Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £13.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei waith parhaus yn archwilio safleoedd tomenni glo ledled Rhondda Cynon Taf, eu cynnal a'u cadw, a chyflawni gwaith wedi'i dargedu ynddyn nhw. Mae'r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2026/27) a bydd yn cael ei gydlynu gan ein Carfan Diogelwch Tomenni Glo. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru’r dyraniad yr wythnos yma, yn rhan o'i chyllid Grant Diogelwch Tomenni Glo ehangach ledled Cymru. Derbyniodd Rhondda Cynon Taf £11.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol yma (2025/26), ac yn sgil y cyllid newydd bydd gwaith sylweddol yn parhau am y 12 mis nesaf.
Yn enghraifft o'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo, cafodd 295 tomen leol ei harchwilio yn y naw mis yn arwain at fis Medi 2025; dyw'r gweithgarwch arferol yma ddim yn cynnwys archwilio na gwiriadau diogelwch sy'n digwydd pan fo cyfnodau hir o law trwm. Yn ychwanegol at hynny, mae Carfan Diogelwch Tomenni Glo'r Cyngor wedi gwerthuso 120 adroddiad archwilio gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u comisiynu. Yn ogystal â hynny, mae'r cyllid Grant Diogelwch Tomenni Glo hefyd yn galluogi'r Cyngor i gyflawni rhaglen waith bwysig o ran tomenni lleol. Gall y canlynol fod yn rhan o'r gwaith cynnal a chadw; clirio llystyfiant, gwagio sianeli draenio a'u hatgyweirio, atgyweirio pibelli a chwlferi, ailosod draeniau, ac atgyweirio yn sgil erydu.
Ymhlith enghreifftiau diweddar mae gwaith cynnal a chadw yn 'Tunnel Tip' Cwm-bach (o fis Awst 2025), gwaith clirio a draenio ym Mharc Gwledig Cwm Clydach (mis Medi 2025), archwiliadau yn Nhomen Gilfach-goch (mis Hydref 2025), gwaith cynnal a chadw yn Nhomen Craig y Dyffryn, Aberpennar (mis Tachwedd 2025), gwaith draenio a llystyfiant yng Nglofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl (mis Ionawr 2026), gwaith sianeli cwrs dŵr yn Nhomen Glofa’r Cwm yn Llanilltud Faerdref (mis Ionawr 2026), gwaith cynnal a chadw yn Nhomen Cefnpennar (mis Ionawr 2026), a gwaith cynnal a chadw yng Nglofa Lewis Merthyr, Trehafod (mis Chwefror 2026).
Mae gwaith atgyweirio penodol o natur ehangach ei faint yn mynd rhagddo hefyd ar safleoedd penodol – gan gynnwys rhaglen adfer yn sgil Tirlithriad Tylorstown, gwaith atgyweirio yn Nhomen Genedlaethol Wattstown, creu traciau yn Nhomen Cefnpennar, a gwaith atgyweirio i lan yr afon mewn lleoliad ger Safle Chwaraeon Pentwyn ym Mhenrhiwceiber. Yn ogystal, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £4.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun mawr sydd ar y gweill yn Nhomen Graig Ddu, Dinas.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:
Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth pwysig Llywodraeth Cymru sy'n helpu Awdurdodau Lleol i archwilio a chynnal a chadw safleoedd hen byllau glo yn ein cymunedau – ac i ymgymryd â gwaith wedi'i dargedu lle mae hynny'n angenrheidiol. Mae ein Carfan Diogelwch Tomenni Glo yn y Cyngor yn grŵp ymroddgar o swyddogion sy'n monitro safleoedd lleol ac yn cydlynu ein gweithgarwch ledled y Fwrdeistref Sirol – gall trigolion fod yn dawel eu meddwl bod y gwaith yma'n mynd rhagddo, bob dydd.
Mae dyraniad newydd y Grant Diogelwch Tomenni Glo gwerth £13.7 miliwn yn dilyn cyllideb eleni gwerth £11.4 miliwn. Mae'r cyllid sylweddol yma yn dangos yn glir fod gofalu bod safleoedd tomenni glo mor ddiogel â phosibl yn flaenoriaeth i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio at ddibenion archwiliadau arferol, gwiriadau diogelwch mewn tywydd garw, gwaith cynnal a chadw ar raddfa fechan, a gwaith atgyweirio o natur ehangach mewn lleoliadau allweddol. Un o blith y safleoedd hynny yw Tomen Graig Ddu, Dinas a sicrhaodd gyllid gwerth £4.8 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dylunio a chyflawni cynllun sefydlogi cyflwr y tir ac ymgymryd â gwaith atgyweirio strwythurol.
Mae swyddogion yn datblygu ein rhaglen waith ymhellach nawr, gyda'r cyllid sydd newydd ei ddyrannu ar gyfer 2026/27, a bydd y Cyngor yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion ynghylch ein prif weithgarwch o ran gwaith dros y flwyddyn nesaf – yn enwedig felly lle mae cynlluniau y mae modd eu gweld yn digwydd mewn cymunedau lleol.
Wedi ei bostio ar 16/03/2026