu'n unol â hynny.

Mae dyraniadau wedi cael eu gwneud hefyd ar gyfer y Rhaglen Parcio a Theithio (£500,000) at ddibenion creu mannau parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffordd ochr yn ochr â'r gwaith o gyflawni Metro De Cymru ac a'r Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell (£550,000), sy'n targedu gwelliannau cost-isel, gwerth uchel ar gyfer datrys materion mynediad a chysylltiad lleol.

Rydyn ni wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i gyd-fynd â'r buddsoddiad yma mewn trafnidiaeth. Mae cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Pen-y-waun, cam tri prosiect Parcio a Theithio Porth, a Phorth Gogleddol Pontypridd yn rhan o hyn. Rydyn ni wedi cyflwyno ceisiadau hefyd ar gyfer cynlluniau teithio llesol ar Llwybr Cwm Cynon yng Nghwm-bach a sawl cam o waith sy'n mynd rhagddo yn Nhreorci a Threherbert.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   "Unwaith yn rhagor, mae rhaglen gyfalaf fawr wedi'i chyflwyno at ddibenion darparu cyllid ar gyfer Y Priffyrdd a Pheirianneg, dros y flwyddyn sydd ar ddod. Yn ei sgil, mae dyraniad o fwy na £41.9 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf wedi'i bennu ar gyfer meysydd sydd o bwys gwirioneddol i bobl – megis lliniaru llifogydd, ffyrdd, cynlluniau trafnidiaeth mawr, diogelwch tomenni glo, teithio llesol, goleuadau stryd a diogelwch y ffyrdd. Bydd y lefel yma o fuddsoddi yn cael ei ehangu hyd yn oed ymhellach os bydd ein hamrywiol geisiadau am gyllid yn llwyddiannus.

"Rydyn ni'n gwybod bod cyflwr ffyrdd lleol yn bwysig i drigolion, dyma'r rheswm pam ein bod ni'n  parhau â'n buddsoddiad carlam yn sgil rhaglen o 77 cynllun, yn ogystal â chyllid ar gyfer gwaith patsio ehangach, gwerth £5.86miliwn. Tra bod gwelliant amlwg wedi bod dros flynyddoedd lawer o ran pob dangosydd ynghlwm â'n buddsoddiad yn rhwydwaith y priffyrdd, rydyn ni'n cytuno hefyd bod llawer rhagor i'w wneud – a byddwn ni'n gwneud y mwyaf o'r tywydd mwyn dros y gwanwyn a'r haf i wneud cynnydd da. Mae dau gynllun ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, pellach yn rhan o hyn sef atgyweirio ffyrdd preifat sydd wedi'u gadael mewn cyflwr annerbyniol, yn Aberaman a Threalaw.

“Mae lliniaru llifogydd yn flaenoriaeth arall, ac rydyn ni'n falch o'r dyraniad gwerth £4 miliwn mae Llywodraeth Cymru wedi'i bennu i ni ar gyfer 24 cynllun yn 2026/27. Mae stormydd yn dod yn fwy cyffredin yn sgil newid yn yr hinsawdd, ac roedd y gaeaf yma'n un arbennig o wlyb, gan gynnwys mis Rhagfyr pan gafom ni dri rhybudd Oren ar gyfer glaw dros gyfnod byr o amser. Rydyn ni wedi cwblhau mwy na 100 cynllun lliniaru llifogydd lleol ers 2020, ac rydyn ni o'r farn bod y buddsoddiad yn gweithio, ond rydyn ni hefyd yn effro i'r ffaith bod llawer yn rhagor o gwlferi ac isadeileddau eraill y mae arnyn nhw angen eu diweddaru. Bydd y £1.89 miliwn yn ein cynllun cyfalaf yn arian-cyfatebol ar gyfer prosiectau Llywodraeth Cymru, ac yn helpu o ran datblygu rhaglenni newydd ar gyfer y dyfodol.

“Mae'n bwysig hefyd nodi ein gwaith yn cynnal a chadw strwythurau sy'n atgyfnerthu ein rhwydwaith priffyrdd, a'u paratoi ar gyfer y dyfodol; mae prosiectau atgyweirio mawr yn aml yn gofyn am ddylunio a pheirianneg cymhleth yn ogystal ag ystyriaethau eraill megis cyfyngiadau tymhorol ar gyfer gweithio ar afonydd. Yn rhan o'n rhaglen mae £12.22 miliwn ar gyfer sawl cynllun arall sydd wedi'i enwi. Rydyn ni hefyd yn falch o fod wedi cael dyraniad o £12.89 miliwn ar gyfer monitro tomenni glo lleol a'u cynnal a'u cadw – tasg fawr sy'n parhau i gael ei chydlynu gan aelodau ymrwymedig ein Carfan Diogelwch Tomenni Glo mewnol.

“Yn olaf, rydyn ni'n parhau i weithio y tu ôl i'r llen ar ein cynlluniau trafnidiaeth mwy eu maint, at ddibenion lliniaru tagfeydd traffig mewn lleoliadau wedi'u targedu. Roedd cynigion ar gyfer ein Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn destun ymgynghoriad yn yr hydref, ac mae swyddogion nawr yn trin a thrafod yr adborth ddaeth i law cyn cyflwyno cais cynllunio swyddogol. Mae £4.5 ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer cyflawni. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i'r gwaith ar Borth Gogledd Cwm Cynon, yr A465, sy'n cael ei ailddylunio. Ymhlith cynlluniau lleol eraill sy'n cael eu datblygu mae, cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, Penywaun a cham tri Parcio a Theithio Porth – rydyn ni'n ddiweddar wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid allanol ar gyfer y rhain."

Wedi ei bostio ar 19/03/2026